Cynnal yr Asesiad - Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

Mater C

Y lle sydd ar gael i blant chwarae: Mannau agored a Mannau chwarae dynodedig yn yr awyr agored lle nad oes staff

Dylai'r Awdurdod Lleol gydnabod y gall pob man agored yn ei ardal fod yn fan pwysig i blant chwarae ynddo neu basio drwyddo i gyrraedd ardaloedd chwarae eraill neu fannau eraill y maent yn mynd iddynt.

Statws RAG 

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol.

 

Mannau Agored

Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol wedi cynnal Asesiad o Fannau Agored sy'n mapio ardaloedd a ddefnyddir, neu a allai gael eu defnyddio ar gyfer chwarae, fel y rhestrir yn y Canllawiau Statudol

Statws RAG 2019

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Statws RAG 2022

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Cafodd y Canllawiau Cynllunio Atodol Rhwymedigaethau Cynllunio ei fabwysiadu gan CSP a’r Awdurdod Parc Cenedlaethol ym mis Medi 2016.
  • Mae mannau agored hamdden ac amwynder wedi’u cynnwys fel cyfleuster y bydd yr Awdurdodau’n ceisio cyfraniadau arnynt.
  • Caiff Asesiad o Fannau Agored ei gynnal gan yr adran seilwaith yn flynyddo
  • Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) wedi cwblhau Asesiad o Fannau Agored fel rhan o broses y Cynllun Datblygu Lleol

Diffygion

  • Mae angen ailddrafftio’r Cynllun Datblygu Lleol a’i wneud yn fwy rhyngweithiol, gyda ffocws penodol ar chwarae.

Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu

  • Ailddrafftio’r Cynllun Datblygu Lleol.

 

Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol wedi cynnal Astudiaeth o Fannau Gwyrdd Hygyrch sy'n mapio ardaloedd a ddefnyddir ar gyfer chwarae

Statws RAG 2019

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Statws RAG 2022

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae’r Asesiad wedi’i ddiweddaru o Fannau Agored wedi cael ei fapio i System Wybodaeth Ddaearyddol a’i fapio ar gyfer ei gynnwys yn yr adolygiad o’r Cynllun Datblygu Lleol. Mae llu o fannau chwarae rhyngweithiol awyr agored ar gael yn y sir (gweler yma: Map Ardal Chwarae )
  • Mae’r Tîm Cynllunio yn y broses o ailddrafftio’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).
  • Rydym hefyd yn casglu data yn yr Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer y CDLl. Cesglir gwybodaeth am unrhyw fannau agored ychwanegol a ddarperir trwy geisiadau cynllunio bob blwyddyn
  • Mae’r Adroddiadau Monitro Blynyddol yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor hefyd: Gweithredu a Monitro

Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu

  • Adolygu’r adroddiad Cyflwr Parciau Chwarae a’r CDLl pan fydd yn barod ac alinio â blaenoriaethau’r Adolygiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 

 

Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol yn cynnal archwiliadau o fynediad ym mhob man agored ac yn rhoi cynigion ar waith i wella mynediad a diogelwch

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae’r Adran Gwasanaethau Amgylcheddol yn cynnal gwiriadau diogelwch yn rheolaidd yn yr holl barciau/mannau chwarae a berchnogir gan y Cyngor a hefyd trwy Gytundebau Lefel Gwasanaeth mewn rhai o’r parciau chwarae a berchnogir gan y Cynghorau Tref a Chymuned, i sicrhau bod yr holl offer yn ateb y gofynion iechyd a diogelwch.Mae’r Awdurdod Lleol yn cynnal archwiliadau o fynediad ar gyfer ardaloedd ag offer chwarae sefydlog. Mae mynediad at bob un o’r mannau agored wedi cael ei arolygu.
  • Cafwyd cyllid yn 2021/22 ar ffurf grant o Gronfa Gyfalaf Chwarae Llywodraeth Cymru i ddarparu hyfforddiant pellach ar gyfer ein harolygwyr diogelwch.  
  • Yn anffodus, am nifer o flynyddoedd ni fu cyllideb i osod offer newydd yn lle hen offer, felly rydym yn syml yn cynnal a chadw offer cyfredol nes bod eu hatgyweirio’n mynd yn annarbodus – nid yw hyn yn ffordd gynaliadwy o weithredu, mae’n cyfyngu ar ddatblygu ein parciau chwarae yn Sir Benfro ymhellach.

Diffygion

  • Os nad yw offer yn ymlynu wrth y safonau diogelwch, nid oes cyllideb ar gyfer offer chwarae ac felly rhaid eu gwaredu/condemnio, ni ellir gosod rhai newydd yn eu lle

Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu

  • Dyrannu cyllid i wella darpariaeth chwarae ledled y sir

 

Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol wedi llunio ei Safonau ei hun ar gyfer Mannau Agored yn unol â chyngor a gofynion Polisi Cynllunio Cymru

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae Sir Benfro wedi datblygu dogfen Safonau ar gyfer Mannau Agored.

 


Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol yn cynnal asesiadau o werth chwarae ac yn gweithredu arnynt mewn mannau agored cyhoeddus

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae Cyngor Sir Penfro’n cynnal arolygiadau beunyddiol, chwarterol a blynyddol o ardaloedd chwarae sefydlog.
  • Caiff yr arolygiad blynyddol ei gynnal yn annibynnol ac mae’n defnyddio meini prawf asesu Play Safe.
  • Cafwyd cyllid ar ffurf grant o Gronfa Gyfalaf Chwarae LlC i hyfforddi mwy o arolygwyr diogelwch.

 

Meini prawf

  • Caiff safleoedd tir llwyd sy'n eiddo i'r Awdurdod Lleol eu hasesu i weld a oes potensial i'r safle gael ei adennill i ddarparu cyfleoedd chwarae i blant

Statws RAG 2019

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Statws RAG 2022

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Nid yw’n ofynnol i’r Adran Gynllunio asesu safleoedd tir llwyd o ran asesu eu haddasrwydd ar gyfer darparu mannau agored ac nid oes gofyniad iddynt wneud hyn. Mae’r ffocws ar asesu cynigion newydd (ar dir llwyd neu dir maes glas) a nodi pa un a ydynt yn creu gofyniad ar gyfer man agored ar y safle neu (mewn rhai achosion) ar gyfer taliad oddi ar y safle i gefnogi man agored arall yn y cyffiniau.
  • Ceir nifer sylweddol is o safleoedd tir llwyd yn Sir Benfro o’i gymharu ag ardaloedd Awdurdodau Lleol eraill

Diffygion

  • Mae’r rhan fwyaf o safleoedd tir llwyd o amgylch y porthladdoedd ar Ddyfrffordd Aberdaugleddau ac yn cael eu defnyddio ar gyfer diwydiant neu maent yn dir a arferai gael ei ddefnyddio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn megis meysydd awyr ac nid ydynt yn addas ar gyfer tai na darpariaeth chwarae

Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu

  • Dylai safleoedd tir llwyd gael eu hasesu hefyd o ran eu priodoldeb ar gyfer darpariaeth chwarae.

 

Mannau Chwarae Dynodedig yn yr Awyr Agored Lle Nad Oes Staff

Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol yn cadw cofnod wedi'i ddiweddaru o'r holl fannau chwarae dynodedig fel y disgrifir yn y Canllawiau Statudol

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae gan yr Awdurdod Lleol dri math o ardaloedd chwarae yn y Sir:
  1.  Y rhai ar dir a berchnogir ac a reolir gan CSP
  2. Y rhai ar dir a berchnogir gan drydydd parti ac a reolir gan CSP
  3.  Y rhai a reolir mewn partneriaeth gyda grwpiau cymunedol/ cynghorau tref a chymuned 
  • Trwy arolygiadau blynyddol annibynnol, arolygiadau chwarterol ac arolygiadau gweledol beunyddiol cedwir cofnod cyfoes o’r holl ardaloedd chwarae
  • Lluniodd yr Awdurdod Lleol ddogfen ‘Cyflwr Parciau Chwarae’ yn 2005 (a adolygwyd yn 2011-2012) a oedd yn nodi’r holl wybodaeth am ardaloedd chwarae sy’n hysbys i’r Awdurdod a oedd yn cadarnhau ciplun o bob ardal ar yr adeg honno. Mae adolygiad o’r ddogfen Cyflwr Parciau Chwarae’n cael ei gynnal ar hyn o bryd a disgwylir am yr arolygiad blynyddol annibynnol a fydd yn darparu gwybodaeth am gyflwr offer mewn parciau

Diffygion

  • Os nad yw offer yn ymlynu wrth y safonau diogelwch, nid oes cyllideb ar gyfer offer chwarae ac felly rhaid eu gwaredu/condemnio, ni ellir gosod rhai newydd yn eu lle.

Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu

  • Dyrannu cyllid i wella darpariaeth chwarae ledled y sir

 

Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol yn asesu mannau chwarae o ran gwerth chwarae a'r potensial i gynyddu chwarae, fel y nodir yn y Canllawiau Statudol

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Coch: Ni fodlonwyd y meini prawf

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae adolygiad o gyflwr parciau chwarae wedi cael ei gynnal gan yr arolygwyr parciau; fodd bynnag, nid oes cyllideb ar gyfer Chwarae ar hyn o bryd.

Diffygion

  • Yn anffodus, am nifer o flynyddoedd ni fu cyllideb i osod offer newydd yn lle hen offer, felly rydym yn syml yn cynnal a chadw offer cyfredol nes bod eu hatgyweirio’n mynd yn annarbodus – nid yw hyn yn ffordd gynaliadwy o weithredu, mae’n cyfyngu ar ddatblygu ein parciau chwarae yn Sir Benfro ymhellach

Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu

  • Dyrannu cyllid i wella darpariaeth chwarae ledled y sir

 

Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol yn cynnal archwiliadau o fynediad ym mhob man chwarae dynodedig ac yn rhoi cynigion ar waith i wella mynediad a diogelwch

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae Cyngor Sir Penfro’n cynnal arolygiadau beunyddiol, chwarterol a blynyddol o ardaloedd chwarae sefydlog.
  • Mae’r arolygiad blynyddol yn cael ei gynnal yn annibynnol ac yn defnyddio meini prawf asesu Play Safe yn ogystal â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd

Diffygion

  • Nid oes cyllid ar gael i sicrhau bod yr holl barciau chwarae’n cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ac unwaith y mae’n annarbodus atgyweirio offer neu eu bod yn cael eu condemnio, rhaid eu gwaredu ac nid gosod offer newydd yn eu lle oherwydd diffyg cyllid

Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu

  • Dyrannu cyllid i wella darpariaeth chwarae ledled y sir

 

Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol wedi llunio ac wedi cytuno ar safon newydd benodol ar gyfer darpariaeth chwarae

Statws RAG 2019

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Statws RAG 2022

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae adolygiad o’r ddogfen Cyflwr Parciau Chwarae’n cael ei gynnal ar hyn o bryd a disgwylir am yr arolygiad blynyddol annibynnol a fydd yn darparu gwybodaeth am gyflwr offer mewn parciau. (a arolygir gan swyddogion)
  • Mae’r Tîm Cynllunio yn y broses o ailddrafftio’r Cynllun Datblygu Lleol

Diffygion

  • Dim cyllideb ar gyfer chwarae, felly ni all offer y mae angen gosod rhai newydd yn eu lle gael eu hariannu ac ni ellir gosod offer newydd yn eu lle.

Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu

  • Dyrannu cyllid i wella darpariaeth chwarae ledled y sir

 


Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol yn cynnal asesiadau o fannau chwarae mewn mannau chwarae dynodedig ac yn gweithredu arnynt

Statws RAG 2019

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Statws RAG 2022

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae adolygiad o’r ddogfen Cyflwr Parciau Chwarae’n cael ei gynnal ar hyn o bryd a disgwylir am yr arolygiad blynyddol annibynnol a fydd yn darparu gwybodaeth am gyflwr offer mewn parciau.
  • Mae’r Tîm Cynllunio yn y broses o ailddrafftio’r Cynllun Datblygu Lleol.

Diffygion

  • Dim cyllideb ar gyfer chwarae, felly ni all offer y mae angen gosod rhai newydd yn eu lle gael eu hariannu ac ni ellir gosod offer newydd yn eu lle

Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu

  • Dyrannu cyllid i wella darpariaeth chwarae ledled y sir

 

Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol wedi cyflwyno lleoedd chwarae di-fwg
  • Mae’r awdurdod lleol yn cydymffurfio a’r Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020 sy’n gofyn i bob lle chwarae i fod yn ddi-fwg.

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae arwyddion wedi cael eu gosod mewn parciau yn Sir Benfro a hefyd ar safleoedd yr holl ysgolion ac mae archwiliad wedi cael ei gwblhau gan ein swyddogion diogelwch.



Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol wedi symud arwyddion 'dim gemau pêl' er mwyn annog mwy o blant i chwarae yn y gymuned

Statws RAG 2019

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae archwiliad llawn wedi cael ei gynnal gan Swyddogion Parciau o’r Cyngor ar gyfer symud arwyddion ‘dim gemau pêl’; hefyd mae arwyddion a symbolau PECS wedi cael eu cyflwyno mewn nifer o fannau chwarae ledled yr awdurdod lleol. Gweler yma: HCPSS

 

Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol wedi gosod arwyddion, fel Arwyddion Blaenoriaeth i Chwarae, er mwyn annog mwy o blant i chwarae yn y gymuned

Statws RAG 2019

Newydd

Statws RAG 2022

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae cyfarfodydd cymunedol wedi cael eu cynnal ynglŷn â hyn

Diffygion

  • Er bod gwaith ar hyn wedi dechrau, nid yw wedi cael ei roi ar waith eto. Mae angen codi mwy o ymwybyddiaeth yn y gymuned.

Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu

  • Cwblhau archwiliad o arwyddion blaenoriaeth i chwarae. Codi mwy o ymwybyddiaeth o gyfleoedd i chwarae yn y stryd. Dyrannu cyllid i brynu arwyddion

 

Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol yn cydnabod pwysigrwydd meysydd chwarae o ran y cyfleoedd chwarae sydd ar gael i blant pan wneir unrhyw benderfyniadau gwaredu

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Hyd yma nid yw hyn wedi bod yn angenrheidiol, gan na fu unrhyw gynlluniau i waredu unrhyw ardaloedd chwarae. O bryd i’w gilydd, efallai y bydd yn rhaid symud peth offer am resymau iechyd a diogelwch. Fel a grybwyllwyd yn flaenorol ni fyddai offer newydd yn cael eu gosod yn lle unrhyw offer a symudir, gan nad oes cyllideb ar gyfer chwarae

 

Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol yn cynnwys plant a'u teuluoedd mewn unrhyw ymgynghoriadau ynghylch penderfyniadau i waredu meysydd chwarae

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Hyd yma ni fu hyn yn angenrheidiol am nad oes unrhyw gynlluniau i waredu unrhyw ardaloedd chwarae yn yr awdurdod.

 

Meini prawf

  • Mae’r Awdurdod Lleol yn cyfeirio at ganllawiau ynghylch creu lle chwarae hygyrch wrth ailwampio neu ddatblygu meysydd chwarae newydd

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae cyllid LlC wedi cael ei ddyfarnu i nifer o barciau chwarae a berchnogir gan y gymuned i wneud gwaith adnewyddu. Fe arweiniodd cynghorau tref a chymuned eu hymgynghoriad hwy eu hunain ynghylch y gwelliannau, sydd wedi cael eu gwneud gan gynnwys mannau chwarae hygyrch.

 

Mannau Agored

Sut mae’r Awdurdod Lleol wedi sicrhau cydweithredu rhwng yr Asesiad o Fannau Agored / Strategaethau Seilwaith Gwyrdd a’r Asesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae i wella mannau chwarae?

Mae Asesiadau o Fannau Agored ac Asesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae o gymorth i ddarparu gwybodaeth sylfaenol am lefel y ddarpariaeth mannau agored mewn ardal leol. Defnyddir yr wybodaeth hon wedyn i oleuo gofynion o ran rhwymedigaethau cynllunio ar gyfer datblygiadau i wella’r ddarpariaeth.

A wnaethoch chi wynebu unrhyw heriau?

Bu oedi gyda’r adolygiad o’r Cynllun Datblygu Lleol ac archwiliadau.

Nid oes cyllideb ar gyfer chwarae, yn enwedig offer chwarae ac felly rydym yn cynnal a chadw parciau chwarae presennol yn unig, nid yn gwneud gwelliannau ar gyfer cyfleoedd chwarae. Unwaith y mae atgyweirio offer yn mynd yn annarbodus neu eu bod yn cael eu condemnio nid oes gennym arian i osod rhai newydd yn eu lle.

Sut mae eu goresgyn?

Adolygu’r CDLl unwaith y bydd wedi’i gwblhau i sicrhau bod chwarae’n cael ei flaenoriaethu. Dylai’r awdurdod lleol sicrhau bod yr arwyddion Blaenoriaeth i Chwarae’n cael eu gosod yn y cymunedau.

Mae’r Cyngor Sir yn ystyried Trosglwyddo Asedau Cymunedol fel ffordd o gynnal nifer o barciau chwarae cymunedol, lle byddai cymuned (Cyngor Tref/Cymuned neu grŵp cyfansoddol arall) yn cymryd cyfrifoldeb am gynnal a chadw parc chwarae, efallai trwy brydles hirdymor neu drosglwyddo asedau’n llawn.

Lle nad yw hyn yn bosibl, gellir symud offer chwarae sefydlog unwaith y mae wedi cyrraedd ‘diwedd ei oes’, ond byddid yn trefnu bod cymorth ar gael i gymunedau ddatblygu chwarae mynediad agored pe baent yn dymuno.

Mae angen i’r Awdurdod Lleol sicrhau bod llinell gyllideb wedi’i haseinio i chwarae ac mae angen blaenoriaethu hyn.

 

Mannau chwarae dynodedig yn yr awyr agored lle nad oes staff

Sut mae’r Awdurdod Lleol wedi ystyried yr holl faterion sy’n gysylltiedig â hygyrchedd wrth ddatblygu mannau chwarae?

Mae’r awdurdod lleol yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod mannau chwarae awyr agored yn hygyrch.

A wnaethoch chi wynebu unrhyw heriau?

Bu diffyg cyllid a chapasiti i sicrhau hygyrchedd parciau chwarae. Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei ailddrafftio ar hyn o bryd.

Sut mae eu goresgyn?

Dyrannwyd cyllid LlC i ddatblygu nifer o barciau chwarae yn y sir gan ddefnyddio grant o’r Gronfa Gyfalaf Chwarae 2021/22. Mae angen sicrhau cyllid pellach i sicrhau bod yr holl barciau chwarae’n cyrraedd safon uchel a’u bod yn ddefnyddiadwy

ID: 9193, adolygwyd 03/11/2022