Cynnal yr Asesiad - Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae
Mater D
Darparu cyfleoedd dan oruchwyliaeth
Dylai'r Awdurdod Lleol anelu at gynnig amrywiaeth o gyfleoedd i chwarae dan oruchwyliaeth.
Statws RAG
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol.
Darparu gwaith chwarae
Meini prawf
- Mae'r Awdurdod Lleol yn cadw cofnod wedi'i ddiweddaru o'r holl ddarpariaeth gwaith chwarae dan oruchwyliaeth fel y disgrifir yn y Canllawiau Statudol
Statws RAG 2019
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Statws RAG 2022
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Cynhelir archwiliadau rheolaidd gan y Swyddogion Datblygu Gofal Plant, deirgwaith y flwyddyn, i gasglu’r wybodaeth sy’n ofynnol.
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Swyddogion Datblygu Gofal Plant a’r Swyddog Gwybodaeth i Deuluoedd i weithio mewn partneriaeth gyda lleoliadau i gasglu gwybodaeth a storio canfyddiadau i fynd i'r afael â newidiadau mewn digonolrwydd.
Meini prawf
- Mae'r Awdurdod Lleol yn cynnig darpariaeth gwaith chwarae sy'n cynnig amgylchedd chwarae cyfoethog fel y disgrifir yn y Canllawiau Statudol
Statws RAG 2019
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Statws RAG 2022
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Mae swyddog dynodedig o’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn darparu diweddariadau wythnosol ar gyfer gwefan DEWIS, gan sicrhau bod yr holl ddarpariaethau chwarae cofrestredig yn cael eu logio.
- Mae 3 chlwb ieuenctid ADY Arbenigol yn ogystal ag 17 o ddarpariaethau clybiau ieuenctid dynodedig yn hyrwyddo chwarae
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Swyddogion Datblygu Gofal Plant a’r Swyddog Gwybodaeth i Deuluoedd i weithio mewn partneriaeth gyda lleoliadau i gasglu gwybodaeth a storio canfyddiadau i fynd i'r afael â newidiadau mewn digonolrwydd.
Meini prawf
- Mae'r Awdurdod Lleol yn sicrhau bod partneriaid sy’n cynnig gwaith chwarae’n cael eu cefnogi i gynnig amgylcheddau chwarae cyfoethog fel y disgrifir yn y Canllawiau Statudol
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Mae’r Swyddog Datblygu Gofal Plant yn cefnogi gyda pholisïau a gweithdrefnau – gellir gwneud ceisiadau i wella darpariaethau hefyd
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Bydd Swyddogion Datblygu Gofal Plant yn cynnal SACERS gwella i godi amgylcheddau chwarae cyfoethog.
Meini prawf
- Mae'r cyfleoedd gwaith chwarae a ddarperir gan yr Awdurdod Lleol dan oruchwyliaeth staff yn bodloni'r gofynion rheoliadol a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Mae Swyddogion Datblygu Gofal Plant wedi sefydlu hyn o fewn y Sector Blynyddoedd Cynnar i sicrhau dull cyson. Ymwelir yn dymhorol â’r holl leoliadau sydd wedi’u cofrestru gyda’r ALl.
Meini prawf
- Mae'r cyfleoedd gwaith chwarae a ariennir gan yr Awdurdod dan oruchwyliaeth staff yn bodloni'r gofynion rheoliadol a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Wrth gaffael lleoedd o’r sector chwarae PVI. Dim ond darpariaeth gofrestredig a ddefnyddir. O fewn y system panel o ddyfarnu lleoedd mae gan un Swyddog Datblygu Gofal Plant gynrychiolaeth ar gyfer y ddarpariaeth gofrestredig.
Meini prawf
- Mae'r cyfleoedd gwaith chwarae a ddarperir gan bartneriaid yr Awdurdod Lleol dan oruchwyliaeth staff yn bodloni'r gofynion rheoliadol a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Mae Swyddogion Gofal Plant wedi datblygu a darparu Rhestrau Gwirio’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a ddefnyddir fel pecyn cymorth i archwilio yn erbyn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ac i’w defnyddio fel rhestr wirio ar gyfer gwella ansawdd
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Bydd Swyddogion Datblygu Gofal Plant yn cynnal archwiliadau SACERS gyda’r holl leoliadau Clybiau y Tu Allan i’r Ysgol
- Swyddogion Gofal Plant i adolygu proses rhestr wirio’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ac i adnabod unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth
Meini prawf
- Caiff y cyfleoedd a gynigir i chwarae dan oruchwyliaeth staff yn yr Awdurdod Lleol eu darparu yn unol â rhaglen sicrwydd ansawdd gydnabyddedig
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Mae Swyddogion Datblygu Gofal Plant wedi sefydlu hyn o fewn y Sector Blynyddoedd Cynnar i sicrhau dull cyson.
Meini prawf
- Mae'r Awdurdod Lleol yn blaenoriaethu materion ansawdd wrth gyflogi/comisiynu'r sector preifat i ddarparu gweithgareddau hamdden i blant.
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Mae gan yr ALl reoliadau caffael a system gontractio ac mae’n gweithio gyda meithrinfeydd preifat sy’n darparu cyfleoedd chwarae. Cynhelir y rhain yn flynyddol.
Meini prawf
- Mae'r Awdurdod Lleol yn darparu eiddo a mannau sy'n eiddo i'r cyngor yn rhad ac am ddim i sefydliadau sy'n cynnig darpariaeth gwaith chwarae am ddim i blant (ar y pwynt mynediad)
Statws RAG 2019
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Statws RAG 2022
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Mae rhai o’r lleoliadau ar gyfer darpariaeth chwarae’n rhad ac am ddim, h.y. ar safleoedd ysgolion. Er bod canolfannau hamdden a neuaddau cymunedol yn codi costau rhentu oherwydd toriadau cyllid a osodwyd ar eu hadrannau.
- Mae gennym 3 darpariaeth chwarae sy’n cael eu rhedeg gan yr ALl sy’n cael defnyddio’r cyfleusterau’n rhad ac am ddim
Diffygion
- Mae cyllid yn broblem i hwyluso hyn
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Dyrannu cyllid i wella darpariaeth chwarae ledled y sir
Gweithgareddau hamdden strwythuredig i blant
Meini prawf
- Mae cynlluniau awdurdodau lleol mewn perthynas â chwaraeon, gweithgareddau corfforol a gweithgareddau hamdden egnïol yn cyfrannu at gynyddu gweithgareddau chwarae a hamdden sydd ar gael am ddim
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Gwaith mewn partneriaeth agos â Chwaraeon Sir Benfro i ddarparu hyn trwy amryw raglenni o weithgareddau h.y. mentrau Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles
Diffygion
- Yn ddibynnol iawn ar gyllid i ddarparu’r holl weithgareddau hyn, serch hynny.
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Parhau i hyrwyddo mentrau rhad-ac-am-ddim i sicrhau bod teuluoedd yn cymryd mantais o weithgareddau chwaraeon a hamdden sydd ar gael iddynt
- Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd bod yn egnïol nid dim ond i blant a phobl ifanc ond i rieni hefyd.
Meini prawf
- Mae'r agenda chwaraeon yn helpu i sicrhau bod digon o weithgareddau hamdden yn cael eu darparu i blant
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Mae’r tîm Pobl Ifanc Heini yn Chwaraeon Sir Benfro’n cydweithio’n agos gydag ysgolion i wella llythrennedd corfforol, cynyddu cyfranogiad wedi’i dargedu, creu cyfleoedd arwain ar gyfer plant hŷn a chysylltu ysgolion â chlybiau cymunedol.
- Darperir cyfleoedd ar gyfer sesiynau chwaraeon anabledd, mewn cydweithrediad gyda’r Gwasanaeth Hamdden.
Meini prawf
- Mae'r agenda diwylliant a'r celfyddydau yn helpu i sicrhau bod digon o weithgareddau hamdden yn cael eu darparu i blant
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Tystiolaeth i ategu cryfderau
Trwy ein cyfleuster ym Maenordy Scolton ac adnoddau ar y safle rydym yn gallu darparu mynediad at brosiectau a digwyddiadau chwarae sy’n cefnogi cynhwysiant. Mae chwarae yn yr awyr agored yn nodwedd allweddol ar y safle hwn ac mae Cyllid Cyfalaf gan Lywodraeth Cymru wedi ein galluogi i gynnwys offer arbenigol sy’n addas ar gyfer pobl anabl o fewn ardal y parc.
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Dyrannu cyllid i wella darpariaeth chwarae ledled y sir
Meini prawf
- Mae Gwasanaeth Ieuenctid yr Awdurdod Lleol yn rhoi cyfleoedd i blant gymryd rhan
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Cyflwynir darpariaeth clybiau ieuenctid ledled Sir Benfro, a hynny’n amrywio o 1-3 noson yr wythnos gan ddibynnu ar yr ardaloedd. Ymgynghorir â phlant a phobl ifanc i ganfod pa weithgareddau hamdden ac adloniant yr hoffent eu gwneud; mae gweithgareddau’n aml yn cynnwys chwaraeon, celf a chrefft, gweithgareddau dŵr yn yr awyr agored a.y.b.
- Mae’r gwasanaeth ieuenctid hefyd yn darparu clybiau, gwibdeithiau, gweithgareddau yn ystod gwyliau ysgol a theithiau undydd i blant ag ADY, yn ogystal â phartneru â'r gwasanaeth hamdden i ddarparu cyfleoedd ar nosweithiau Sadwrn. Mae’r gwasanaeth ieuenctid yn gweithio gydag ysgolion a’r gwasanaethau cymdeithasol i hyrwyddo’r gweithgareddau hyn, yn ogystal â thrwy’r cyfryngau cymdeithasol
Diffygion
- y gwasanaeth ieuenctid wedi bod yn bosibl oherwydd y cynnydd diweddar yng ngrantiau Llywodraeth Cymru. Gan nad yw’r gwasanaeth ieuenctid yn statudol, nid yw wedi bod yn cael ei ariannu’n dda’n flaenorol ac mae angen cyllid rheolaidd ar hyn er mwyn parhau i ddarparu’r cyfleoedd hyn ar gyfer plant a phobl ifanc
Darparu Cyfleoedd Chwarae dan Oruchwyliaeth
Lle bo’r Awdurdod Lleol wedi asesu lleoliadau yn rhan o’r Asesiadau o Ddigonolrwydd Gofal Plant, sut yr aseswyd y lleoliadau hyn o ran ansawdd y cyfleoedd chwarae maent yn eu darparu ac yn eu cynnig?
Mae tîm y Blynyddoedd Cynnar yn sicrhau bod darpariaeth chwarae’n ateb y gofynion rheoleiddiol ac yn cyrraedd y Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Fel rhan o’r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant, gofynnwyd i blant a phobl ifanc am glybiau ar ôl ysgol a gweithgareddau chwarae y maent hwy’n eu mwynhau ac yr hoffent eu gwneud yn eu clybiau ar ôl ysgol. Cafodd hyn ei dargedu at ddisgyblion cynradd ac uwchradd ac nid oedd yn cynnwys unrhyw chwarae y tu allan i’r ysgol. Fe wnaeth yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant asesu’r cyflenwad o ofal plant a’r galw amdano hefyd, ond nid oedd asesiad o gyfleoedd chwarae wedi’i ymgorffori i raddau helaeth yn yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant. Fe wnaeth yr ymgynghoriad â rhieni ofyn am ansawdd darpariaeth gofal plant ar y cyfan, ond nid oedd hyn yn uniongyrchol gysylltiedig â chwarae.
Sut yr aseswyd darpariaeth nad yw’n rhan o’r Asesiadau o Ddigonolrwydd Gofal Plant o ran ansawdd y cyfleoedd chwarae maent yn eu darparu ac yn eu cynnig?
Er mai dewis darparwyr chwarae yw pa un a ydynt yn cwblhau rhaglenni sicrwydd ansawdd, ceir cyfleoedd i gael grantiau y gall darparwyr gofal plant ymgeisio amdanynt i gefnogi’r fenter hon. Yn ystod yr ymgynghoriad a gynhaliwyd fel rhan o’r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, fe ymgynghorwyr â phlant, rhieni a darparwyr chwarae ynghylch ansawdd darpariaeth chwarae. Nododd darparwyr chwarae adborth cadarnhaol gan rieni ar ansawdd y ddarpariaeth ac roedd plant yn hapus ar y cyfan gyda’r llefydd yr oeddent yn gallu chwarae ynddynt.
A wnaethoch chi wynebu unrhyw heriau?
Mae’r mwyafrif o leoliadau chwarae’n talu am eu safleoedd ar hyn o bryd. Mae chwaraeon a gweithgareddau hamdden yn ddibynnol iawn ar gyllid grant.
Sut mae eu goresgyn?
Lledaenu negeseuon am bwysigrwydd cyfleoedd hamdden a diwylliannol a chyfle i gael mynediad at weithgareddau rhad-ac-am-ddim trwy bartneriaid allweddol. Codi ymwybyddiaeth o fod yn egnïol trwy barhau i hyrwyddo gweithgareddau i deuluoedd. Parhau i estyn allan at grwpiau cymunedol i hyrwyddo hamdden ac ystyried darparu cymhorthdal neu gyllid i dalu am safleoedd ar gyfer gwaith chwarae, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig