Cynnal Annibyniaeth

Eich bywyd bob dydd

  1. Hunanasesu
  2. Asesiadau gwasanaethau oedolion
  3. Asesu anghenion cymwys
  4. Gallu diwallu’r angen
  5. Pobl gydag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth
  6. Help wrth adael yr ysbyty  

 

Hunanasesu

Ar rhai adegau yn eu bywyd, gall llawer o bobl deimlo bod angen help a chefnogaeth arnynt gyda thasgau bywyd bob dydd.

Rydym yn cydnabod bod gan bob unigolyn ei amgylchiadau a’i anghenion penodol ei hun.

Mae’r adran hon yn darparu gwybodaeth am wasanaethau a sefydliadau cymorth a all eich helpu i gael mwy o annibyniaeth, dewis a rheolaeth, er mwyn eich helpu i reoli eich bywyd eich hun yn eich cartref eich hun. 

Asesiadau gwasanaethau oedolion

Os nad ydych yn gallu cyflawni tasgau sylfaenol mwyach, fel ymolchi a gwisgo neu fynd i’r tŷ bach, gall y gwasanaethau oedolion wneud asesiad. Os byddant yn dod i’r casgliad bod arnoch angen help, byddant yn gweithio gyda chi i gytuno ar eich nodau, yn nodi ac o bosibl yn trefnu gwasanaethau a fydd o fudd i chi. Os ydych chi’n meddwl eich bod angen cymorth, cysylltwch â Chyngor Sir Penfro am ragor o wybodaeth ar 01437 764551.

Asesu anghenion cymwys

Sgwrs yw’r peth cyntaf wrth ddarganfod pa anghenion cymwys sydd gan rywun. Yn ystod y sgwrs hon byddwn yn gofyn beth sydd o bwys i chi. Byddwn yn eich holi ynghylch eich amgylchiadau; canlyniadau personol a rhwystrau i gyflawni’r canlyniadau hynny; unrhyw beryglon i chi neu i bobl eraill; a’ch cryfderau a galluoedd. Byddwn hefyd yn eich holi ynghylch y cymorth a gewch eisoes a byddwn yn dweud ble gallwch gael y cymorth sydd arnoch ei angen.

Mae meini prawf cymhwyster cenedlaethol ar gyfer gofal a chymorth i oedolion, plant a gofalwyr. Mae 4 maen prawf yn ffurfio cymhwyster, sy’n rhaid eu cyrraedd i’r angen fod yn gymwys. Mae tabl meini prawf ar gyfer oedolion, gofalwyr a phlant. Mae cymhwyster diofyn i’r rhai sydd mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod.

  • Angen sy’n penderfynu cymhwyster yn hytrach na’r unigolyn ac nid yw’n ymwneud â hawl i wasanaeth.
  • Caiff ei ddefnyddio i warantu mynediad at ofal a chymorth i’r rhai na all gyflawni eu canlyniadau personol hebddo.
  • Fe all rhai anghenion gael eu diwallu trwy gynllun gofal a chymorth a rhai trwy fynediad at wasanaethau cymunedol.
  • Gallai gwasanaethau cymunedol gynnwys y rhai sy’n cael eu darparu gan sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector, yn ogystal â grwpiau cymunedol, teulu a chyfeillion.
  • Os na all darparu gofal a chymorth helpu’r unigolion gyflawni eu canlyniadau, nid yw mater cymhwyster yn codi.

 


Meini prawf cymhwyster oedolion a gofalwyr aeddfed 

Maen prawf 1af

Anghenion yn deillio o iechyd corfforol neu feddyliol, oed anabledd, dibyniaeth ar gyffuriau neu sylweddau eraill

2il faen prawf
  • Gallu gofalu amdanynt eu hunain neu ddilyn arferion cartref
  • Gallu cyfathrebu
  • Amddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod
  • Cyfranogi mewn gwaith, addysg, dysgu neu weithgareddau hamdden
  • Cynnal neu ddatblygu cysylltiadau teuluol neu gysylltiadau personol arwyddocaol eraill
  • Dayblygu a cynnal cysylltiadau cymdeithasol a chyfranogi yn y gymuned
  • Cyflawni cyfrifoldebau gofalu am blentyn
3ydd maen prawf

O ganyniad, maent yn methu diwallu'r angen hwnnw, naill ai ar eu pennau'u hunain, neu gyda chymorth pobl eraill sydd eisiau helpu, neu gyda chymorth y gymuned

4ydd maen prawf

O ganlyniad, maent yn annhebygol o gyflawni un newu fwy o'u canlyniadau personol oni bai fod yr awdurdod lleol yn darparu neu'n trefnu gofal a chymorth 

Gallu diwallu’r angen

Ystyrir bod pobl yn methu diwallu angen os yw gwneud hynny:

  • yn achosi poen sylweddol, gwewyr meddwl neu ofid i’r unigolyn;
  • yn peryglu neu’n debygol o beryglu iechyd neu ddiogelwch yr unigolyn neu rywun arall;
  • yn cymryd llawer mwy o amser i’r unigolyn nag y byddai disgwyl fel arfer.

 

Pobl gydag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth

Bydd anghenion pobl sydd ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth yn cael eu hasesu gan weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, fel rhan o asesiad cyfannol. Bydd yr asesiadau hyn yn ystyried hawl i ofal cymdeithasol a’r GIG.

Help wrth adael yr ysbyty

Mae cydweithwyr ym maes Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cydweithio’n agos gyda sefydliadau’r sector gwirfoddol er mwyn sicrhau eich bod yn ddiogel a chyfforddus pan fyddwch yn dychwelyd i’ch cartref ar ôl cyfnod yn yr ysbyty. Bydd cynllun ar gyfer eich rhyddhau o’r ysbyty’n cael ei lunio er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y gefnogaeth fwyaf priodol pan fyddwch yn dychwelyd i’ch cartref. Mae hyn yn golygu na ddylech orfod aros yn yr ysbyty am fwy o amser nag sy’n angenrheidiol. 

 

Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd) y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall

 

ID: 2013, adolygwyd 13/02/2026