Cynnal yr Asesiad - Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

Mater F

Mynediad i le/darpariaeth

Dylai'r Awdurdod Lleol ystyried yr holl ffactorau sy'n helpu i sicrhau bod plant yn cael y cyfle i chwarae neu symud o amgylch eu cymunedau.

Statws RAG

 

Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol yn cadw cofnod wedi'i ddiweddaru o nifer y parthau 20 milltir yr awr/parthau diogelwch ysgolion mewn ardaloedd preswyl

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Ar hyn o bryd mae 52 o ardaloedd 20 MYA yn Sir Benfro, y mae 36 ohonynt wedi’u lleoli ar bwys ysgol.

Diffygion

  • Parhau i wneud ceisiadau am grantiau diogelwch ar y ffyrdd

 

Meini prawf

  • Mae gan yr Awdurdod Lleol ddull o asesu effaith mesurau lleihau cyflymder a mesurau eraill sy'n ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd ar y cyfle sydd gan blant i chwarae y tu allan yn eu cymunedau

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae’r ALl yn gweithio o fewn polisïau cyfredol y Cyngor a chanllawiau statudol a nodir gan LlC. Mae asesiadau’n ystyried ffactorau amgylcheddol.
  • Yn gweithio ar ddogfen llwybrau diogelach mewn cymunedau sy’n cael ei wneud fesul cymuned. Mae hon yn ystyried llwybrau diogelach, croesfannau a mynediad at gyfleusterau ar gyfer y gymuned. Cynhelir cyfarfodydd gyda’r Heddlu i fonitro tueddiadau damweiniau ar y ffyrdd ac mewn mannau cyhoeddus

 

 

 

Meini prawf

  • Mae gan yr Awdurdod Lleol gynllun(iau) i leihau effaith negyddol  ffyrdd a chyffyrdd prysur drwy gyflwyno mesurau lleihau cyflymder a darparu mannau croesi/llwybrau diogel i gerddwyr a seiclwyr

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Ar hyn o bryd mae 30 o hebryngwyr croesfannau’n gweithio cyn ac ar ddiwedd y diwrnod ysgol yn ystod y tymor.  
  • Mae ymyriadau diogelwch ar y ffyrdd a roddwyd ar waith yn cynnwys Camau Bychain, Kerbcraft a Hyfforddiant Beicio’r Safonau Cenedlaethol.

 

 

Meini prawf

  • Mae gan yr Awdurdod Lleol gynllun(iau) i wella'r mynediad sydd gan gerddwyr a seiclwyr i barciau, cyfleusterau chwarae awyr agored a chanolfannau hamdden lleol o ardaloedd preswyl

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae Cyngor Sir Penfro’n gyson yn cael dyraniad uchel yng Nghymru gan LlC i hybu mynediad yn y gymuned gan gynnwys rhai ardaloedd â mynediad at ardaloedd chwarae agored trwy’r cais Llwybrau Diogelach mewn Cymunedau yn Noc Penfro, Aberdaugleddau a Thyddewi, cyflawni cynlluniau Grant Diogelwch ar y Ffyrdd LlC gan gynnwys parthau/terfynau 20mya newydd yn Llandysilio/Maenclochog/ Dinbych-y-pysgod, cynlluniau Llwybrau Diogelach mewn Cymunedau yn Nhyddewi. Mae cymunedau ledled Sir Benfro wedi cael budd.
  • Mae cerdded a beicio wedi cael eu gwella trwy arwyddion yn rhybuddio am ysgolion, croesfannau is ar gyfer cerddwyr a chyrbau is, cyflwyno standiau beiciau awyr agored ac o dan do mewn ysgolion, llwybrau cyd-ddefnyddio, cyflwyno clustogau arafu ym meysydd parcio canolfannau hamdden, goleuadau stryd mewn ysgolion.
  • Mae Deddf Teithio Llesol 2013 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i fapio llwybrau cerdded a beicio ac ymgeisio am gyllid i gyflwyno llwybrau mewn trefi yn y Sir.

 

 

Meini prawf

  • Mae potensial i'r Awdurdod Lleol gymryd camau pellach i leihau cyflymder traffig a gwella diogelwch ar y ffyrdd er mwyn hyrwyddo cyfleoedd chwarae

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae’r Awdurdod yn ystyried pob cais am fesurau lleihau cyflymder/ gostegu traffig.

Diffygion

  • Claire Williams Traffig

 

Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol yn defnyddio grantiau diogelwch ar y ffyrdd a/neu arian arall i gefnogi'r gwaith o ddarparu hyfforddiant seiclo i blant yn unol â safonau cenedlaethol

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae’r cynnig wedi cael ei gyflwyno i LlC ac wedi cael ei awdurdodi; rydym yn disgwyl am y cyllid.

 

 

Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol yn defnyddio grantiau diogelwch ar y ffyrdd a/neu arian arall i ddarparu hyfforddiant diogelwch cerddwyr i blant

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Cafodd y cynnig ar gyfer KerbCraft ei gyflwyno a'i awdurdodi. Ar gyfer disgyblion 5-7 oed yn y sir.

 

 

Meini prawf

  • Mae gan yr Awdurdod Lleol ffordd hygyrch a hysbys o gau ffyrdd dros dro fel bod mwy o blant yn gallu chwarae y tu allan i'w cartrefi

Statws RAG 2019

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Statws RAG 2022

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae’r Awdurdod Lleol wrthi ar hyn o bryd yn ymchwilio i bolisïau chwarae ar y stryd gyda Swyddog Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Dan Hyfforddiant i adnabod cyfleoedd i gau ffyrdd – yn mynd rhagddo’n barhaus yn amodol ar gyllid.

Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu

  • Cyflwyno cais i grŵp strategol CCG am gymorth gyda’r cyllid ar gyfer Swyddog Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Dan Hyfforddiant

 


Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol yn cyfeirio at y Llawlyfr Strydoedd wrth ystyried datblygiadau newydd a newidiadau i'r rhwydwaith priffyrdd/amgylchedd trefol

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Cadarnhad wedi dod i law oddi wrth yr Adran Briffyrdd bod y Llawlyfr Strydoedd yn cael ei ddefnyddio’n unol â’r canllawiau.

 

Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol yn cydymffurfio â chanllawiau arfer da a gydnabyddir yn genedlaethol wrth ddatblygu cyfleusterau cerdded a seiclo

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae’r Awdurdod Lleol yn defnyddio’r Safonau Cenedlaethol sef Canllawiau Dylunio Teithio Llesol Llywodraeth Cymru

 


Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol yn defnyddio data ar nifer yr anafiadau i gerddwyr sy'n blant a achosir gan ddamwain ar y ffordd i lywio penderfyniadau ynghylch lleoliad a chynllun ymyriadau sy'n helpu plant i symud o amgylch eu cymunedau yn annibynnol

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Defnyddir data Kerbcraft.
  • Mae’r Grant Diogelwch ar y Ffyrdd yn darparu cyllid i sefydlu mesurau lle bu clwstwr o ddamweiniau.

 


Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol yn ystyried yr angen i blant gael y cyfle i chwarae wrth wneud penderfyniadau ynghylch gwariant ar drafnidiaeth gyhoeddus a'r ffordd y caiff ei chynllunio

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Fforwm Trafnidiaeth Gymunedol “Trafod Trafnidiaeth” wedi’i sefydlu i ystyried anghenion trafnidiaeth y gymuned gyfan


Meini prawf

  • Mae dealltwriaeth o ofynion plant anabl a darperir ar eu cyfer o fewn cynlluniau traffig a thrafnidiaeth

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Wedi’i gynnwys o fewn Kerbcraft, cyfeirio i logi beiciau symudedd
  • Mae plant dall yn cael eu cefnogi gan yr adran Saesneg fel Iaith Ychwanegol.
  • Mae mynediad ar gyfer pobl anabl wastad yn cael ei ystyried mewn mentrau.

 

Gwybodaeth, cyhoeddusrwydd a digwyddiadau:

Er mwyn i blant a theuluoedd fanteisio ar gyfleoedd chwarae, gweithgareddau hamdden a digwyddiadau mae angen iddynt wybod beth sy'n cael ei gynnig yn eu hardal.

Meini prawf

  • Mae gan yr Awdurdod Lleol adran a nodir yn glir ar ei wefan sy'n rhoi gwybodaeth am gyfleoedd chwarae fel y'u disgrifir yn y Canllawiau Statudol (ardaloedd chwarae, darpariaeth chwarae, clybiau a'u hygyrchedd) 

Statws RAG 2019

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Statws RAG 2022

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae gan yr Awdurdod Lleol wefan wedi’i neilltuo, Chwarae Sir Benfro, sy’n manylu ar syniadau ar gyfer chwarae a dealltwriaeth yr Awdurdod Lleol am chwarae.

Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu

  • Sicrhau bod hon yn cael ei diweddaru’n gyson ag unrhyw fentrau chwarae newydd a bod rhieni’n cael eu cyfeirio’n rhwydd at wybodaeth am chwarae a phwysigrwydd chwarae, yn ogystal â’r gwasanaethau sydd ar gael
  • Ystyried sut i hyrwyddo cyfleoedd i deuluoedd sydd o bosibl heb fynediad rheolaidd at y rhyngrwyd, e.e. trwy bosteri, taflenni yn y gymuned leol

 

Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol yn darparu gwybodaeth am fynediad i gyfleoedd chwarae a chyswllt i gael cymorth os oes angen

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Gall yr ALl ddarparu hyn os oes angen

 

Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol yn cefnogi ac yn cyhoeddi digwyddiadau sy'n annog cyfleoedd chwarae a digwyddiadau i blant a theuluoedd

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae gan yr ALl swyddog cyfathrebu a gwefan cyfryngau cymdeithasol.

 

Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol yn cyhoeddi gwybodaeth sy'n cyfrannu at agweddau cadarnhaol tuag at chwarae yn y gymuned

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae’r ALl wedi bod yn llwyddiannus wrth hyrwyddo digwyddiadau fel yr Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles

 

Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol yn rhoi awgrymiadau defnyddiol a chymorth i rieni i'w helpu i annog eu plant i chwarae

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae’r ALl yn hysbysebu digwyddiadau chwarae parhaus.

Diffygion

  • Hysbysebu cyfyngedig sy’n digwydd, gellid gwneud mwy i hysbysebu a hyrwyddo pwysigrwydd chwarae i rieni a theuluoedd.

Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu

  • Sicrhau bod hyn yn cael ei ddiweddaru’n gyson ag unrhyw fentrau chwarae newydd a bod rhieni’n cael eu cyfeirio’n rhwydd at wybodaeth am chwarae a phwysigrwydd chwarae, yn ogystal â’r gwasanaethau sydd ar gael

 

Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol yn gwneud defnydd eang o arwyddion ar safleoedd i ddiogelu a hyrwyddo chwarae

Statws RAG 2019

Coch: Ni fodlonwyd y meini prawf

Statws RAG 2022

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae gan yr Awdurdod Lleol wefan wedi’i neilltuo, Chwarae Sir Benfro, sy’n manylu ar syniadau ar gyfer chwarae a dealltwriaeth yr Awdurdod Lleol am chwarae.

Diffygion

  • Hysbysebu cyfyngedig sy’n digwydd, gellid gwneud mwy i hysbysebu a hyrwyddo pwysigrwydd chwarae i rieni a theuluoedd.

Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu

  • Sicrhau bod hon yn cael ei diweddaru’n gyson ag unrhyw fentrau chwarae newydd a bod rhieni’n cael eu cyfeirio’n rhwydd at wybodaeth am chwarae a phwysigrwydd chwarae, yn ogystal â’r gwasanaethau sydd ar gael
  • Mae gan yr Awdurdod Lleol wefan wedi’i neilltuo, Chwarae Sir Benfro, sy’n manylu ar syniadau ar gyfer chwarae a dealltwriaeth yr Awdurdod Lleol am chwarae.

 

Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol yn gweithio gyda'r cyfryngau i'w hannog i roi portread cadarnhaol o blant yn chwarae yn yr ardal leol

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae gan yr Awdurdod Lleol wefan wedi’i neilltuo, Chwarae Sir Benfro, sy’n manylu ar syniadau ar gyfer chwarae a dealltwriaeth yr Awdurdod Lleol am chwarae.

Diffygion

  • Hysbysebu cyfyngedig sy’n digwydd, gellid gwneud mwy i hysbysebu a hyrwyddo pwysigrwydd chwarae i rieni a theuluoedd.

Mynediad i le/darpariaeth

Sut mae’r Awdurdod Lleol wedi sicrhau cydweithio er mwyn sicrhau y gall plant symud o amgylch eu cymunedau er mwyn cynyddu eu gallu i fanteisio ar gyfleoedd chwarae?

Mae’n ofynnol i’r Cyngor lunio’r adroddiadau canlynol yn flynyddol:

Adroddiad Blynyddol yn nodi’r camau gweithredu a gymerwyd yn y flwyddyn ariannol flaenorol i hybu teithio llesol, a’r costau a ysgwyddwyd am ddatblygu llwybrau a chyfleusterau teithio llesol gwell.

Adroddiad Monitro’n nodi lefel y defnydd o lwybrau teithio llesol yn y 10 anheddiad ‘teithio llesol’ dynodedig ynghyd â gwybodaeth am lwybrau newydd sydd wedi cael eu gwella neu eu hadeiladu.

A wnaethoch chi wynebu unrhyw heriau?

Mae’r pandemig parhaus wedi dwyn heriau i blant o ran gallu symud yn rhydd o gwmpas eu cymunedau a chael mynediad at gyfleoedd chwarae.

Sut mae eu goresgyn?

Codi cyfyngiadau mewn perthynas â phandemig y coronafeirws.

Sylwadau:

Dylai’r adroddiadau uchod ystyried yr holl ardaloedd chwarae, nid dim ond cyfleusterau hamdden neu barciau

 

 

Gwybodaeth, cyhoeddusrwydd, digwyddiadau

Sut mae’r Awdurdod Lleol wedi defnyddio gwybodaeth yn gadarnhaol i sicrhau mynediad i ddarpariaeth chwarae?

Mae’r Cyngor yn hysbysebu pwysigrwydd chwarae a digwyddiadau chwarae parhaus, a gyhoeddir trwy’r wefan gorfforaethol ac ar dudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â chan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.

A wnaethoch chi wynebu unrhyw heriau?

Dibyniaeth gref ar grantiau er mwyn cynnal a hyrwyddo’r gweithgareddau uchod. Mae’r Tîm Chwarae’n fach ac felly nid oes digon o gapasiti ganddo i redeg ymgyrchoedd hysbysebu/marchnata helaeth. Mae llwyddiant yr ALl o ran rhoi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau a chynnal digwyddiadau sy’n cyfrannu at agweddau cadarnhaol at chwarae ymhlith y gymuned wedi deillio o’r adnoddau a grantiau ychwanegol i wneud hyn yn bosibl. Er bod y grant Gwaith Chwarae yn y Gwyliau’n un blynyddol bellach, ni fydd hwn yn talu cost marchnata a hysbysebu.

Sut mae eu goresgyn?

Parhau i ddefnyddio sianeli hysbysebu rhad-ac-am-ddim a gwneud gwaith allgymorth cymunedol i sicrhau bod teuluoedd yn cael eu hysbysu’n gyson. Cydweithio’n agos gydag ysgolion i gyfleu negeseuon ynglŷn â chwarae.

 

 

ID: 9241, adolygwyd 03/11/2022