Cynnal yr Asesiad - Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae
Mater H
Ymgysylltu â'r gymuned a chymryd rhan ynddi
Dylai'r Awdurdod Lleol ymgynghori'n eang â phlant, eu teuluoedd a rhanddeiliaid eraill ynghylch eu barn ar ddarpariaeth chwarae. Dylai hefyd hyrwyddo'r broses o ymgysylltu â'r gymuned gyfan wrth ddarparu cymunedau sy'n croesawu cyfleoedd chwarae.
Statws RAG: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol.Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol.
Meini prawf
- Mae’r Awdurdod Lleol yn hyrwyddo cynlluniau i ymgysylltu â grwpiau perthnasol wrth wella cyfleoedd chwarae i blant yn ei ardal
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Mae’r ALl yn hyrwyddo’i ddigwyddiadau cymunedol megis Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles.
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Creu agenda i wthio gwerth chwarae’n rheolaidd.
Meini prawf
Mae'r Awdurdod Lleol yn hyrwyddo ymgysylltiad â'r gymuned drwy:
- wneud lle addas ar gael i chwarae
- trefnu digwyddiadau chwarae
- agweddau cadarnhaol tuag at blant a chwarae
- hyfforddiant ar bwysigrwydd chwarae.
Statws RAG 2019
Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn
Statws RAG 2022
Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol
Tystiolaeth i ategu cryfderau
- Mae’r Swyddog Chwarae Strategol a Gweithredol yn cynnig hyfforddiant i grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr.
- Mae nifer o ddigwyddiadau chwarae wedi bod yn cael eu cynnig dros y 2 flynedd ddiwethaf, i gyd yn rhad ac am ddim, diolch i LlC sydd wedi darparu cyllid ar gyfer y rhaglenni Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles.
Diffygion
- Cafodd hyn ei atal trwy gydol y pandemig oherwydd cyfyngiadau. Bydd Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn cael ei adfer yn 2022.
Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu
- Adfer a threfnu dyddiadau trwy’r flwyddyn i gysylltu â phartneriaid megis y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.
- Y Swyddog Chwarae Strategol a Gweithredol i ddiweddaru’r tudalennau Chwarae ar y we.
- Y Swyddog Chwarae Strategol a Gweithredol i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol fel cyfrwng cyfathrebu rheolaidd.
Ymgysylltu â'r gymuned a chymryd rhan ynddi
Sut mae’r Awdurdod Lleol wedi defnyddio’n effeithiol y mecanweithiau sydd yn eu lle i hyrwyddo prosesau i annog plant i gymryd rhan ac i ymgynghori â theuluoedd mewn perthynas â chwarae?
Mae tudalen Chwarae Sir Benfro ar y cyfryngau cymdeithasol yn cael ei defnyddio’n eang i hyrwyddo’r holl weithgareddau chwarae a gynigir ledled y sir, gan gynnwys gweithgareddau a gynigir gan asiantaethau partneriaeth, gan annog pobl i ymwneud â gweithgareddau chwarae yn eu hardaloedd lleol.
Mae mentrau Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles LlC wedi galluogi Sir Benfro i ddarparu amrywiaeth eang o weithgareddau chwarae a chwaraeon ar gyfer pob grŵp oedran. Mae’r prosiectau hyn wedi bod yn hynod lwyddiannus gan alluogi plant a phobl ifanc i gael mynediad at amrywiaeth o gyfleoedd yn rhad ac am ddim na fyddent yn cael eu cynnig iddynt fel arfer.
Mae’r mentrau hyn wedi galluogi plant, pobl ifanc a theuluoedd i ailgysylltu a chymdeithasu, a oedd yn eithriadol o fanteisiol ar ôl y cyfnodau clo blaenorol yr ydym wedi eu gweld ledled y DU sydd wedi cael effaith fawr ar hawliau plant a phobl ifanc i chwarae.
Rydym yn defnyddio’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd i gyfleu cyfleoedd chwarae, yn ogystal â chylchlythyrau wythnosol i ysgolion, DEWIS, platfformau ar y cyfryngau cymdeithasol ac adrannau a gweithwyr proffesiynol perthnasol i’n cynorthwyo i hyrwyddo’r hyn sydd gennym i’w gynnig.
A wnaethoch chi wynebu unrhyw heriau?
Fe effeithiodd pandemig y coronafeirws ar gyfleoedd chwarae i blant a’r gallu i ddefnyddio mecanweithiau presennol yn effeithiol ar gyfer cyfranogiad plant ac ymgynghori wyneb yn wyneb ar gyfer chwarae.