Cynnal yr Asesiad - Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

Plant a Phobl Ifanc

Cyd-destun

Er mwyn deall sut y mae digonolrwydd cyfleoedd chwarae’n effeithio’n uniongyrchol ar blant o oedran ysgol, fe gynhaliwyd arolwg ar-lein byr, dienw gydag ysgolion cynradd ac uwchradd yn Sir Benfro. Roedd yr arolygon yn seiliedig yn bennaf ar amser chwarae ar ôl ysgol, clybiau ysgol, ardaloedd chwarae a rhwystrau sy’n effeithio ar chwarae, e.e. yr ardal a/neu COVID-19.

Arolygon ysgol

Ar y cyfan, fe wnaeth 157 o ddisgyblion gwblhau a chyflwyno arolwg. Caiff grŵp oedran pob ymatebydd ei nodi isod: fel a ddangosir, mae’r rhan fwyaf o ymatebwyr i’r arolwg rhwng 11 a 12 oed (h.y. disgyblion blwyddyn 7/8) ar 24.2%; fodd bynnag, mae’r cyfranogwyr yn amrywio o ddisgyblion cynradd i fyfyrwyr coleg. Ni chafodd oedrannau annilys eu cynnwys yn y tabl isod.

  • 3-4: 10
  • 5-6: 17
  • 7-8: 9
  • 9-10: 32
  • 11-12: 38
  • 13-14: 6
  • 15-16: 31
  • 16+: 3

Mae rhyw’r cyfranogwyr i’w weld isod. Fe wnaeth ychydig dros 15% yn fwy o fechgyn ateb yr arolwg o’i gymharu â merched.

  • Bechgyn: 57.69%
  • Merched: 42.31%

Yn yr arolwg rhoddwyd cyfle hefyd i’r ymatebwyr roi enw’r ysgol yr oeddent yn ei mynychu. Ysgol Penrhyn Dewi oedd â’r mwyaf o ddisgyblion a gymerodd rhan yn yr arolwg o’i gymharu ag unrhyw ysgol arall yn Sir Benfro. Cafodd cyfanswm o 23.71% o’r arolygon a ddaeth i law eu cwblhau gan ddisgyblion yn yr ysgol hon.

  • Ysgol Gelli Aur: 5.76% (9)
  • Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd: 5.12% (8)
  • Ysgol Gynradd Gatholig yr Enw Sanctaidd: 2.56% (4)
  • Ysgol Bro Ingli: 5.12% (8)
  • Ysgol Penrhyn Dewi: 23.71% (37)
  • Coleg Sir Benfro: 1.28% (2)
  • Canolfan Ddysgu Sir Benfro: 1.92% (3)
  • Tyddewi: 0.64% (1)
  • Stepping Stones: 1.92% (3)
  • San Ffransis: 3.84% (6)
  • Ysgol Gynradd Gymunedol Fenton: 8.97% (14)
  • Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Sant Oswallt 9.61% (15)
  • Ysgolion Eraill 20.51% (32)

Barn disgyblion am amser chwarae y tu allan i’r ysgol

Ydych chi'n teimlo bod gennych chi ddigon o amser y tu allan i'r diwrnod ysgol i chwarae a chymdeithasu ffrindiau wit?

Mae mwyafrif o ddisgyblion yn credu eu bod yn cael digon o amser chwarae y tu allan i oriau ysgol, gyda 53.90% yn dweud, Ydw, mae’n ddigon. Hefyd, dywedodd 18.44% arall: Ydw, mae gen i lawer iawn (gweler isod).

Mae’r ymatebion yn awgrymu bod swm yr amser chwarae a roddir i’r plant ar draws yr ysgol a oedd yn rhan o’r arolwg yn ddigon ar hyn o bryd, gyda dim ond 2.84% yn dweud: Nac ydw, mae angen llawer mwy arnaf. Pan ofynnwyd i’r 39 o ymatebwyr a atebodd ‘Nac ydw’ roi rhesymau pam eu bod yn teimlo felly, fe atebodd un disgybl:

“Mae’n anodd dod o hyd i lefydd i fynd yn lleol, yn enwedig yn ystod tywydd gwael.”

Meddai unigolyn arall:

“Nac ydw, dydw i ddim yn gallu mynd allan ar fy mhen fy hun.”

Un datganiad a gododd dro ar ôl tro ymhlith plant a phobl ifanc oedd bod oriau’r diwrnod ysgol yn mynd â llawer o amser, gan adael ychydig iawn o amser i chwarae.

Pan ofynnwyd beth mae’r cyfranogwyr yn ei feddwl o’r ardaloedd y maent yn chwarae ynddynt, fe ymatebodd y mwyafrif gan ddweud eu bod yn gallu gwneud rhai neu’r cyfan o’r pethau y maent yn eu hoffi.

Pa mor dda yw'r lleoedd rydych chi'n chwarae ynddyn nhw?

Pan ofynnwyd pa mor ddiogel y maent yn teimlo wrth chwarae neu dreulio amser gyda ffrindiau, dywedodd bron i 40% o blant a phobl ifanc eu bod fel arfer neu wastad yn teimlo’n ddiogel. Dim ond 6.09% ddywedodd nad ydynt yn chwarae’r tu allan o gwbl.

Pa mor ddiogel ydych chi'n teimlo wrth chwarae neu gymdeithasu?

 

Cafodd y 7.83% a roddodd yr ateb ‘Dydw i byth yn teimlo’n ddiogel’ gwestiwn dilynol yn gofyn pam eu bod yn teimlo felly. Ymateb cyffredin oedd ‘pobl eraill’ ac ymddygiadau megis bwlio a phlant hŷn yn eu harddegau’n codi ofn arnynt.

Mae’r tabl isod yn dangos beth mae’r cyfranogwyr yn ei feddwl o’r ardal y maent yn byw ynddi o ran chwarae a threulio amser gyda ffrindiau. Mae’r mwyafrif o ddisgyblion yn meddwl ei bod yn dda neu’n iawn, ond y gallai fod yn well. Mae hyn yn rhoi’r argraff y byddai plant a phobl ifanc yn hoffi gweld mân welliannau megis adnewyddu, offer newydd a chadw’r ardal yn lân.

  • Maen nhw’n wych, rwy’n gallu gwneud yr holl bethau yr wyf yn eu hoffi: 29.20%
  • Maen nhw’n iawn, rwy’n gallu gwneud rhai o’r pethau yr wyf yn eu hoffi: 55.75%
  • Dydyn nhw ddim yn dda, dydw i ddim yn gallu gwneud llawer o’r pethau yr wyf yn eu hoffi: 8.85%
  • Maen nhw’n ddiwerth, dydw i ddim yn gallu gwneud unrhyw bethau yr wyf yn eu hoffi: 6.19%

Gan ymhelaethu ar hyn, rhoddwyd y cyfle i’r cyfranogwyr fynegi beth maen nhw’n ei hoffi am eu cymdogaeth mewn perthynas â chwarae. Eglurodd pedwar disgybl ei bod yn dda am eu bod yn byw’n weddol agos at barciau a bod hynny’n ei gwneud yn haws cwrdd â ffrindiau. Dywedodd tri arall ‘Parc’ ac fe gyfeiriodd dau arall at ‘Gaeau’. Eglurodd dau ddisgybl hefyd fod ‘y tawelwch’ yn ffactor. Roedd sylwadau eraill yn cynnwys:

  • Y traeth
  • Parciau sglefrio
  • Ardal swingio ar deiar

Mewn cyferbyniad â hyn, cafodd y cyfranogwyr gwestiwn hefyd ynghylch beth sydd ddim yn dda am y gymdogaeth a beth fyddent yn ei newid. Byddai tri chyfranogwr yn hoffi pe bai’r parciau lleol yn cael eu hadnewyddu. Ysgrifennodd dau gyfranogwr ‘dim parciau’. Eglurodd tri chyfranogwr arall ei bod hi’n anodd byw mewn ardal bellennig ac ysgrifennodd un yn arbennig, ‘mae’n wledig ac nid yw plant yn cael chwarae heb oedolyn’. Roedd sylwadau eraill yn cynnwys:

  • Mae angen atgyweirio’r parc sglefrio.
  • Cyfleusterau gwell.
  • Mae’r ceir a’r ffyrdd yn beryglus.

Ble y mae’r disgyblion yn penderfynu treulio amser chwarae

Pan ofynnwyd iddynt ‘Pan dydych chi ddim yn yr ysgol, pa fathau o leoedd ydych chi’n chwarae neu’n treulio amser ynddynt?’ rhoddwyd rhestr helaeth (gweler isod), ac fe gyfarwyddwyd y disgyblion i roi tic ar bwys faint bynnag o ddatganiadau ag yr oedd angen os oeddent yn berthnasol iddynt hwy.

  • Yn fy nhŷ i neu yn nhŷ ffrind: 93
  • Yn fy ngardd i neu yng ngardd ffrind: 71
  • Yn y strydoedd ar bwys fy nhŷ: 33
  • Ar ardal laswelltog leol: 44
  • Mewn lle gyda llwyni, coed a blodau: 20
  • Mewn ardal chwarae gyda siglenni, llithrennau ac offer eraill i chwarae arnynt: 58
  • Yn y goedwig ar bwys fy nhŷ: 15
  • Ar gae pêl-droed neu faes chwaraeon: 28
  • Ar y buarth yn fy ysgol: 26
  • Rhywle gyda dŵr neu dywod ynddo: 27
  • Ar y beic neu mewn parc sglefrio: 30
  • Mewn canolfan gymunedol neu ganolfan hamdden: 11
  • Mewn clwb ieuenctid: 16
  • Mewn clwb brecwast: 18
  • Mewn clwb ar ôl ysgol: 19
  • Mewn clwb gwyliau: 5
  • Mewn maes chwarae antur: 13
  • Mewn cynllun chwarae: 2
  • Yn nhŷ gwarchodwr plant: 5
  • Canolfan chwarae dan do: 19
  • Neu yn rhywle arall?: 19

Dywedodd y mwyafrif o ddisgyblion ei bod yn chwarae yn eu cartrefi hwy eu hunain neu yng nghartref ffrind. Dywedodd 71 o ddisgyblion eu bod yn chwarae yn eu gardd hwy eu hunain neu yng ngardd ffrind. Gan mai’r ddau ddatganiad yma oedd fwyaf poblogaidd, gellir tybio bod y mwyafrif o blant o bosibl yn aros yn eu cartref eu hunain neu yng nghartref ffrind i chwarae yn hytrach na mynd allan i chwarae. Fodd bynnag, dywedodd 58 o blant eu bod yn chwarae ‘Mewn ardal chwarae gyda siglenni, llithrennau ac offer eraill i chwarae arnynt’. Y dewisiadau lleiaf poblogaidd oedd: ‘Yn nhŷ gwarchodwr plant’, ‘mewn clwb gwyliau’ ac ‘Mewn cynllun chwarae’. Dim ond un ymateb yr un a gafodd y tri dewis yma.

Os oeddent yn rhoi’r ateb ‘neu yn rhywle arall?’ roedd y disgyblion yn gallu rhoi eu hateb eu hunain. Dywedodd dau unigolyn eu bod yn chwarae yn ‘Y dref’ tra bo un arall wedi dweud eu bod yn defnyddio’r gampfa.

  • Rwy’n gallu chwarae yn yr holl lefydd yr hoffwn chwarae ynddynt: 37.90%
  • Rwy’n gallu chwarae yn rhai o’r llefydd yr hoffwn chwarae ynddynt: 36.29%
  • Rwy’n gallu chwarae yn rhai yn unig o’r llefydd yr hoffwn chwarae ynddynt: 18.55%
  • Prin fy mod yn gallu chwarae yn unrhyw lefydd yr hoffwn chwarae ynddynt: 7.26%

Dengys y tabl uchod fod 37.90% o’r ymatebwyr yn ‘gallu chwarae yn yr holl lefydd yr hoffent chwarae ynddynt’, gyda 36.29% wedyn yn dweud eu bod yn ‘gallu chwarae yn rhai o’r llefydd yr hoffent chwarae ynddynt’. Mae hyn yn rhoi’r argraff bod gan y rhan fwyaf o ddisgyblion fynediad at y llefydd y mae ganddynt y diddordeb mwyaf mewn chwarae ynddynt.

I ymhelaethu ar hyn, os dywedodd y disgyblion nad ydynt yn gallu chwarae yn y llefydd yr hoffent chwarae ynddynt, roedd y cwestiwn nesaf yn holi am y rhesymau pam. Ar y cyfan, disgrifiodd unigolion eu bod ‘yn byw’n rhy bell i ffwrdd’ i fod â mynediad. Dywedodd pedwar cyfranogwr fod ‘diffyg trafnidiaeth’ o’u pentref neu dref. Eglurodd dau gyfranogwr pellach fod parc lleol ‘wedi mynd â’i ben iddo’ a bod ‘angen ei ddiweddaru’.

Darpariaeth chwarae y tu allan i amser ysgol

Fel rhan o’r arolwg, gofynnwyd i’r cyfranogwyr enwi cymaint o bobl ag oedd angen sy’n gofalu amdanynt y tu allan i oriau ysgol. Dywedodd 64.42% fod eu tad-cu a mam-gu’n gofalu amdanynt y tu allan i oriau ysgol. Dywedodd 30.77% fod rhywun arall yn y teulu’n gofalu amdanynt.

Pan nad ydych yn yr ysgol ydy nay o'r bobl ganlynol yn gofalu amdanoch chi?

Gofynnwyd i ddisgyblion sut y maent yn cymudo i’w hardaloedd chwarae. Mae oddeutu traean o ddisgyblion yn cael eu cludo i’w lleoliadau chwarae yn y car, gydag oddeutu chwarter yn cerdded neu’n reidio gydag oedolyn.

Ar ôl hyn, gofynnwyd i’r cyfranogwyr sut y maent yn teithio i’r ysgol. Mae’r siart isod yn dangos y data a gasglwyd.

Sut ydych chi fel arfer yn cyrraedd y mannau lle rydych chi'n chwarae

Dengys data fod 18.10% o ddisgyblion yn ‘cerdded neu reidio gydag oedolyn’ i gyrraedd yr ysgol. Dywedodd bron i draean ‘Mae oedolyn yn mynd â fi yn y car’. Gan gysylltu’r siart hon â’r un flaenorol, gallwn dybio bod mwyafrif o’r plant yn cael eu cludo i’r lleoliad angenrheidiol gan rieni/gofalwyr mewn car. Yn ddiddorol, mae mwy o blant yn cerdded i’r ysgol gyda ffrindiau, yn hytrach na cherdded ar eu pennau eu hunain; dywedodd 15.24% eu bod yn cerdded ar eu pennau eu hunain a dywedodd 22.86% eu bod yn cerdded gyda ffrind.

Gweithgareddau a chlybiau yr oedd ar gyfranogwyr eu heisiau

Fe restrodd plant a phobl ifanc hyd at bum gweithgaredd y maent yn cyfranogi ynddynt pan nad ydynt yn yr ysgol. Un o’r gweithgareddau cyffredin a gododd oedd pêl-droed, gyda 15 o unigolion yn cynnwys hyn fel un o'r pum gweithgaredd. Ateb poblogaidd arall oedd chwarae gemau electronig gyda 12 o ddisgyblion yn rhoi hyn fel ateb, gan gynnwys ‘Xbox’, ‘PlayStation’ neu ‘gemau ar yr iPad/y cyfrifiadur’. Dywedodd naw cyfranogwr ‘parc’ neu ‘gae’. Roedd sylwadau eraill yn cynnwys:

  • Celf a Chreff
  • Clwb drama/actio
  • Beicio mynydd
  • Chwarae gyda dinosoriaid

Clwb brecwast, clwb gwyliau a chlwb ar ôl ysgol

Pan ofynnwyd iddynt ‘A yw’r clwb brecwast, clwb gwyliau neu glwb ar ôl ysgol yr ydych yn ei fynychu’n digwydd yn eich ysgol?’ rhoddodd mwy na hanner y plant a phobl ifanc ‘Nac ydy’ fel ateb.

  • Ydy: 52.03% (64)
  • Nac ydy: 47.97% (59)

Gallai hyn ddynodi naill ai nad yw’r plant yn mynd i unrhyw fathau o glybiau, neu eu bod yn mynychu clybiau mewn llefydd eraill.

Effaith COVID-19 ar chwarae

Mae’r ffordd y gwnaeth pandemig COVID-19 effeithio ar gyfleoedd chwarae plant yn cael ei hystyried drwy’r Asesiad hwn o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae i greu asesiad mwy cywir o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae. Mae’r graff isod yn helpu i ddangos sut y mae plant a phobl ifanc yn meddwl bod COVID-19, cyfnodau clo a chyfyngiadau wedi effeithio ar sut y maent yn chwarae.

A yw Covid 19 y cyfnod clo a'r cyfyngiadau wedi effeithio ar sut rydych chi'n chwarae fel arfer?

Roedd 39.25% yn honni mai dim ond ‘ychydig’ yr oedd y pandemig wedi effeithio ar eu cyfleoedd chwarae. Rhoddodd 22.43% o blant a phobl ifanc yr ateb ‘weithiau’ ac ‘y rhan fwyaf o’r amser’. Gellir cysylltu’r wybodaeth hon yn ôl i ble mae’r disgyblion yn penderfynu treulio’u hamser chwarae gyda mwyafrif yn dweud ‘yn fy nghartref i fy hun’.

Meddwl am COVID 19 pa ddatganiad sy'n dweud beth yw'r ffordd orau yn eich barn chi?

Pan ofynnwyd iddynt sut yr oedd y pandemig wedi effeithio arnynt, dywedodd un ymatebydd: ‘Mae wedi effeithio arnaf o ran rygbi, pêl-droed a beiciau modur oherwydd bod y campau yna i gyd yn golygu cyswllt agos â phobl eraill’. Dynododd tri disgybl arall fod y pandemig wedi effeithio ar gamp y maent yn ei chwarae. Fe wnaeth dau ddisgybl bwynt ynglŷn â chlybiau ar ôl ysgol yn cael eu gohirio. Dywedodd disgybl hefyd: ‘Doeddwn i ddim yn cael cwrdd â’m ffrindiau mor aml’, ac fe wnaeth naw disgybl arall ddatganiadau ynglŷn â pheidio â gallu cwrdd â ffrindiau.

Grwpiau Ffocws gyda Phlant a Phobl Ifanc

Cynhaliwyd dau grŵp ffocws gyda phlant cynradd ac uwchradd o Ysgol Gymunedol Prendergast ac Ysgol Spittal.

Roedd y disgyblion cynradd o flynyddoedd 5 a 6. Dywedodd y plant fod chwarae iddynt hwy yn golygu chwarae gyda ffrindiau yn bennaf, yn hytrach na chwarae ar eu pennau eu hunain. Fodd bynnag, pan ofynnwyd iddynt a oedd defnyddio technoleg/dyfeisiau’n gyfystyr â chwarae, dywedodd bron bob plentyn ei fod. Siaradodd y plant gryn dipyn am fannau awyr agored y maent yn mynd iddynt i chwarae, gan gynnwys parc lleol a chael pêl-droed, y maent yn ymweld â hwy’n rheolaidd. Fe ddwedon nhw hefyd fod maes parcio’r ysgol yn cael ei agor ar benwythnosau ar gyfer chwarae. Roedd pob plentyn yn y grŵp ffocws yn teimlo’n ddiogel wrth fynd allan i chwarae ond yn cydnabod bod ceir a thraffig yn broblem weithiau. Dywedodd plant hefyd, er bod ganddynt rywfaint o offer chwarae i’w defnyddio yn yr ysgol, fod y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yn gweithio i ddarparu rhagor.

Dywedodd y plant nad oedd y clwb ar ôl ysgol ar gael mwyach, gan nad oedd hwn wedi ailddechrau ar ôl y pandemig.

Dywedodd plant a phobl ifanc o’r ysgol uwchradd eu bod yn cael cyfleoedd i chwarae trwy ‘Ddyddiau Gwener Lles’ yr ysgol, lle’r oedd dosbarthiadau’n gorffen yn gynnar am y prynhawn a phlant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden megis chwaraeon, drama, nofio a phrosiectau radio. Mae hyn yn dangos bod chwarae’n cael ei ymgorffori yn y diwrnod ysgol.

Dywedodd plant a phobl ifanc fod y mathau eraill o chwarae y maent yn cyfranogi ynddo’n cynnwys chwarae gyda ffrindiau, chwarae ar gae’r ysgol, defnyddio’r ystafell ieuenctid, sydd â bwrdd pŵl ar gael, a’u bod yn cael digon o amser i chwarae. Roedd gweithgareddau eraill y maent yn eu mwynhau y tu allan i’r ysgol yn cynnwys mynd i’r theatr, pêl-droed, mynd i’r parc sglefrio, rasio a cherdded.

Nododd rhai plant eu bod yn diflasu a bod eu ‘meddwl ddim yn gwybod beth i’w wneud’ yn ystod amser hamdden.

Pwyntiau a nodwyd gan y plant a phobl ifanc ar gyfer gwella oedd bod â mwy o bethau i’w gwneud, mwy o offer ffitrwydd, parciau glanach a diogelach a mwy o ddiwrnodau hwyl a digwyddiadau cymunedol. Yn arbennig, roeddent yn teimlo y gellid gwella’r parciau. Mae plant yn nodi rhai awgrymiadau hefyd, gan gynnwys:

  • Mwy o ddisgos gyda’r nos
  • Ardal wedi’i neilltuo i graffiti
  • Parc sglefrio dan do
ID: 9154, adolygwyd 05/12/2022