Cynnal yr Asesiad - Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

Mater A

Mater A: Poblogaeth

Dylai’r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae roi trosolwg o’r boblogaeth a’r data demograffig sy’n cael eu defnyddio’n lleol i gynllunio darpariaeth chwarae. Dylid cynnwys hefyd wybodaeth am y canlynol:

  • Oed y plant
  • Plant sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf
  • Ffactorau diwylliannol (gan gynnwys iaith arall)
  • Plant Sipsiwn a Theithwyr
  • Plant Anabl

Beth sydd wedi newid o ran y tueddiadau demograffig ac o ran y boblogaeth ers Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2019?

Oedrannau plant:
  • Plant 0-4 oed: 5,719
  • Plant 5-15 oed: 15,644
  • Plant 16-24 oed: 11,265

Y grŵp oedran â’r nifer uchaf o blant yw plant 12 oed, gyda 1,543 o blant 12 oed yn byw yn Sir Benfro yn ôl amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn 2020.

Tueddiadau gostyngol yn y boblogaeth

Mae’r gyfradd genedigaethau byw wedi aros yn wastad yn Sir Benfro o 1,040 yn 2018 i 1,052 yn 2019, a 1,025 yn 2020. Hefyd, mae disgwyl i nifer y plant 0-18 oed ostwng rhwng 2023 a 2026 o 25,263 i 24,832. Gallai’r dangosyddion hyn awgrymu y bydd y galw am ddarpariaeth chwarae o bosibl yn gostwng ychydig yn Sir Benfro dros y blynyddoedd nesaf.

Dosbarthiad anwastad y boblogaeth

Mae rhai Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Uwch (ACEHU), sy’n cynnwys y 60 o wardiau yn Sir Benfro, yn fwy na’i gilydd o ran y boblogaeth plant; h.y. mae Sir Benfro U002 yn fwy na Sir Benfro U001

Anghyfartalwch economaidd rhwng ardaloedd

Mae gan rai ardaloedd lefel uwch o lawer o ddiweithdra a phlant mewn aelwydydd lle mae pawb yn hawlio budd-daliadau diweithdra nag eraill. Er enghraifft, yn 2017 cofnododd Sir Benfro U002 gymaint â 1,780 o blant a phobl ifanc 0-18 oed yn ei rhanbarth a oedd yn byw mewn aelwydydd lle mae pawb yn hawlio budd-daliadau diweithdra, tra bo Sir Benfro U001 wedi cofnodi dim ond 660

Tueddiadau ymfudo

mae lefelau mewnlif ac all-lif ymfudo rhyngwladol wedi aros yn gyson yn Sir Benfro rhwng 2013 a 2020, tra bo’r un peth yn amlwg yn lefelau mewnlif ymfudo mewnol yn ystod yr un cyfnod. Yr unig duedd ymfudo sydd wedi gostwng yw all-lif ymfudo mewnol, sydd wedi gostwng o 3,629 i 2,859 rhwng 2013 a 2020. Ar y cyfan, gallai’r tueddiadau hyn awgrymu ei bod yn bosibl y bydd y galw am ddarpariaeth chwarae ar gyfer plant a phobl ifanc yn cynyddu yn y tymor byr o ganlyniad i ymfudo.

Nifer y disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Canfuwyd fod gan Sir Benfro nifer uwch o ddisgyblion â datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig na sir gyfagos Ceredigion, ond nifer is na Sir Gâr. Ar y cyfan, mae gan 2.24% o ddisgyblion Sir Benfro ddatganiad o ADY.

Y Gymraeg

Mae oddeutu 32% o bobl 3 oed a throsodd yn Sir Benfro’n disgrifio’u hunain fel pobl sy’n gallu siarad Cymraeg. Addysgir Cymraeg fel ail iaith i’w mwyafrif o blant.  

Sut aeth/y bydd yr Awdurdod Lleol yn mynd ati i ddefnyddio’r data sydd ganddo am y boblogaeth i gynllunio cyfleoedd chwarae digonol yn lleol?

Bydd yr awdurdod lleol yn defnyddio’r data uchod, yn ogystal â data wedi’i ddiweddaru o Gyfrifiad 2021 pan fydd ar gael, i sicrhau bod prosesau yn eu lle fel bod anghenion chwarae pob demograffeg yn cael eu diwallu’n ddigonol. Gan bod gan Sir Benfro nifer o gymunedau gwledig, ynysig, bydd angen i’r awdurdod sicrhau ei fod yn cyrraedd pob ardal.

A wnaethoch chi wynebu unrhyw heriau?

Nid oes data cyfoes am y boblogaeth ar gael bob amser ac felly nid yw’r awdurdod lleol wastad yn gallu cynllunio mor effeithiol â phosibl. Oherwydd y pandemig, nid yw llawer o’r data a ddefnyddir wedi cael ei ddiweddaru ers 2019 neu 2020. Gallai ffynonellau data sy’n cynnwys (ymhlith eraill) y cyfrifiad ac amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn dilynol, cronfa ddata CYBLD, Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, Asesiadau Mannau Agored a gwybodaeth am wasanaethau a ddelir gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd gael eu cyfuno i greu proffiliau cymunedol, a allai helpu wedyn i roi arweiniad ar gyfer ymyriadau i gefnogi cyfleoedd chwarae i blant. Fodd bynnag, nid felly y mae hi 

ar hyn o bryd. Ar ben hynny, nid yw’r un o’r setiau data presennol hyn yn darparu arwydd o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae i blant y tu hwnt i hygyrchedd mannau agored cyhoeddus dynodedig ac argaeledd gwasanaethau gofal plant.

Sut mae eu goresgyn?

Gallai data a gynhyrchir o arolygon gyda phlant a phobl ifanc a rhieni gael ei ychwanegu at ddata presennol arall ar ddemograffeg, mannau agored cyhoeddus a’r ddarpariaeth o ran gwasanaethau i greu proffiliau cymunedol sy’n rhoi arwydd o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae i blant, a byddai’n ofynnol bod pobl o bob ward yn cwblhau’r arolygon. Casglwyd data codau post yn ystod yr ymgynghoriad a gall hwnnw gael ei ddefnyddio gan y tîm chwarae i adnabod ardaloedd lle mae ymgysylltiad â’r arolwg bodlonrwydd ar ei isaf, gyda’r ardaloedd hyn yn cael eu targedu.

Cam Gweithredu

Defnyddio data Cyfrifiad 2021 unwaith y bydd ar gael i adnabod ardaloedd lle mae angen cynyddu neu wella cyfleoedd chwarae.

Cam Gweithredu

Cynnal arolwg dilynol gyda phlant a phobl ifanc yn 2025, gan sicrhau bod ymatebion yn cwmpasu ysgolion a phlant dros y sir gyfan, i ganfod unrhyw newid mewn lefelau digonolrwydd a nodwyd ac i adnabod meysydd ar gyfer ymchwil bellach. I sicrhau cyfraddau ymateb uchel, dylai ysgolion gael eu cymell ymhellach i gyfranogi.

Cam Gweithredu

Adolygu canfyddiadau’r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, gan gynnwys data ar lefel wardiau, ochr yn ochr â data presennol arall ar ddemograffeg, mannau agored cyhoeddus a’r ddarpariaeth o ran gwasanaethau i greu proffiliau cymunedol sy’n rhoi arwydd o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae i blant.

Statws RAG ar gyfer Mater A:

Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

ID: 9177, adolygwyd 03/11/2022