Cynnal yr Asesiad - Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae
Defnyddio adnoddau i’r eithaf
Yn yr adran hon dylech roi trosolwg o’r modd y mae partneriaid yn defnyddio eu cyllidebau presennol ar hyn o bryd i gefnogi rhoi cyfleoedd i blant fanteisio ar gyfleoedd chwarae. Dylid nodi sut mae cyllidebau wedi’u hailflaenoriaethu yn rhan o Asesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2022 a chynlluniau dilynol.
Defnyddiwch yr adran hon i dynnu sylw at yr hyn sydd wedi newid ers Cynllun Gweithredu ynghylch Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2019 o ran y modd mae adnoddau’n cael eu dyrannu.
Nodwch hefyd sut mae rhaglenni Llywodraeth Cymru wedi’u defnyddio’n lleol i ddarparu cyfleoedd chwarae a sut yr aethant ati i fynd i’r afael â’r blaenoriaethau yn eich asesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae yn 2019.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi bod yn ffodus i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer chwarae; Haf o Hwyl 2021, Gaeaf Llawn Lles 2022, Cronfa Gyfalaf Chwarae a hefyd y Cynllun Cymorth yn y Gwyliau Gwaith Chwarae. Mae hyn wedi galluogi Cyngor Sir Penfro i ddarparu ystod eang o weithgareddau, sydd wedi cefnogi plant a phobl ifanc gyda’u hiechyd meddwl a’u lles, gan hybu rhyngweithio cymdeithasol a chwarae ar yr un pryd.
Mae pandemig y coronafeirws a’i gyfyngiadau wedi cael effaith ar hawliau plant i chwarae ac rydym yn ymwybodol bod yr effaith ar blant agored i niwed wedi bod yn fwy. Fe ddefnyddiom ni gyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ein plant a phobl ifanc mwyaf agored i niwed yn y sir, gan gynnig gweithgareddau a chyfleoedd, na fyddai’n fforddiadwy i’n teuluoedd dan amgylchiadau arferol.
Mae chwarae a darpariaeth gwaith chwarae wedi’i staffio’n cael effaith ar blant a theuluoedd ac mae ein cyfleoedd ni wedi galluogi teuluoedd i gael budd o systemau ataliol cynnar.
Mae chwarae’n elfen hanfodol o ddatblygiad plant ac yn rhywbeth a all ddarparu ffactor gwarchodol cryf ym mywydau plant. Mae chwarae’n helpu plant i ddatblygu eu hadnoddau mewnol a meithrin cydnerthedd yn wyneb anawsterau ac ansicrwydd yn eu cartref ac mewn rhannau eraill o’u bywydau