Cynnal Annibyniaeth
Cymhorthion a Chyfarpar byw bob dydd
Cyn i chi brynu neu logi cyfarpar
- Mae Cymhorthion a Chyfarpar byw bob dydd ar gael drwy eich gwasanaeth cyfarpar cymunedol lleol, gallwch gyrchu’r gwasanaeth hwn drwy atgyfeiriad gan Therapi Galwedigaethol. Mae’r cyfarpar yn cael ei roi’n rhad ac am ddim, ar fenthyg i unigolion ag angen wedi’i asesu.
- Peidiwch ag ymrwymo i ddewis offer cyn i chi gadarnhau’r holl ddewisiadau a chyflenwyr
- Profwch cyn prynu trwy ofyn am arddangosiad neu brawf
- Cadarnhewch bolisi’r cwmni ar ddychwelyd cyfarpar a gwarantau
- Efallai y bydd gennych hawl i Ostyngiad TAW (yn agor mewn tab newydd) os oes gennych anabledd
Cyngor Diduedd
Mae AskSara (yn agor mewn tab newydd) yn ddull hunanasesu sy’n rhoi cyngor rhad ac am ddim ar ba gymhorthion a chyfarpar sy’n cyd-fynd orau â’ch anghenion a chyllideb ar sail atebion a roddwch am eich iechyd a’ch galluoedd.
Mae Living Made Easy (yn agor mewn tab newydd) yn wefan cyngor a gwybodaeth ddiduedd ynghylch offer bywyd bob dydd ac agweddau eraill ar fyw’n annibynnol sy’n bwriadu rhoi gwybodaeth gynhwysfawr ac annibynnol am offer bywyd bob dydd sydd ar gael i’r cyhoedd gan gyflenwyr cenedlaethol. Yn gefn i’r wybodaeth hon am gynnyrch mae cyngor arbenigol a grëwyd gan dîm o Therapyddion Galwedigaethol.
Mae Research Institute for Disabled Consumers (yn agor mewn tab newydd) yn elusen genedlaethol annibynnol sy’n rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr ac adolygiadau defnyddwyr i helpu pobl anabl a hŷn ddewis y cynhyrchion a gwasanaethau cywir i fyw bywyd annibynnol. Mae ganddynt ganllawiau penodol ar y canlynol:
- Cadeiriau codi a gorwedd (yn agor mewn tab newydd)
- Sgwteri (yn agor mewn tab newydd)
- Lifftiau grisiau (yn agor mewn tab newydd)
- Hawliau defnyddwyr (yn agor mewn tab newydd)