Cynnal yr Asesiad - Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

criteria welsh

Mae’r adran hon yn cynnwys y “materion y mae angen eu cymryd i ystyriaeth” fel y nodir o dan adran 10 o’r Canllawiau Statudol.

Y golofn Meini Prawf: mae'r golofn hon yn nodi’r data sydd angen bod ar gael ac i ba raddau y mae awdurdodau lleol yn bodloni’r meini prawf a nodir.

Y golofn statws Coch, Oren Gwyrdd (RAG): mae blwch gyda chwymplen i'w ganfod yn y golofn hon lle gall yr awdurdod lleol ddangos yr asesiad y mae wedi'i wneud i weld a yw’r maen prawf hwnnw wedi’i fodloni’n llawn; ei fodloni'n rhannol; neu heb ei fodloni. Mae'r rhain wedi'u nodi'n Goch, Oren neu Wyrdd, ac mae'r rhain yn ymddangos fel geiriau yn y gwymplen. (Yn y “golofn statws Coch, Melyn, Gwyrdd”, cliciwch ddwywaith ar y gair ‘Statws’ – bydd hyn yn cynnig dewisiadau ar gyfer meysydd y ffurflen. Defnyddiwch y fysell saeth i lawr nes bod y statws sydd ei angen arnoch – Coch, Oren neu Wyrdd – ar y brig, yna pwyswch 'Iawn'.)

Mae statws Coch, Oren, Gwyrdd (RAG) yn adnodd i gyfathrebu statws yn gyflym ac yn effeithiol.

  • Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
  • Oren: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
  • Coch: Meini prawf heb eu bodloni

Mae colofn 2022 yn galluogi’r awdurdod lleol i nodi’r cyfeiriad teithio trwy fewnosod saethau.

Y golofn Tystiolaeth i gefnogi cryfderau: dylid defnyddio'r golofn hon i roi'r rheswm dros ddewis statws y meini prawf a nodi sut y cedwir y dystiolaeth.

Y golofn Diffyg: dylid defnyddio'r golofn hon i egluro'r meysydd lle nad yw'r awdurdod lleol yn bodloni'r meini prawf yn llawn.

Y golofn Camau a nodwyd ar gyfer cynllun gweithredu: dylid defnyddio'r golofn hon i ddangos blaenoriaethau cynllun gweithredu'r awdurdod lleol ar gyfer y mater hwnnw. 

Yr adran Sylwadau: mae'r adran hon yn gofyn rhai cwestiynau penodol ar gyfer pob mater a ddylai eich galluogi i roi trosolwg clir o sut mae’r awdurdod lleol yn cydymffurfio â bwriad a gweithrediad y mater hwn fel y nodir yn llawn yn y Canllawiau Statudol. Mae hefyd yn rhoi cyfle i nodi unrhyw heriau a sut y gellir eu goresgyn.

 

ID: 9176, adolygwyd 13/03/2023