Cynnal yr Asesiad - Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae
Mater B
Mater B: Diwallu Anghenion Amrywiol
Dylai'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae gyflwyno data ar sut mae'r Awdurdod Lleol a phartneriaid yn bwriadu cynnig cyfleoedd chwarae sy'n gynhwysol ac sy'n annog plant i chwarae a chymdeithasu gyda'i gilydd.
Statws RAG
Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol.
Meini prawf
- Deellir a bodlonir gofynion chwarae plant sy'n byw mewn ardaloedd gwledig anghysbell
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Mae canfyddiadau o’r ymgynghoriad yn dangos bod plant mewn ardaloedd gwledig wedi dweud eu bod yn hapus i raddau helaeth gyda chyfleoedd chwarae yn Sir Benfro. Mae cyfran fawr o’r parciau mewn ardaloedd gwledig yn barciau cymunedol ac maent wedi dechrau cael mynediad at y Grant Gwella Sir Benfro i uwchraddio offer yn eu parciau.
Diffygion
- Bydd data o Gyfrifiad 2021, unwaith y bydd ar gael, yn cynorthwyo’r ALl i flaenoriaethu cyfleoedd chwarae yn y dyfodol.
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Bydd y Grŵp Strategaeth Chwarae'n defnyddio data Cyfrifiad 2021 pan gaiff ei ryddhau i gynllunio cyfleoedd chwarae yn y dyfodol.
Meini prawf
- Deellir a bodlonir gofynion chwarae plant Cymraeg eu hiaith
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Rhoddwyd darpariaeth chwarae cyfrwng Cymraeg trwy’r Urdd yn ystod Gaeaf Llawn Lles 2022. Mae gwirfoddolwyr sy’n cefnogi ein darpariaethau chwarae’n siarad Cymraeg gan gynnig darpariaeth ddwyieithog.
Diffygion
- Cyllid i barhau â’r mentrau a rhaglenni hyn.
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Swyddog Chwarae Gweithredol a Strategol i geisio cyllid amgen os bydd grantiau chwarae LlC yn dod i ben.
Meini prawf
- Deellir a bodlonir gofynion chwarae plant sydd o gefndir diwylliannol gwahanol
Statws RAG 2019
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Statws RAG 2022
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Rhoddwyd cyllid i ysgolion ddarparu teganau diwylliannol gynhwysol. Mae’r gwasanaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol hefyd yn darparu storïau, llyfrau, arwyddion ac eitemau dwyieithog sy’n ddiwylliannol briodol yn yr ardal chwarae rôl. Trefnwyd cyfarfod gyda’r gwasanaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol i gefnogi’r broses o roi hyn ar waith.
- Mae 3 chlwb ieuenctid sy’n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY yn eu lle i gefnogi plant/pobl ifanc 5-18 oed ledled y sir. Gan gynnwys cynllun chwarae yn y gwyliau i blant ag ADY
Diffygion
- Cyllid i ddarparu teganau diwylliannol gynhwysol
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Swyddog Chwarae Gweithredol a Strategol i geisio cyllid amgen os bydd grantiau chwarae LlC yn dod i ben.
Meini prawf
- Deellir a bodlonir gofynion chwarae ac anghenion cymorth plant anabl
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Rydym yn gweithredu 3 chlwb ieuenctid arbenigol i blant ag ADY a Chynllun Chwarae yn y Gwyliau i bobl ifanc 5-18 oed yn y sir i ddarparu cyfle chwarae yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY a/neu anableddau
Meini prawf
- Mae gan brosiectau a darparwyr chwarae fynediad i amrywiaeth o adnoddau sy'n cefnogi cynhwysiant
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- System atgyfeirio i gefnogi cynhwysiant – mynediad at chwarae yn ystod y gwyliau. Mae’r holl gyfleoedd chwarae a ddarperir yn rhai mynediad agored gyda chyfleoedd 1-1 ar gael hefyd. Mae cyllid Play_Inc Plus ar gael i gynorthwyo Clybiau Ar Ôl Ysgol/cynlluniau yn y gwyliau y mae arnynt angen help penodol ar gyfer plant ag ADY.
- Mae swyddogion datblygu gofal plant ar gael hefyd i gefnogi – maent yn darparu polisïau a gweithdrefnau i gefnogi cynhwysiant
Meini prawf
- Ceir dull hysbys cytûn a ddefnyddir i nodi'r angen i gynnig darpariaeth ar wahân i blant anabl
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Mae darpariaethau chwarae Tots 2 Teens, Play_Inc a Play_Inc Plus yn cael eu cynnig i Blant/Pobl Ifanc ag ADY.
- Mae Tots 2 Teens yn bodoli ers 2005 ac mae wedi hen ennill ei blwyf, gan gael ei hysbysebu’n dda ledled Sir Benfro. Mae gweithwyr proffesiynol yn ymwybodol o’r ddarpariaeth a sut i atgyfeirio teuluoedd.
Meini prawf
- Cynhelir archwiliadau o fynediad ar gyfer yr holl ddarpariaeth chwarae fel y disgrifir yn y canllawiau
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Tystiolaeth i ategu cryfderau
Cynhelir archwiliadau o fynediad gan yr ALl yn rheolaidd
Meini prawf
- Caiff man chwarae dynodedig ei ddarparu a'i gynnal a'i gadw'n dda ar safleoedd sipsiwn a theithwyr
Statws RAG 2019
Coch: Ni fodlonwyd y meini prawf
Statws RAG 2022
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Mae ymgynghoriad i fod i gael ei drefnu gyda Phriordy Cil-maen.
Diffygion
- Mae angen meithrin perthnasoedd yn y gymuned hon
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Y Swyddog Chwarae Strategol a Gweithredol i drefnu bod ymgynghoriad yn cael ei gynnal
Meini prawf
- Deellir a bodlonir gofynion gofalwyr ifanc
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Mae gofalwr ifanc wedi cael ei benodi bellach i’r fforwm pobl ifanc i fwydo i mewn i drafodaethau ar ran gofalwyr ifainc.
- Mae Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifainc wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth gyda Gweithredu dros Blant ac wedi cael ei lansio gan ddarparu disgownt ar gyfer gweithgareddau hamdden sy’n cael eu rhedeg gan y Cyngor, gan gynnwys parcio ceir am ddim yn un o’r parciau chwarae mwyaf yn y sir.
Diffygion
- Gallai ymgynghori pellach ddigwydd gan bod y pandemig wedi effeithio ar y modd yr oeddem yn ymgysylltu â’n pobl ifanc
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Y Swyddog Chwarae Strategol a Gweithredol i feithrin ymddiriedaeth yn y gymuned hon
Meini prawf
- Deellir a bodlonir gofynion plant lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol
Statws RAG 2019
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Statws RAG 2022
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Mae gwefan bwrpasol wedi cael ei sefydlu ar gyfer plant lesbiaidd, hoyw a deurywiol, gyda’r wefan yn mynd yn fyw yn gynharach eleni.
Diffygion
- Mae angen gwella’r trefniadau ar gyfer gweithio mewn partneriaeth gyda’r adran ieuenctid o ran cefnogi pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol ymhellach.
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Canfod anghenion chwarae pobl ifanc LGBT+ a phlant Ddawnus a Thalentog trwy ymgynghori pellach i sicrhau bod y rhain yn cael eu diwallu. Y Swyddog Chwarae Strategol a Gweithredol i ddatblygu perthynas weithio â ieuenctid i gefnogi pobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu deall a’u diwallu
Sut y cafodd y data eu defnyddio (neu sut bydd y data yn cael eu defnyddio) i fynd i’r afael â’r rhwystrau y mae plant ag anghenion amrywiol yn eu hwynebu wrth ddod o hyd i gyfleoedd cynhwysol a hygyrch i chwarae?
Fe ymgynghorwyr â phlant o amrywiaeth o gefndiroedd diwylliannol ac ag ADY fel rhan o’r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Roedd data o arolygon yn dangos bod nifer sylweddol o rieni a darparwyr yn teimlo nad oedd rhai plant yn cael mynediad at gyfleoedd chwarae oherwydd Angen Dysgu Ychwanegol neu anabledd. Bydd unrhyw rwystrau sy’n cynnwys anabledd, gwerthoedd diwylliannol, ethnigrwydd ieithyddol a rhywioldeb yn cael eu blaenoriaethu.
Ers yr Asesiad diwethaf o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, mae gwefan wedi cael ei sefydlu fel lle i bobl ifanc LGBT+ gael gwybodaeth am gyfleoedd chwarae a chwrdd â phobl ifanc debyg.
A wnaethoch chi wynebu unrhyw heriau?
Bu heriau o ran capasiti i ymgysylltu â phlant mewn grwpiau penodol; mae pandemig y coronafeirws wedi dylanwadu ar hyn. Mae cyllid yn fater parhaus o ran sicrhau bod offer chwarae cynhwysol yn cael eu darparu. Nid oes cyllideb benodol ar gyfer Chwarae.
Ceir diffyg canfyddedig o ran offer chwarae sefydlog addas ar gyfer plant ag ADY.
Yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad ynghylch yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae roedd nifer fawr o arolygon yn cael eu cylchredeg ar gyfer amryw astudiaethau a dibenion gwahano; fe adawodd hyn bobl yn teimlo’n ddryslydynghylch pa arolygon oedd yn bwysig i’w cwblhau.
Sut mae eu goresgyn?
Bydd ymgynghori pellach yn digwydd gyda phlant Sipsiwn a Theithwyr a dylid ymgynghori â phobl ifanc LGBT+ i ganfod eu hanghenion chwarae. Mae cyllid yn cael ei gyfeirio tuag at drefnu bod rhai parciau’n fwy cynhwysol, megis Parc Coffa Doc Penfro a Maenordy Scolton i ddiwallu’r angen am offer arbenigol.
Mae’r awdurdod lleol hefyd yn gweithio gyda’r gwasanaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol i sicrhau bod anghenion y plant hyn yn cael eu diwallu. Dylai darpariaeth cyfrwng Cymraeg gael ei hyrwyddo a’i hybu.
Bydd y Swyddog Chwarae Strategol a Gweithredol yn datblygu perthnasoedd gweithio ag adrannau a sefydliadau perthnasol i sicrhau y darperir ar gyfer y grwpiau a grybwyllir uchod a bod eu meddyliau a’u barn yn cael eu cymryd i ystyriaeth. Cynigir mwy o gydweithio rhwng adrannau perthnasol i sicrhau bod yr holl blant a phobl ifanc yn cael mynediad at gyfleoedd yn Sir Benfro. Bydd unrhyw rwystrau sy’n cynnwys anabledd, gwerthoedd diwylliannol, iaith, ethnigrwydd a rhywioldeb yn cael eu blaenoriaethu