Cynnal Annibyniaeth
Cynnal a Chadw ac Atgyweirio
Perchenogion Cartrefi Preifat a Thenantiaid
Os oes angen gwaith trwsio ar eich cartref a chwithau’n denant, dylech gysylltu â’ch landlord. Os ydych chi’n berchennog tŷ, ewch at fasnachwr cyfrifol bob amser. Cyfeiriwch at Dewis Crefftwr Dibynadwy i gael cyngor a pheidiwch fyth â chytuno i waith trwsio ar doi neu ddreifiau sy’n cael ei gynnig wrth y drws.
Os oes gennych chi anabledd a’ch bod chi dros 60 oed, ond heb fod yn hyderus ynghylch trefnu atgyweiriadau eich hun, gall Gofal a Thrwsio eich cynorthwyo chi i drefnu crefftwyr.
Mae Cyngor Sir Penfro hefyd yn cynnig Benthyciad Gwella Cartref i’w ddefnyddio ar gyfer gwaith cynnal sy’n gysylltiedig â gwneud cartref yn gynhesach, mwy diogel neu sicrach.
Tenantiaid yr Awdurdod Lleol
Caiff gwybodaeth am gyfrifoldebau’r Cyngor a thenantiaid, yn ogystal â sut i hysbysu gwaith trwsio ac amserau targed eu hegluro yn Atgyweiriadau.
Gallwch wneud gwelliannau i’ch eiddo eich hun ond rhaid i chi wneud cais yn gyntaf i gael cymeradwyaeth cyn dechrau unrhyw waith o’r fath.
Tenantiaid Cymdeithasau Tai Cymdeithasol
Cysylltwch â’ch landlord i drafod eich anghenion.