Cynnal Annibyniaeth

Therapi Galwedigaethol

Mae'r gwasanaeth Therapi Galwedigaethol (OT) cymunedol yn helpu pobl o bob oedran sy'n cael anhawster wrth gwblhau gweithgareddau o ddydd i ddydd oherwydd anabledd, salwch neu henaint i ddod o hyd i ffyrdd o ymdopi ag effeithiau anabledd.

Bydd Therapydd Galwedigaethol yn ymweld â chi yn eich cartref lle y gall arsylwi orau ar y ffordd rydych yn ymdopi ar hyn o bryd a gweithio gyda chi i ddatblygu ffyrdd o addasu technegau, defnyddio cyfarpar neu addasu eich cartref er mwyn gwneud tasgau o ddydd i ddydd yn haws ac yn fwy diogel.

Nod y gwasanaeth OT yw:

  • Darparu cyngor a gwybodaeth am arfer diogel ac Atal Cwympiadau
  • Darparu cyngor a gwybodaeth am Gymhorthion Byw o Ddydd i Ddydd a all rhoi mwy o reolaeth ac annibyniaeth i chi
  • Cyfeirio at dechnoleg, fel monitro o bell a larymau argyfwng i'ch helpu i fyw yn annibynnol
  • Cyfeirio at gyfarpar er mwyn gwneud eich cartref yn fwy diogel
  • Nodi ffyrdd addas o Addasu Eich Cartref sydd eu hangen er mwyn eich galluogi i aros yn ddiogel yn eich cartref
  • Rhoi cymorth i chi gyda symud i lety amgen os yw'r angen yn ymwneud â'ch anabledd ac nad yw'n rhesymol nac yn ymarferol i addasu eich cartref
  • Gweithio'n agos gyda gwasanaethau eraill i'ch cefnogi yn 'holistaidd'.

I wneud atgyfeiriad i gael asesiad therapi galwedigaethol cysylltwch â: 

Ffôn: 01437 764551

Ebost: enquiries@pembrokeshire.gov.uk

Rhif ffôn argyfwng y tu allan i oriau: 0345 601 5522

Ar gyfer unrhyw gwestiynau, gwybodaeth neu gyngor cysylltwch â: 

Ebost: dutyot@pembrokeshire.gov.uk  

Cysylltiadau Defnyddiol:

Dewis Cymru y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall

ID: 2483, adolygwyd 27/04/2023