Cynnal yr Asesiad - Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae
Mater G
Sicrhau a datblygu'r gweithlu chwarae
Dylai'r Awdurdod Lleol ddarparu gwybodaeth am strwythur sefydliadol y maes polisi sy'n rheoli'r agenda chwarae a'r gweithlu chwarae.
Statws RAG: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Noder: Mae’r meini prawf hyn yn ymwneud yn benodol â Gwaith Chwarae. Mae Gwaith Chwarae’n broffesiwn hynod grefftus sy’n cyfoethogi ac yn gwella chwarae. Mae’n digwydd lle mae oedolion yn cefnogi gweithgareddau chwarae plant ond nid yw’n cael ei lywio gan addysg ragnodedig neu ddeilliannau gofal. Mae hyn yn cynnwys mynediad agored a lleoliadau gofal plant y tu allan i’r ysgol.
Meini prawf
- Mae'r Awdurdod Lleol yn cadw gwybodaeth wedi’i diweddaru am y gweithlu yn yr Awdurdod Lleol (dylai hyn gynnwys nifer y gweithwyr chwarae, y strwythur rheoli chwarae, lefelau cymwysterau, cyfleoedd hyfforddi a gwirfoddolwyr)
Statws RAG 2019
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Statws RAG 2022
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Mae archwiliad llawn o’r holl gymwysterau yn ei le. Mae’r Awdurdod Lleol wedi gweld bod hyfforddiant digonol yn ei le i sicrhau bod gan yr holl safleoedd weithiwr chwarae â chymwysterau perthnasol.
Diffygion
- Anawsterau gyda recriwtio a chadw
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Lleoli capasiti ychwanegol i greu pecynnau hyfforddiant pwrpasol sy’n llenwi bylchau o ran anghenion. Gweithio gyda rhanddeiliaid i nodi sut y gellir cyfleu pwysigrwydd chwarae a chodi proffil gwaith chwarae trwy hyfforddiant Canfod ffrydiau cyllid hirdymor i sicrhau bod gweithwyr chwarae a rhieni’n gallu parhau i gael eu cymell i gael hyfforddiant. Swyddogion Datblygu Gofal Plant, cydweithwyr a phartneriaid ehangach i gynllunio, datblygu a gweithredu proses recriwtio i roi cymorth i hyrwyddo gyrfaoedd ym maes gofal plant a lleihau nifer y swyddi gwag ar draws y sector
Meini prawf
- Mae'r Awdurdod Lleol yn annog pob aelod o'r gweithlu i gyflawni lefel y cymhwyster a nodir yn Safonau Gofynnol Cenedlaethol Llywodraeth Cymru
Statws RAG 2019
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Statws RAG 2022
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Mae archwiliad llawn o’r holl gymwysterau yn ei le. Mae’r Awdurdod Lleol wedi gweld bod hyfforddiant digonol yn ei le i sicrhau bod gan yr holl safleoedd weithiwr chwarae â chymwysterau perthnasol
Diffygion
- Anawsterau yn y sector gyda recriwtio a chadw
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Cysylltu â’r strategaeth recriwtio a gyflawnir gan Dîm y Blynyddoedd Cynnar
Meini prawf
- Mae gan yr Awdurdod Lleol gyllideb datblygu staff a neilltuir ar gyfer chwarae, gan gynnwys gwaith chwarae
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Cyllideb graidd wedi’i haseinio ar gyfer hyfforddi’r gweithlu
Diffygion
- Oedi wedi bod oherwydd y pandemig.
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Cael gafael ar becyn hyfforddi newydd ar gyfer darparwyr.
Meini prawf
- Mae amrywiaeth cynhwysfawr o gyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gael i weithwyr chwarae yn yr ardal
Statws RAG 2019
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Statws RAG 2022
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Cynigir pecyn hyfforddi blynyddol i’r holl ddarparwyr cofrestredig yn yr awdurdod lleol.
- Cynigir rhwydwaith y tu allan i’r ysgol hefyd trwy’r Swyddogion Datblygu Gofal Plant.
Meini prawf
- Mae hyfforddiant ar gael er mwyn i wirfoddolwyr a rhieni ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau ym maes gwaith chwarae
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Mae pecyn hyfforddi ar gyfer gwirfoddolwyr yn cael ei ddarparu gan yr ALl.
Meini prawf
- Mae'r Awdurdod Lleol yn cynnwys gwaith chwarae yn ei strategaethau Datblygu'r Gweithlu
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Mae gwaith chwarae’n cael ei gynnwys yn strategaethau datblygu’r gweithlu ac fel rhan o hyfforddiant y Blynyddoedd Cynnar.
Meini prawf
- Mae'r Awdurdod Lleol yn annog partneriaid i ddarparu hyfforddiant priodol i grwpiau cymunedol, rhieni a gwirfoddolwyr
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Coch: Ni fodlonwyd y meini prawf
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Mae’r Swyddog Chwarae Strategol a Chwarae Gweithredol yn cynnig hyfforddiant i grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr
Diffygion
- Cafodd hyn ei atal trwy gydol y pandemig.
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Ei adfer a threfnu dyddiadau drwy’r flwyddyn.
I'w nodi bod y meini prawf hyn am y gweithlu chwarae: Mae hyn yn cwmpasu unrhyw un sydd wedi'i eu cyflogi mewn swydd sydd ag effaith ar blant yn chwarae - y rai sydd ag effaith uniongyrchol i hwyluso eu chwarae, cynllunio eu chwarae, neu'r rai sy'n galluogi'r plant chwarae, neu beidio.
Meini prawf
- Mae'r Awdurdod Lleol wedi cynnal dadansoddiad cynhwysfawr o anghenion hyfforddi ar gyfer y gweithlu chwarae fel y'i diffinnir yng ngeirfa'r pecyn cymorth
Statws RAG 2019
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Statws RAG 2022
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Mae archwiliad llawn o’r holl gymwysterau yn ei le. Mae’r Awdurdod Lleol wedi gweld bod hyfforddiant digonol yn ei le i sicrhau bod gan yr holl safleoedd weithiwr chwarae â chymwysterau perthnasol.
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Cael gafael ar becyn hyfforddi newydd ar gyfer darparwyr.
Meini prawf
- Mae'r Awdurdod Lleol yn cymryd camau i ehangu'r amrywiaeth o gyfleoedd dysgu a datblygu a gynigir i staff
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Cynigir pecyn hyfforddi blynyddol i’r holl ddarparwyr cofrestredig yn yr awdurdod lleol.
- Cynigir rhwydwaith y tu allan i’r ysgol hefyd trwy’r Swyddogion Datblygu Gofal Plant.
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Cael gafael ar becyn hyfforddi newydd ar gyfer darparwyr.
Meini prawf
- Mae amrywiaeth cynhwysfawr o gyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gael i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant.
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Cynigir pecyn hyfforddi blynyddol i’r holl ddarparwyr cofrestredig yn yr awdurdod lleol.
- Cynigir rhwydwaith y tu allan i’r ysgol hefyd trwy’r Swyddogion Datblygu Gofal Plant.
Meini prawf
- Mae sesiynau hyfforddi ymwybyddiaeth ar gael i weithwyr proffesiynol a swyddogion gwneud penderfyniadau y mae eu gwaith yn effeithio ar gyfleoedd plant i chwarae
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Coch: Ni fodlonwyd y meini prawf
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Mae’r Swyddog Chwarae Strategol a Chwarae Gweithredol yn cynnig hyfforddiant i grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr.
Diffygion
- Bu oedi oherwydd cyfyngiadau’r pandemig.
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Cynnig sesiynau hyfforddi rheolaidd ar fanteision chwarae
Sylwadau Cyffredinol: Sicrhau a datblygu'r gweithlu chwarae
Sut mae’r Awdurdodau Lleol wedi cwrdd â’r gofynion i sicrhau neu ymgymryd â’r gwaith o gyflwyno’r swyddogaethau rheoli a chyflenwi sy’n angenrheidiol i sicrhau digon o gyfleoedd chwarae, a’u diogelu?
Ers yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae diwethaf, mae’r tîm chwarae wedi cynyddu ei gapasiti i ryw raddau, sydd wedi ei gwneud yn bosibl codi proffil chwarae a chryfhau partneriaethau.
Sut mae’r Awdurdod Lleol wedi sicrhau ei fod yn deall ac yn darparu ar gyfer anghenion datblygu’r gweithlu ymysg y gweithlu chwarae (fel y’u diffiniwyd yn Cymru: Gwlad sy'n Creu Cyfle i Chwarae).
Mae archwiliad llawn o’r holl gymwysterau yn ei le. Mae’r Awdurdod Lleol wedi gweld bod hyfforddiant digonol yn ei le i sicrhau bod gan yr holl safleoedd weithiwr chwarae â chymwysterau perthnasol.
Sut mae’r Awdurdod Lleol wedi sicrhau ei fod yn deall ac yn darparu ar gyfer y gweithlu chwarae (fel y diffiniwyd yn Cymru: Gwlad sy'n Creu Cyfle i Chwarae).
Gwahoddwyd yr holl weithwyr chwarae i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad fel rhan o’r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae hwn.
A wnaethoch chi wynebu unrhyw heriau?
Fe achosodd COVID-19 heriau sylweddol o ran cadw a recriwtio staff. Gwahoddwyd yr holl weithwyr chwarae i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad fel rhan o’r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae hwn, ond roedd y niferoedd a ymatebodd yn isel gyda llai nag 20% (4 gweithiwr chwarae) yn cwblhau hwn.
Sut mae eu goresgyn?
Dylai’r ALl ystyried ffyrdd o hybu datblygiad y gweithlu nad ydynt yn ddibynnol ar grantiau cymhelliant e.e. trwy godi proffil gweithiwr chwarae fel proffesiwn. Dylid ymgysylltu â rhieni hefyd a’u hannog i ymgymryd â gwaith chwarae gwirfoddol.