Cynnal yr Asesiad - Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae
Cynnal yr Asesiad - Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae
Yn ogystal â phennu darpariaeth sylfaenol, bydd yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn ei gwneud yn bosibl i gyflawni'r canlynol:
- Nodi bylchau o ran gwybodaeth, darpariaeth, darparu gwasanaethau a gweithredu polisïau
- Cefnogi'r gwaith o sefydlu tystiolaeth er mwyn rhoi syniad o'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â digonolrwydd cyfleoedd chwarae
- Amlygu ffyrdd posibl o fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â gweithio mewn partneriaeth
- Mewnbwn a chyfranogiad pob partner sy'n meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth
- System fonitro a fydd yn cynnwys ac yn gwella cyfathrebu rhwng gweithwyr proffesiynol
- Nodi enghreifftiau o arfer da
- Mwy o waith partneriaeth wrth asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae
- Nodi camau gweithredu ar gyfer y Cynllun Gweithredu ar Sicrhau bod Digon o Gyfleoedd Chwarae ar gael sy'n cyd-fynd â'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae
Lluniwyd templed i gefnogi arfarniad corfforaethol o'r materion y mae angen eu hystyried fel y nodir yn y Canllawiau Statudol. Cyflwynir y dangosyddion a restrir ym mhob mater fel dangosyddion enghreifftiol y dylid eu diwygio i ymdrin â materion lleol fel y bo'n briodol.
Mae'n rhaid i'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ddangos bod yr Awdurdod Lleol wedi ystyried ac asesu'r materion a nodir yn Rheoliadau'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (Cymru) 2012 a'r Canllawiau Statudol.
Yn ogystal â rhoi gwybodaeth sylfaenol, gall yr Asesiad gynnwys enghreifftiau o arfer cyfredol y mae'r Awdurdod Lleol am dynnu sylw ato.
Efallai y bydd Awdurdodau Lleol am ystyried strwythuro'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn y ffordd ganlynol ac o leiaf fynd i'r afael â'r holl adrannau a nodir.
Prif Ddatganiad
Dylai'r adran hon gael ei defnyddio i gyfleu'r ffaith bod yr Awdurdod Lleol yn cydnabod gwerth a phwysigrwydd chwarae ym mywydau plant
Mae Sir Benfro’n un o leoedd arbennig Prydain, yn cyfuno rhai o’r golygfeydd arfordirol mwyaf ysblennydd â threftadaeth ddiwylliannol unigryw. Mae bron i draean o’r sir ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro – yr unig barc cenedlaethol arfordirol yn y wlad, ac mae ei thraethau niferus yn cael eu hadnabod fel rhai sydd gyda’r harddaf yn unrhyw le. Mae hyn i gyd yn ei gwneud yn ardal arbennig o ddeniadol a boddhaus i fyw, gweithio a chwarae ynddi.
Mae gan y Sir boblogaeth breswyl o 126,751, yn ôl ffigyrau poblogaeth canol 2020 a ddarparwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy’n cynyddu’n sylweddol iawn trwy gydol misoedd yr haf trwy ei thwristiaeth ffyniannus. Mae’n wledig yn y bôn o ran cymeriad, a’r canolfannau poblogaeth mwyaf yw Hwlffordd (y dref sirol), Dinbych-y-pysgod, Aberdaugleddau, Penfro a Doc Penfro ac Abergwaun, ynghyd â thref lai Arberth.
Yn ogystal â’i harddwch naturiol, mae gan y sir dreftadaeth hanesyddol sylweddol. Mae amaethyddiaeth yn dal i fod yn nodwedd bwysig hefyd. Fel un o’r harbwrs dŵr dwfn ceinaf yn y wlad, mae moryd Aberdaugleddau’n ganolfan bwysig ar gyfer y diwydiant ynni, gyda chyfleusterau ar gyfer puro, storio a dosbarthu olew. Yn ogystal â’r presenoldeb diwydiannol, mae’r foryd hefyd yn ardal boblogaidd ar gyfer gweithgareddau hamdden gan gynnwys hwylio a chwaraeon dŵr. I lawer o bobl, mae gan Sir Benfro atyniad cryf fel lle i fyw, gweithio a chwarae; gellir crynhoi eu rhesymau dros hyn mewn dau air mwy na thebyg – ansawdd bywyd.
Mae chwarae’n un o hawliau plant ac mae’r hawl honno wedi’i hymgorffori yn Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae hyn yn golygu bod gan bob plentyn sy’n byw yn Sir Benfro hawl i ‘gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae a hamdden’ (Erthygl 31 – CCUHP). Diffiniad poblogaidd o chwarae o fewn y proffesiwn yw bod chwarae’n ymddygiad a ddewisir yn rhydd, a gyfarwyddir yn bersonol, a gymhellir yn gynhenid sy’n ennyn ymgysylltiad y plentyn mewn modd gweithredol’ (Hughes a King, 1982). Y goblygiad allweddol yw mai plant sy’n dewis BETH maent yn ei wneud, SUT y maent yn ei wneud a PHAM eu bod yn ei wneud.
Mae plant a phobl ifanc (PPhI) yn dysgu amdanynt hwy eu hunain, am eraill ac am y bydd trwy chwarae. Mae Grŵp Strategaeth Chwarae Sir Benfro’n addo gweithio i wella argaeledd cyfleoedd chwarae o ansawdd da, ymrwymiad iddynt a dealltwriaeth amdanynt ar gyfer plant a phobl ifanc Sir Benfro. Mae’r Strategaeth 3 blynedd yn cwmpasu’r holl blant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed a bydd yn cael ei hategu gan Gynllun Gweithredu Blynyddol. Mae’r awdurdod lleol yn gweithio gyda phob ysgol yn Sir Benfro i roi polisi chwarae safonedig ar waith, i sicrhau bod chwarae’n cael ei hyrwyddo ac nad yw cyfyngu ar chwarae’n cael ei ddefnyddio fel sancsiwn. Mewn lleoliad ieuenctid disgwylir y bydd grŵp o blant neu bobl ifanc yn rhoi eu cynllun gweithredu ar waith ac yn ei fonitro.
Cyd-destun
Dylai'r adran hon ddisgrifio'r fethodoleg a ddefnyddir i gynnal a chymeradwyo'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a'r Cynllun Gweithredu ynghyd ag unrhyw ymgynghori â phartneriaid ar yr Asesiad/Cynllun Gweithredu. Dylai hefyd restru'r partneriaid allweddol a fu ynghlwm wrth y broses a nodi unrhyw heriau a wynebwyd wrth gynnal yr Asesiad. Dylai ddisgrifio'r dull y mae'r Awdurdod Lleol yn cynnig ei ddefnyddio i ddatblygu'r camau gweithredu a nodir ar gyfer y cynllun gweithredu.
Rhoddodd Cyngor Sir Penfro (y Cyngor) gomisiwn i Premier Advisory Group (PAG) i gwblhau’r Asesiad hwn o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Er mwyn sicrhau bod PAG yn ateb gofynion y fanyleb ar gyfer Asesiad y Cyngor o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, defnyddiwyd methodoleg drylwyr â dulliau cymysg a oedd yn cynnwys casglu a dadansoddi data cynradd ac eilaidd, a hwnnw’n ddata ansoddol a meintiol. Thema arweiniol trwy gydol y gwaith casglu a dadansoddi data oedd sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed, ac felly cafodd ymchwil ddesg ei hategu gan arolygon a gwblhawyd gan blant a phobl ifanc, rhieni/gofalwyr a darparwyr, yn ogystal ag arsylwi ar chwarae rhydd. Cynhaliwyd cyfweliadau 1:1 hefyd gyda gweithwyr chwarae i ddeall chwarae o safbwynt gweithwyr proffesiynol ledled y sir.
Cafodd y gwaith maes a’r ymchwil a oleuodd Asesiad Cyngor Sir Penfro o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2022 eu gwneud yn ystod y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2021 a mis Mawrth 2022. Fe wnaed mathau amrywiol o waith ymchwil a dadansoddi:
- Ymchwil ddesg strwythuredig
- Cyfweliadau dros y Ffôn gyda Chymorth Cyfrifiadur (CATI) gyda gweithwyr chwarae
- 2 grŵp ffocws gyda phlant a phobl ifanc
- Holiadur Survey Monkey ar-lein gyda rhanddeiliaid allweddol
- Holiadur Survey Monkey ar-lein gyda rhieni/gofalwyr
- Holiadur Survey Monkey ar-lein gyda phlant a phobl ifanc
- Arolwg papur i blant dan 5 oed
- Ffurflenni ymgynghori ynghylch arsylwi ar chwarae
Ymchwil ddesg
Ar lefel Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI), fe gasglwyd data trwy ymchwil ddesg gan ddefnyddio ffynonellau data eilaidd i fapio’r galw am gyfleoedd chwarae a nifer y plant a phobl ifanc ledled yr awdurdod lleol (ALl). Fe ganolbwyntiodd yr ymchwil ar amcanestyniadau poblogaeth, ymfudiad a’r niferoedd mewn grwpiau allweddol, i fapio’r galw cyfredol a disgwyliedig am gyfleoedd chwarae. Fe wnaed ymdrech ar y cyd i gael y data ymarferol mwyaf cyfredol o’r ffynhonnell fwyaf priodol, a rhoddwyd sylw dyladwy i raddfeydd amser ar gyfer rhyddhau’r data mwyaf perthnasol. Gan hynny, cafwyd data’n bennaf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a chafodd ei ategu a’i gefnogi gan ddata o’r CYBLD, y Cyfrifiad Cenedlaethol, Cyllid a Thollau EM, a’r Asesiad o Lesiant Lleol.
Ymgynghori â grwpiau allweddol
Yn dilyn dadansoddi data wrth ddesg, fe ymgynghorodd PAG ag ystod o grwpiau allweddol, gan gynnwys plant a phobl ifanc 0-17 oed, rhieni/gofalwyr ledled Sir Benfro a gweithwyr chwarae sy’n gweithio mewn ystod o ddarpariaethau ieuenctid ac ar ôl ysgol ar hyn o bryd.
Yn y lle cyntaf, fe greodd PAG arolwg ar-lein addas i blant i gael ei gwblhau gan blant a phobl ifanc 5-17 oed; cafodd arolwg papur ar gyfer plant dan 5 ei ddosbarthu ledled Sir Benfro hefyd. Yn sgîl effaith COVID-19, roedd cyfleoedd ar gyfer ymgynghori wyneb yn wyneb yn gyfyngedig. O ganlyniad, fe ymgynghorodd PAG â phlant a phobl ifanc trwy grwpiau ffocws a thaflen arsylwi ar chwarae, a lenwyd gan weithwyr chwarae i wneud sylwadau am y chwarae yr oedd plant a phobl ifanc yn ei fwynhau mewn lleoliadau.
Rhannwyd arolwg ar-lein byr, gwirfoddol a dienw gyda rhieni/gofalwyr yn yr ardal, a oedd yn casglu eu barn gan gynnwys eu canfyddiad am fwynhad plant o chwarae, ochr yn ochr â’u diogelwch a mynediad at gyfleoedd chwarae.
Cynhaliodd PAG 4 cyfweliad strwythuredig, byr gyda sampl o weithwyr chwarae ledled Sir Benfro hefyd.
Ymgynghori â rhanddeiliaid ehangach
Er mwyn ategu ein hymgynghoriad â phlant a phobl ifanc, rhieni/gofalwyr a gweithwyr chwarae, fe ymgynghorwyd ag amrywiaeth o randdeiliaid trwy arolwg ar-lein byr, gwirfoddol. Fe gasglodd yr arolwg farn rhanddeiliaid am gyfleoedd presennol ar gyfer chwarae a mynediad at gyfleusterau chwarae, ochr yn ochr ag effaith/effeithiau COVID-19 ar gyfleoedd chwarae dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Llunio Adroddiad a Chynllun Gweithredu
Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori, cafodd data ei gasglu a’i ddadansoddi i oleuo darlun cyffredinol o gyfleoedd chwarae yn Sir Benfro, gyda chrynodeb o’r canfyddiadau’n cael ei ysgrifennu mewn perthynas â digonolrwydd cyfleoedd chwarae.
Yn seiliedig ar hyn, mae PAG wedi darparu argymhellion ar gyfer sut y gall yr ALl fynd i’r afael â bylchau yn y cyflenwad a’r galw, yn ogystal ag effaith/effeithiau Covid-19. Gan ddefnyddio’r dadansoddiad a’r canfyddiadau, bydd PAG a’r Cyngor yn drafftio Cynllun Gweithredu manwl ac wedi’i gostio, y gall yr awdurdod ei roi ar waith ar unwaith.
Gweithio mewn partneriaeth
Dylai'r adran hon ddangos i ba raddau y cyfrannodd y canlynol (ac eraill) at yr Asesiad a datblygu'r cynllun gweithredu:
- Cynghorau Tref a Chymuned
- Sefydliadau trydydd sector, yn arbennig cymdeithasau chwarae rhanbarthol
- Y sector preifat, os yw'n briodol
- Grwpiau cymunedol
Roedd nifer o unigolion a chynrychiolwyr o amryw sefydliadau’n rhan o gynnal yr Asesiad a datblygu’r Cynllun Gweithredu.
Mae Chwarae Cymru wedi bod wrth law i gynnig cyngor a chymorth ychwanegol i’r Swyddog Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn ôl yr angen. Roedd yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae’n cynnwys ymgynghori â chynrychiolwyr o sefydliadau addysgol, sefydliadau chwarae ac elusennau, y Cyngor Gwirfoddol Sirol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP), aelodau o Gyngor Sir Penfro, y GIG, a thrigolion/grwpiau cymunedol lleol.
O fewn Cyngor Sir Penfro, fe ymgynghorwyr â chynrychiolwyr o’r Strategaeth Chwarae, y Gwasanaeth Cynllunio, y Gwasanaeth Tai, y Gwasanaeth Ieuenctid, Dechrau’n Deg, yr Adran Drafnidiaeth, Polisi a Chynllunio Corfforaethol, Iechyd a Diogelwch a’r Parc Cenedlaethol.
Cafwyd gwybodaeth trwy arolwg, sgyrsiau ffôn, negeseuon e-bost, ymchwil ar-lein a chanllawiau a chyngor Chwarae Cymru. Defnyddiwyd Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2019 a’r Adroddiad ar y Cynnydd gyda Chynllun Gweithredu’r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2020-2021 hefyd.
Ateb gofynion y Cynllun Gweithredu fydd y brif eitem ar yr agenda ar gyfer y Tîm Chwarae yn yr adolygiad tymhorol. Bydd yr Asesiad a’r Cynllun Gweithredu’n cael eu rhannu gyda’r Cabinet ym mis Mehefin 2022 ac byddir yn ymdrin ag unrhyw newidiadau y gofynnir amdanynt yn y Grŵp Strategaeth Chwarae.
Ymgynghoriad a chyfranogiad
Dylai'r adran hon ddisgrifio sut mae'r Awdurdod Lleol wedi:
- Casglu barn plant am y cyfleoedd chwarae sydd ar gael iddynt ar hyn o bryd, sut y byddent yn hoffi i'r gymuned eu helpu i achub ar gyfleoedd chwarae yn well a pha rwystrau sy'n eu hatal rhag chwarae
- Casglu barn rhieni, teuluoedd a rhanddeiliaid eraill ar ddarpariaeth chwarae
- Dadansoddi’r wybodaeth a’I defnyddio i lywio cynlluniau yn y dyfodol