Cynnal yr Asesiad - Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae
Mater E
Taliadau ar gyfer darpariaeth chwarae
Dylai'r Awdurdod Lleol ystyried pa gyfleoedd chwarae sy'n codi tâl ac i ba raddau y mae'r Awdurdod Lleol yn ystyried y taliadau hyn wrth asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae i blant o deuluoedd incwm isel fel y nodir yn y Canllawiau Statudol.
Statws RAG
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Meini prawf
- Mae'r Awdurdod Lleol yn cadw cofnodion o'r nifer o blant sydd o deuluoedd incwm isel
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Caiff yr wybodaeth hon ei dal fel rhan o’r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant.
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Defnyddio rhagor o wybodaeth unwaith y bydd ar gael o Gyfrifiad 2021 i gynllunio gweithgareddau hamdden i gael eu darparu ar gyfer plant mewn teuluoedd incwm isel.
Meini prawf
- Mae'r Awdurdod Lleol yn cadw cofnodion o'r nifer o blant sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Caiff yr wybodaeth hon ei dal fel rhan o’r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant ac at ddibenion cadarnhau cymhwystra ar gyfer Dechrau’n Deg.
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Sefydlu mecanweithiau i gofnodi darpariaeth a safleoedd am ddim/cost isel ar gyfer chwarae
Meini prawf
- Mae'r Awdurdod Lleol yn cadw cofnodion o'r nifer o blant sy'n byw mewn ardaloedd gwledig
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Caiff yr wybodaeth hon ei dal fel rhan o’r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant ac at ddibenion cadarnhau cymhwystra ar gyfer Dechrau’n Deg.
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Ystyried sut y gellir darparu trafnidiaeth â chymhorthdal i gynyddu’r ystod o gyfleoedd chwarae sydd ar gael i blant, yn enwedig y rhai mewn ardaloedd gwledig.
Meini prawf
- Mae'r Awdurdod Lleol yn cadw cofnodion o'r nifer o blant anabl a'r rheini ag anghenion penodol
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Caiff yr wybodaeth hon ei chofnodi fel rhan o’r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant ac at ddibenion cadarnhau cymhwystra ar gyfer Dechrau’n Deg.
- Caiff yr wybodaeth hon ei dal gan ysgolion a’r gwasanaethau cymdeithasol hefyd.
Meini prawf
- Mae'r Awdurdod Lleol yn cofnodi argaeledd darpariaeth am ddim
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Coch: Ni fodlonwyd y meini prawf
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Ar hyn o bryd nid oes safleoedd cost isel yn cael eu defnyddio oherwydd costau uwch am gyfleustodau.
Diffygion
- Diffyg cyllid
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Dyrannu cyllid i wella darpariaeth chwarae ledled y sir
Meini prawf
- Mae'r Awdurdod Lleol yn cofnodi'r lleoliadau sy'n darparu cyfleoedd chwarae am ddim / cost isel
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Coch: Ni fodlonwyd y meini prawf
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Ar hyn o bryd nid oes safleoedd cost isel yn cael eu defnyddio oherwydd costau uwch am gyfleustodau.
Diffygion
- Diffyg cyllid
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Dyrannu cyllid i wella darpariaeth chwarae ledled y sir
Meini prawf
- Mae'r Awdurdod Lleol yn cofnodi'r darpariaethau lle mae grantiau neu gymorthdaliadau ar gael i ddarparwyr cyfleoedd chwarae
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Cedwir tystiolaeth archwilio a chofnodion o wariant ar sail flynyddol. Gofynnir am adroddiadau ar effaith ac fe ysgrifennir adroddiad generig.
- Mae’r Swyddog Chwarae Strategol a Gweithredol hefyd yn cadw cofnodion o gyllid LlCC mewn perthynas â chwarae.
- Mae Grant Cynaliadwyedd ar gael i’r holl ddarparwyr chwarae cofrestredig yn y Sir a gellir gofyn am ddyfarniad blynyddol
Meini prawf
- Mae'r Awdurdod Lleol yn darparu trafnidiaeth â chymhorthdal i blant sy'n teithio i gyfleoedd chwarae
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Caiff trafnidiaeth ei hariannu trwy’r Cynllun Cymorth Gwyliau Gwaith Chwarae i gefnogi mynediad plant at gyfleoedd chwarae.
- Rhoddodd y mentrau Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles gymorth gyda chostau trafnidiaeth yn y tymor byr.
Diffygion
- Mae’r cyllid yn gyfyngedig
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Dyrannu cyllid i wella darpariaeth chwarae ledled y sir
Taliadau ar gyfer darpariaeth chwarae
Sut mae’r Awdurdod Lleol yn sicrhau bod plant yn gallu manteisio ar gyfleoedd chwarae am ddim neu am gost isel?
Mae’r ALl yn cadw cofnodion o ddarpariaeth gost isel neu am ddim, yn ogystal â chynorthwyo teuluoedd i gael mynediad at ddarpariaeth a ariennir y mae ganddynt hawl iddi mewn lleoliadau Blynyddoedd Cynnar a darpariaeth Dechrau’n Deg. Mae’r ALl hefyd yn cadw cofnodion o’r holl ddarparwyr cyfleoedd chwarae sydd wedi cael grant a chofnodion o’r cyllid sydd ar gael iddynt, beth ddyfarnwyd a beth ddefnyddiwyd.
A wnaethoch chi wynebu unrhyw heriau?
Mae cyllid ar gyfer trafnidiaeth yn gyfyngedig a gall trafnidiaeth gyhoeddus fod yn broblem mewn rhai ardaloedd gan ein bod yn sir eithriadol o wledig. Nid oes tîm chwarae pwrpasol yn Sir Benfro; rydym yn ddibynnol iawn ar gymorth gwirfoddolwyr.
Sut mae eu goresgyn?
Dylai’r ALl ystyried sut y gall ddarparu cyllid hirdymor ar gyfer trafnidiaeth â chymhorthdal i leoliadau, yn enwedig y rhai mewn ardaloedd gwledig neu ar gyfer grwpiau o blant â nodweddion gwarchodedig.