Cynnal yr Asesiad - Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

Casgliad

Dylai'r adran hon nodi’r prif flaenoriaethau ar gyfer yr Awdurdodau Lleol yn unol â’r rheoliadau ac a ddisgrifir yn y Canllawiau Statudol.

Ffordd ymlaen

Dylai'r adran hon gyflwyno'n fyr y Cynllun Gweithredu sy'n nodi pa gamau sydd angen eu cymryd i wella'r cyfleoedd i blant chwarae yn ardal yr Awdurdod Lleol, gan gynnwys pa ddull a meini prawf a ddefnyddiwyd i gytuno ar gamau gweithredu a'u blaenoriaethu. Dylai hefyd ddisgrifio'r camau gweithredu y bydd yr Awdurdod Lleol yn eu cymryd o ran newid seilwaith, gweithio mewn partneriaeth neu ffyrdd o sicrhau ei fod mewn sefyllfa dda i gyflawni'r ddyletswydd i sicrhau bod digon o gyfleoedd chwarae ar gael.

Mae Cynllun Gweithredu Sir Benfro wedi adnabod themâu blaenoriaeth ar gyfer y tair blynedd nesaf. Cafodd hyn ei oleuo gan ddefnyddio adborth gan wasanaethau a phartneriaid sydd wedi cyfrannu at yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Rydym wedi defnyddio’r diffygion a nodir i adnabod meysydd penodol ar gyfer datblygu a gwaith pellach.

Wrth gwblhau’r asesiad, roedd nifer o themâu a gododd dro ar ôl tro, gan gynnwys:

  • Lleihad yn swm y ddarpariaeth clybiau ar ôl ysgol a’r ddarpariaeth yn ystod y gwyliau sydd ar gael
  • Diffyg trafnidiaeth gyhoeddus neu drafnidiaeth â chymhorthdal ddigonol i gynorthwyo plant a phobl ifanc i gyrraedd cyrchfannau chwarae
  • Ymgysylltu â chymunedau i werthfawrogi a buddsoddi yn ein plant a phobl ifanc, gan gynnwys mwy o ymgysylltu â rhieni/gofalwyr ynghylch pwysigrwydd chwarae
  • Yr angen am fentrau parhaus ar gyfer hyfforddiant gwaith chwarae ac i annog gweithwyr i gael hyfforddiant gwirfoddol
  • Yr angen am gymorth i adfer o COVID-19 ar gyfer staff yn ogystal â theuluoedd
  • Yr angen am gyllid rheolaidd, parhaus er mwyn cynnal digwyddiadau chwarae llwyddiannus

Mae’r camau gweithredu a nodir yn y tablau uchod yn ystyried y bylchau hyn sy’n dod i’r amlwg.

Mae newidiadau ac ad-drefnu o fewn yr ALl o ran strwythurau, gwasanaethau a phersonél, megis penodi Hyrwyddwr Plant, yn ogystal â mwy o gyllid gan Lywodraeth Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi creu mwy o ymwybyddiaeth o’r agenda chwarae a chydnabyddiaeth iddi. Ar yr amod bod monitro gofalus a chyllid digonol yn parhau, bydd hyn yn galluogi proffil chwarae i gael ei godi ledled Sir Benfro er mwyn darparu cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac iechyd a lles cymunedau. Dylai’r ALl sicrhau bod blaenoriaethau’n cael eu hail-alinio i helpu teuluoedd i adfer o’r pandemig trwy gael mynediad at gyfleoedd chwarae yn y gymuned, gofal y tu allan i’r ysgol, cyfleoedd hamdden ac adloniant a gwasanaethau ieuenctid fel y bo’n briodol

Camau gweithredu i'w cymryd i fynd i'r afael â'r materion / diffygion a gofnodwyd yn yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

Camau gweithredu arfaethedig ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023

 

Mater A:  Poblogaeth

Blaenoriaethau
  • Adolygu canfyddiadau’r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, gan gynnwys data ar lefel wardiau, ochr yn ochr â data presennol arall ar ddemograffeg, mannau agored cyhoeddus a’r ddarpariaeth o ran gwasanaethau i greu proffiliau cymunedol sy’n rhoi arwydd o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae ar gyfer plant.
Targedau
  • Bydd ymgynghori pellach yn digwydd gyda phlant Sipsiwn a Theithwyr a dylai ymgynghori ddigwydd gyda phobl ifanc LGBT+ i ganfod eu hanghenion chwarae
Cysylltu â Materion eraill
Adnoddau, gan gynnwys costau
  • Amser swyddogion
Ffynhonnell ariannu (ffrydiau arian newydd neu rai sy'n bodoli eisoes)
  • Dim ffrydiau cyllid yn eu lle i gefnogi Swyddog Chwarae Strategol a Gweithredol
 

Mater B: Diwallu anghenion amrywiol

Blaenoriaethau
  • Bydd y Grŵp Strategaeth Chwarae’n defnyddio data o Gyfrifiad 2021 pan gaiff ei ryddhau i gynllunio cyfleoedd chwarae yn y dyfodol.
  • Swyddog Chwarae Strategol a Gweithredol i drefnu bod ymgynghoriad yn digwydd gyda’r gymuned teithwyr.
  • Canfod anghenion chwarae pobl ifanc LGBT+ a phlant dawnus a thalentog trwy ymgynghori pellach i sicrhau bod y rhain yn cael eu diwallu.
Targedau
  • Defnyddio data’r Cyfrifiad i gynllunio cyfleoedd chwarae yn y dyfodol o fewn yr Awdurdod Lleol.
  • Ymgynghoriad i ddigwydd gyda’r gymuned teithwyr i asesu eu hanghenion o ran chwarae. Swyddog Chwarae Strategol a Gweithredol i feithrin ymddiriedaeth yn y grŵp cymunedol yma.
  • Swyddog Chwarae Strategol a Gweithredol i geisio cyllid amgen os bydd grantiau LlC yn dod i ben.
  • Swyddog Chwarae Strategol a Gweithredol i ymgynghori ymhellach i asesu anghenion cymunedau o ran chwarae.
  • Swyddog Chwarae Strategol a Gweithredol i ddatblygu perthynas weithio gyda’r gwasanaeth ieuenctid i gefnogi pobl ifanc Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu deall a’u diwallu.
Cysylltu â Materion eraill

A

Adnoddau, gan gynnwys costau
  • Amser swyddogion
Ffynhonnell ariannu (ffrydiau arian newydd neu rai sy'n bodoli eisoes)
  • Dim ffrydiau cyllid yn eu lle ar hyn o bryd i wella cyfleoedd chwarae yn Sir Benfro heblaw am Grantiau Llywodraeth Cymru.
  • Dim ffrydiau cyllid yn eu lle ar hyn o bryd i wella cyfleoedd chwarae yn Sir Benfro

 

Mater C:  Y lle sydd ar gael i blant chwarae

Blaenoriaethau
  • Mae cyllid wedi cael ei ddyrannu i ddatblygu nifer o barciau chwarae yn y sir gan ddefnyddio cyllid LlC.
  • Y Cynllun Datblygu Lleol i gael ei ailddrafftio.
  • Adolygu’r adroddiad Cyflwr Parciau Chwarae a’r CDLl pan fydd yn barod a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau’r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae
  • Dyrannu cyllid i wella darpariaeth chwarae ledled y sir
  • Dylai safleoedd tir llwyd gael eu hasesu hefyd o ran eu priodoldeb ar gyfer darpariaeth chwarae
  • Cwblhau archwiliad o arwyddion blaenoriaeth i chwarae
  • Codi rhagor o ymwybyddiaeth o gyfleoedd i chwarae ar y stryd.
  • Dyrannu cyllid i brynu arwyddion
Targedau
  • Mae angen cyllid pellach i sicrhau bod yr holl barciau chwarae’n dal i gyrraedd y safon ac yn ddefnyddiadwy.
  • Rhannu gyda’r partïon perthnasol unwaith bydd wedi’i gwblhau.
  • Sicrhau bod yr adroddiad Cyflwr Parciau Chwarae a’r CDLl yn cyd-fynd â blaenoriaethau’r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae
  • Mae angen i bwysigrwydd chwarae gael ei hyrwyddo gan holl staff CSP – Mae Chwarae’n Fusnes i Bawb
  • Arolwg i gael ei gynnal i asesu safleoedd tir llwyd
Adnoddau, gan gynnwys costau
  • Amser swyddogion
Ffynhonnell ariannu (ffrydiau arian newydd neu rai sy'n bodoli eisoes)
  • Dim ffrydiau cyllid yn eu lle ar hyn o bryd i wella cyfleoedd chwarae yn Sir Benfro nac i gynnal yr hyn sydd gennym o ran parciau chwarae.
  • Dim ffrydiau cyllid yn eu lle ar hyn o bryd i wella cyfleoedd chwarae yn Sir Benfro
  • Dim ffrydiau cyllid yn eu lle ar hyn o bryd yn Sir Benfro i brynu arwyddion

 

Mater D:  Darparu cyfleoedd dan oruchwyliaeth

Blaenoriaethau
  • Lledaenu negeseuon am bwysigrwydd cyfleoedd hamdden a diwylliannol, i gael mynediad at weithgareddau rhad-ac-am-ddim trwy bartneriaid allweddol.
  • Swyddogion Datblygu Gofal Plant a Swyddog Gwybodaeth i Deuluoedd i weithio mewn partneriaeth gyda lleoliadau i gasglu gwybodaeth a storio canfyddiadau i fynd i’r afael â newidiadau mewn digonolrwydd.
  • Sicrhau bod gan Sir Benfro ddarparwyr ac ymarferwyr chwarae o ansawdd da.
  • Swyddogion Gofal Plant i adolygu proses rhestr wirio’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ac i adnabod unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth 
  • Parhau i hyrwyddo mentrau rhad-ac-am-ddim i sicrhau bod teuluoedd yn cymryd mantais o’r gweithgareddau chwaraeon a hamdden sydd ar gael iddynt
  • Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd bod yn egnïol nid dim ond i blant a phobl ifanc ond i rieni hefyd.
Targedau
  • Codi ymwybyddiaeth o fod yn egnïol trwy barhau i hyrwyddo gweithgareddau i deuluoedd.
  • Parhau i estyn allan at grwpiau cymunedol i hyrwyddo hamdden ac ystyried darparu cymhorthdal neu gyllid i dalu am safleoedd ar gyfer gwaith chwarae, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig.
  • Cynnal arolygon/archwiliad i fynd i’r afael ag unrhyw newidiadau/anghenion o ran digonolrwydd.
  • Bydd Swyddogion Datblygu Gofal Plant yn cynnal SACERS gwella i godi amgylcheddau chwarae cyfoethog.
  • Bydd Swyddogion Datblygu Gofal Plant yn cynnal archwiliadau SACERS gyda’r holl leoliadau clybiau y tu allan i’r ysgol
  • Bydd Swyddogion Datblygu Gofal Plant yn cynnal archwiliadau SACERS gyda’r holl leoliadau clybiau y tu allan i’r ysgol
  • Dyrannu cyllid i wella darpariaeth chwarae ledled y sir
  • Parhau i hyrwyddo chwarae gydag asiantaethau partneriaeth megis Chwaraeon Sir Benfro.
Adnoddau, gan gynnwys costau
  • Amser swyddogion
Ffynhonnell ariannu (ffrydiau arian newydd neu rai sy'n bodoli eisoes)
  • Dim ffrydiau cyllid yn eu lle ar hyn o bryd i wella cyfleoedd chwarae yn Sir Benfro

 

Mater E:  Taliadau ar gyfer darpariaeth chwarae

Blaenoriaethau
  • Dylai’r ALl ystyried sut y gall ddarparu cyllid hirdymor ar gyfer trafnidiaeth â chymhorthdal i leoliadau, yn enwedig y rhai mewn ardaloedd gwledig neu i grwpiau o blant â nodweddion gwarchodedig.
  • Defnyddio rhagor o wybodaeth unwaith y bydd ar gael o Gyfrifiad 2021 i gynllunio gweithgareddau hamdden i gael eu darparu ar gyfer plant mewn teuluoedd incwm isel
  • Sefydlu mecanweithiau i gofnodi darpariaeth a safleoedd am ddim/cost isel ar gyfer chwarae
Targedau
  • Swyddog Chwarae Strategol a Gweithredol i geisio cyllid amgen os bydd grantiau LlC yn dod i ben.
  • Defnyddio data’r Cyfrifiad unwaith y bydd ar gael i gynllunio ffordd ymlaen i gynorthwyo teuluoedd ar incwm isel i fynychu mentrau chwarae.
  • Ymchwilio i’r modd y gellid darparu trafnidiaeth â chymhorthdal i gynyddu’r ystod o gyfleoedd chwarae sydd ar gael i blant, yn enwedig y rhai mewn ardaloedd gwledig
  • Swyddogion Datblygu Gofal Plant i ddatblygu mecanweithiau i gofnodi darpariaeth chwarae gost isel a gynigir o fewn yr ALl
Adnoddau, gan gynnwys costau
  • Amser swyddogion
Ffynhonnell ariannu (ffrydiau arian newydd neu rai sy'n bodoli eisoes)
  • Dim ffrydiau cyllid yn eu lle ar hyn o bryd i wella cyfleoedd chwarae yn Sir Benfro

 

Mater F:  Mynediad i le/darpariaeth

Blaenoriaethau
  • Parhau i ddefnyddio sianeli hysbysebu rhad-ac-am-ddim a gwneud gwaith allgymorth cymunedol i sicrhau bod teuluoedd yn cael eu hysbysu'n gyson. Cydweithio’n agos gydag ysgolion i gyfleu negeseuon am chwarae
  • Cyflwyno cais i grŵp strategol CCG am gymorth gyda chyllid ar gyfer Swyddog Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Dan Hyfforddiant
Targedau
  • Sicrhau bod y wefan wedi’i neilltuo ar gyfer chwarae a phlatfformau’r cyfryngau cymdeithasol yn cael eu diweddaru ag unrhyw fentrau chwarae newydd a bod rhieni’n cael eu cyfeirio’n rhwydd at wybodaeth am chwarae a phwysigrwydd chwarae, yn ogystal â’r gwasanaethau sydd ar gael. Sicrhau bod yr ALl yn rhoi cyhoeddusrwydd i wybodaeth i gefnogi rhieni/gofalwyr i’w helpu i roi anogaeth ar gyfer chwarae gyda’u plant.
  • Ystyried sut i hyrwyddo cyfleoedd i blant sydd o bosibl heb fynediad rheolaidd at y rhyngrwyd, e.e. trwy bosteri, taflenni yn y gymuned leol
  • Cais wedi’i gyflwyno i banel CCG – yn disgwyl am y canlyniad
Adnoddau, gan gynnwys costau
  • Amser swyddogion - Cyflwyno cais i grŵp strategol CCG am gymorth gyda chyllid ar gyfer Swyddog Digonolrwydd - £19,264 - £20,043 (ac argostau)
Ffynhonnell ariannu (ffrydiau arian newydd neu rai sy'n bodoli eisoes)
  • Dim ffrydiau cyllid yn eu lle ar hyn o bryd i wella cyfleoedd chwarae yn Sir Benfro.
  • Cyflwyno cais i grŵp strategol CCG am gymorth gyda chyllid ar gyfer Swyddog Digonolrwydd  - Ffrwd ariannu CCG

 

Mater G:  Sicrhau a datblygu'r gweithlu

Blaenoriaethau
  • Dylai’r ALl ystyried ffyrdd o hybu datblygiad y gweithlu nad ydynt yn ddibynnol ar grantiau cymhelliant e.e. trwy godi proffil gweithiwr chwarae fel proffesiwn. Dylid ymgysylltu â rhieni hefyd a’u hannog i ymgymryd â gwaith chwarae gwirfoddol.
  • Cysylltu â’r strategaeth recriwtio a gyflawnir gan Dîm y Blynyddoedd Cynnar mewn perthynas â’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol
Targedau
  • Lleoli capasiti ychwanegol i greu pecynnau hyfforddi pwrpasol sy’n llenwi bylchau o ran anghenion.
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid i ganfod sut y gellir cyfleu pwysigrwydd chwarae a chodi proffil gwaith chwarae trwy hyfforddiant
  • Adnabod ffrydiau cyllid hirdymor i sicrhau bod gweithwyr chwarae a rhieni’n gallu parhau i gael eu cymell i wneud hyfforddiant.
  • Swyddogion Datblygu Gofal Plant, cydweithwyr a phartneriaid ehangach i gynllunio, datblygu a gweithredu proses recriwtio i roi cymorth i hyrwyddo gyrfaoedd ym maes gofal plant ac i leihau nifer y swyddi gwag ar draws y sector.
  • Cael gafael ar becyn hyfforddi newydd ar gyfer darparwyr i gwblhau hyfforddiant Gwaith Chwarae.
  • Adfer a threfnu dyddiadau trwy’r flwyddyn ar gyfer hyfforddiant gwaith chwarae.
  • Cynnig sesiynau hyfforddi rheolaidd ar fanteision chwarae
Adnoddau, gan gynnwys costau
  • Amser swyddogion
Ffynhonnell ariannu (ffrydiau arian newydd neu rai sy'n bodoli eisoes)
  • Dim ffrydiau cyllid yn eu lle ar hyn o bryd i wella cyfleoedd chwarae yn Sir Benfro.
  • Dim ffrydiau cyllid yn eu lle ar hyn o bryd i wella cyfleoedd chwarae yn Sir Benfro ac i gynyddu’r sylfaen gymwysterau.

 

Mater H:  Ymgysylltu â'r gymuned a chymryd rhan ynddi

Blaenoriaethau
  • Creu agenda i wthio gwerth chwarae’n rheolaidd.
  • Swyddog Chwarae Strategol a Gweithredol i gynnig hyfforddiant pellach ar fanteision chwarae i grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr.
  • Swyddog Chwarae Strategol a Gweithredol i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol fel cyfrwng cyfathrebu rheolaidd ar gyfer chwarae.
Targedau
  • Mae’r Grŵp Strategaeth Chwarae yn ei le a fydd yn amcanu at weithio gyda’r gymuned ehangach a phartneriaid eraill i sicrhau bod Chwarae’n cael sylw blaenllaw.
  • Adfer a threfnu dyddiadau drwy’r flwyddyn i gysylltu â phartneriaid megis y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.
  • Swyddog Chwarae Strategol a Gweithredol i ddiweddaru’r tudalennau gwe ar gyfer Chwarae
Adnoddau, gan gynnwys costau
  • Amser swyddogion
 

Mater I:  Chwarae yn unol â phob polisi perthnasol ac agenda weithredu

Blaenoriaethau
  • Rhoi’r strategaeth chwarae newydd ar waith a sicrhau ei bod yn cael ei gwreiddio mewn polisïau ehangach.
  • Llunio adroddiad ar ganfyddiadau’r archwiliad o gyfleoedd chwarae mewn ysgolion.
Targedau
  • Rhannu’r polisi chwarae gyda’r holl Benaethiaid Ysgolion a Chyrff Llywodraethu.
  • Rhannu’r adroddiad hwn gyda Phenaethiaid Ysgolion a chyrff llywodraeth
Adnoddau, gan gynnwys costau
  • Amser swyddogion
ID: 9264, adolygwyd 03/11/2022