Cynnal yr Asesiad - Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

Mater I

Chwarae yn unol â phob polisi perthnasol ac agenda weithredu

Dylai'r Awdurdod Lleol archwilio pob un o'i agendâu polisi o ran eu heffaith bosibl ar gyfleoedd plant i chwarae a chynnwys targedau a chamau gweithredu i wella cyfleoedd chwarae i blant ym mhob polisi a strategaeth o'r fath.

Statws RAG: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

 

Meini prawf

  • Mae yna unigolyn wedi’i enwi ar y Bwrdd Gwasanaethau Lleol sy'n hyrwyddo cyfleoedd chwarae i blant ac yn sicrhau bod yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a'r Cynllun Gweithredu yn cyfrannu at y Cynllun Llesiant ac yn cael eu hymgorffori ynddo

Statws RAG 2019

Coch: Ni fodlonwyd y meini prawf

Statws RAG 2022

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae aelod cabinet wedi cael ei enwi fel ein hyrwyddwr chwarae – Y Cyngh. Jon Harvey

Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu

  • Rhoi’r strategaeth chwarae newydd ar waith a sicrhau ei bod yn cael ei gwreiddio o fewn polisïau ehangach.

 

Meini prawf

  • Mae’r Cynllun Llesiant yn cydnabod pwysigrwydd chwarae ac yn cyfrannu at ddarparu cyfleoedd chwarae da

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Nid oes unrhyw gamau gweithredu manwl yn y Cynllun Llesiant ar hyn o bryd mewn perthynas â chwarae.
  • Mae’r Cynllun Llesiant wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ac i fod i gael ei gyhoeddi ym mis Mai 2023.

Diffygion

  • Mae angen i adrannau weithio mewn ffordd fwy cydlynol i sicrhau bod chwarae’n cael ei gynnwys yn y Cynllun Llesiant.

Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu

  • Adrannau unigol i gydweithio’n fwy i gynnwys chwarae yn y cynllun llesiant.

 

Addysg ac ysgolion

Meini prawf

  • Mae ysgolion yn sicrhau bod amgylchedd chwarae da yn cael ei ddarparu i blant ar gyfer egwyliau yn ystod y diwrnod ysgol

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Darperir hyn ac mae ysgolion yn cael eu cynorthwyo i ddatblygu polisïau chwarae safonedig.

 

Meini prawf

  • Mae ysgolion yn darparu cyfleoedd chwarae y tu allan i oriau addysgu

Statws RAG 2019

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Statws RAG 2022

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Cafodd pwysigrwydd y neges hon ei gyfleu’n rhannol trwy Gynhadledd Chwarae a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2020, gan ganolbwyntio ar y gwahaniaeth rhwng chwarae a ddewisir yn rhydd a chwarae strwythuredig. Fodd bynnag, bu oedi cyn cynnal ail ran y gynhadledd oherwydd COVID-19.
  • Mae archwiliad wedi cael ei gynnal gyda’r holl ysgolion yn yr Awdurdod Lleol i sicrhau bod cyfleoedd chwarae’n cael eu darparu y tu allan i oriau addysgu.

Diffygion

  • Parhau i wthio pwysigrwydd chwarae mewn ysgolion
  • Adolygu’r archwiliad i asesu bylchau a meysydd eraill lle gall ysgolion hyrwyddo cyfleoedd chwarae
  • Gweithio gydag ysgolion i ddatblygu a darparu rhaglenni therapi chwarae

Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu

  • Llunio adroddiad ar ganfyddiadau’r archwiliad i'w rannu gyda Phenaethiaid Ysgolion a chyrff llywodraethu.

 

 

Meini prawf

  • Mae ysgolion yn darparu mynediad i dir yr ysgol ar gyfer chwarae y tu allan i oriau ysgol

Statws RAG 2019

Coch: Ni fodlonwyd y meini prawf

Statws RAG 2022

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Cafodd pwysigrwydd y neges hon ei gyfleu’n rhannol trwy Gynhadledd Chwarae a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2020, gan ganolbwyntio ar y gwahaniaeth rhwng chwarae a ddewisir yn rhydd a chwarae strwythuredig. Fodd bynnag, bu oedi cyn cynnal ail ran y gynhadledd oherwydd COVID-19.

Diffygion

  • Parhau i wthio pwysigrwydd chwarae mewn ysgolion
  • Adolygu’r archwiliad i asesu bylchau a meysydd eraill lle gall ysgolion hyrwyddo cyfleoedd chwarae
  • Gweithio gydag ysgolion i ddatblygu a darparu rhaglenni therapi chwarae

Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu

  • Llunio adroddiad ar ganfyddiadau’r archwiliad i'w rannu gyda Phenaethiaid Ysgolion a chyrff llywodraethu.

 

Meini prawf

  • Mae ysgolion yn annog plant i gerdded a seiclo i'r ysgol

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae Kerbcraft yn cael ei wneud ym mhob ysgol gan y Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd.

 

Meini prawf

  • Mae'r Awdurdod Lleol yn cynnig arweiniad er mwyn sicrhau bod ysgolion yn deall na ddylid cwtogi ar gyfleoedd chwarae rheolaidd yn yr awyr agored ac nad yw hynny'n digwydd

Statws RAG 2019

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Statws RAG 2022

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae’r Swyddog Chwarae Strategol a Gweithredol yn darparu mewnbwn rheolaidd ar gyfer y cylchlythyr i ysgolion ar ffurf erthyglau/canllawiau ar bwysigrwydd chwarae a’i fod yn peidio â chael ei ddefnyddio fel cosb. Bydd polisïau chwarae ysgolion yn ailadrodd y neges hon hefyd; mae’r polisi bron â chael ei gwblhau ac unwaith y bydd yn gyflawn bydd yn cael ei rannu gyda’r holl bartïon perthnasol.

Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu

  • Rhannu’r polisi chwarae gyda’r holl Benaethiaid Ysgolion a Chyrff Llywodraethu

 

Cynllunio Gwlad a Thref

Meini prawf

  • Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn cydnabod ac yn mynd i’r afael ag anghenion plant o wahanol grwpiau oedran a galluoedd o ran chwarae yn yr awyr agored

Statws RAG 2019

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Statws RAG 2022

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Tystiolaeth i ategu cryfderau

Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei ailddrafftio ar hyn o bryd

Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu

  • Sicrhau bod y CDLl yn cynnwys cyfeiriad penodol at chwarae a’i adolygu’n unol â’r camau gweithredu yn yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 

 

Traffig a Thrafnidiaeth

Meini prawf

  • Mae'r Cynllun Trafnidiaeth lleol yn cydnabod pwysigrwydd strydoedd, ffyrdd a llwybrau cerdded a seiclo lleol o ran cynnig 

Statws RAG 2019

Coch: Ni fodlonwyd y meini prawf

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae Deddf Teithio Llesol 2013 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i fapio llwybrau cerdded a beicio ac ymgeisio am gyllid i gyflwyno llwybrau mewn trefi yn y Sir. 
  • Mae cerdded a beicio wedi cael eu gwella trwy arwyddion yn rhybuddio am ysgolion, croesfannau is ar gyfer cerddwyr a chyrbau is, cyflwyno standiau beiciau awyr agored ac o dan do mewn ysgolion, llwybrau cyd-ddefnyddio, cyflwyno clustogau arafu ym meysydd parcio canolfannau hamdden, goleuadau stryd mewn ysgolion.

 

 

Meini prawf

  • Mae'r Cynllun Trafnidiaeth lleol yn nodi ffyrdd o asesu anghenion pob grŵp, gan gynnwys y rheini sy'n aml yn cael eu hymyleiddio, a mynd i'r afael â hynny

Statws RAG 2019

Coch: Ni fodlonwyd y meini prawf

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae cerdded a beicio wedi cael eu gwella trwy arwyddion yn rhybuddio am ysgolion, croesfannau is ar gyfer cerddwyr a chyrbau is, cyflwyno standiau beiciau awyr agored ac o dan do mewn ysgolion, llwybrau cyd-ddefnyddio, cyflwyno clustogau arafu ym meysydd parcio canolfannau hamdden, goleuadau stryd mewn ysgolion.

 

Cynlluniau’r Blynyddoedd Cynnar

Meini prawf

  • Mae cynlluniau a gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar a Dechrau'n Deg yn cydnabod pwysigrwydd chwarae ac yn cyfrannu at y gwaith o ddarparu cyfleoedd chwarae da i blant iau 

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Cafodd Tîm y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ei integreiddio yn 2020/21. Mae hyn wedi darparu rhwydwaith cymorth cyson ar gyfer yr holl leoliadau gan ddilyn yr un canllawiau ynghylch cyfleoedd chwarae cyfoethog. Defnyddir y Canllawiau Gofal Plant Dechrau’n Deg fel sylfaen ar gyfer yr holl ofal plant ni waeth pa un a yw’n cael ei ariannu ai peidio.
  • Grwpiau cerdded
  • Gweithgareddau Chwarae, Ymgysylltu a Chysylltu trwy Tîm o Amgylch y Teulu.
  • Gwaith 1:1 gyda theuluoedd yn hyrwyddo pwysigrwydd chwarae, gan gefnogi’r amgylchedd yn y cartref a’r gymuned, mynediad at adnoddau cymunedol.
  • Amser rhigwm ac amser stori yn y parciau lleol, gan arfogi rhieni â’r sgiliau i wella cyfleoedd chwarae. Cynigir gweithgareddau Ysgol Goedwig hefyd mewn partneriaeth gyda’r Parc Cenedlaethol.
    Mae’r BC a DD yn bwydo i mewn i’r mentrau Gaeaf Llawn Lles a Haf o Hwyl hefyd

Diffygion

  • Gall cyllid fod yn broblem i ddarparu’r gweithgareddau hyn

Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu

  • Swyddog Arweiniol y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant a’r Rheolwr Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf i weithio mewn partneriaeth gyda chydweithwyr ym maes iechyd i gynllunio, adnabod a gweithredu ehangiad Dechrau’n Deg i’r holl blant 2 oed.
  • Dyrannu cyllid i wella darpariaeth chwarae ledled y sir

 

Polisïau a mentrau i'r teulu

Meini prawf

  • Mae mentrau cymorth i deuluoedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf a chymorth i rieni i'w galluogi i annog eu plant i chwarae

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae’r Tîm o Amgylch y Teulu’n rhoi cymorth 1:1 ar ddyletswydd ac fel rhan o brosesau rheoli achosion. Mae Ymwelwyr Iechyd Dechrau’n Deg yn hyrwyddo chwarae’n barhaus; maent yn gallu atgyfeirio at nyrsys meithrin cymunedol os oes angen i roi cymorth pellach i deuluoedd

 

Meini prawf

  • Mae gweithredu’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn lleol yn cydnabod pwysigrwydd chwarae ac yn cyfrannu at ddarparu cyfleoedd chwarae cyfoethog

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • O fewn Teuluoedd yn Gyntaf, ariennir Tîm o Amgylch y Teulu yn ogystal â swyddog chwarae anableddau sy’n rhan o Chwaraeon Sir Benfro. Gweithio yn yr ysgolion i ddileu rhwystrau a galluogi plant i gael mynediad at gyfleoedd chwarae a chwaraeon.
  • Mae Tîm o Amgylch y Teulu’n gweithio ochr yn ochr â Chwaraeon Sir Benfro gyda’r fenter Chwarae Go Iawn a adwaenir hefyd fel Prosiect yr Enfys, sy’n cael ei dreialu ar hyn o bryd mewn 5 ysgol plant iau.
  • Ymgysylltu â theuluoedd ac rhoi anogaeth ar gyfer chwarae egnïol gartref trwy glwb ymgysylltu â theuluoedd. Cefnogi datblygiad y plentyn cyfan gan gynnwys sgiliau personol, cymdeithasol a chorfforol

 

Meini prawf

  • Mae cynlluniau i leihau effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn cydnabod pwysigrwydd chwarae ac yn cyfrannu at ddarparu cyfleoedd chwarae da

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae Tîm o Amgylch y Teulu’n defnyddio dull sy’n deall trawma i gydnabod a gweithio gyda’r agenda Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod i oleuo ymarfer gyda theuluoedd yn yr holl waith achosion, i hybu cymorth datblygiadol, ym maes gofal cymdeithasol.

 

Polisïau a mentrau sy'n pontio'r cenedlaethau

Meini prawf

  • Mabwysiedir amrywiaeth o ymagweddau sy'n seiliedig ar chwarae tuag at weithgareddau sy'n pontio'r cenedlaethau

Statws RAG 2019

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Statws RAG 2022

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Prosiect Atgofion Chwarae – mae’r holl brosesau a chynlluniau yn eu lle i’w roi ar waith pan fydd amser yn caniatáu.

Diffygion

  • Staffio cyfyngedig yn y tîm chwarae i wneud y darn yma o waith oherwydd pwysau’r prosiectau a ariennir gan LlC; h.y. Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles 

Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu

  • Cyflwyno cais i grŵp strategol CCG am gymorth gyda’r cyllid ar gyfer Swyddog Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Dan Hyfforddiant

 

Meini prawf

  • Mabwysiedir ymagwedd greadigol tuag at weithgareddau sy'n pontio'r cenedlaethau sy'n annog gwell rhyngweithio rhwng plant o wahanol oedrannau

Statws RAG 2019

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Statws RAG 2022

Ambr: Bodlonwyd y meini prawf yn rhannol

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Prosiect Atgofion Chwarae – mae’r holl brosesau a chynlluniau yn eu lle i’w roi ar waith pan fydd amser yn caniatáu.

Diffygion

  • Staffio cyfyngedig yn y tîm chwarae i wneud y darn yma o waith oherwydd pwysau’r prosiectau a ariennir gan LlC; h.y. Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles 

Camau Gweithredu a Nodir ar gyfer y Cynllun Gweithredu

  • Cyflwyno cais i grŵp strategol CCG am gymorth gyda’r cyllid ar gyfer Swyddog Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Dan Hyfforddiant
  • Cyflwyno cais i grŵp strategol CCG am gymorth gyda’r cyllid ar gyfer Swyddog Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Dan Hyfforddiant

 

Iechyd a Diogelwch

Meini prawf

  • Mae'r polisïau Iechyd a Diogelwch yn nodi'n glir pa mor bwysig ydyw bod plant yn gallu profi risg a heriau

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Mae meini prawf y Cynllun Lleoliadau Cyn-ysgol Iach yn gefnogol i’r maes hwn ac yn rhan o’r meini prawf dan Weithgarwch Corfforol a Chwarae.

Mae gan CSP ddogfen Trefniadau Offer Buarthau Ysgolion.

Mae dau o’r amcanion yn y ddogfen hon yn cyfeirio at

  • sicrhau bod manteision chwarae’n cael eu profi i’r eithaf a bod offer chwarae’n cydymffurfio â safonau’r diwydiant megis BSEN 1176#
  • Sicrhau bod ysgolion yn cydymffurfio â gofynion cyffredinol Polisi Chwarae Llywodraeth Cymr

Sonnir ymhellach am ysgolion a gwasanaethau eraill yn gynyddol yn darparu offer chwarae fel modd i ddarparu ysgogiad ychwanegol i blant a chyfleoedd i archwilio a datblygu eu sgiliau, galluoedd corfforol a’u hymagwedd at gymryd risgiau

 


Meini prawf

  • Mae'r polisïau a'r gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch yn cynnwys yr ymagwedd risgiau a buddiannau tuag at asesiadau iechyd a diogelwch fel yr argymhellwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch  

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Ydynt, mae hyn yn Statudol. Mae iechyd a diogelwch sy’n gysylltiedig â chwaraeon yn uniongyrchol wedi’u cynnwys yn y polisïau iechyd a diogelwch corfforaethol.

 


Meini prawf

  • Mae’r Awdurdod Lleol yn cynnig darparu yswiriant trwy gynllun yr Awdurdod Lleol i unrhyw ddarparwyr chwarae trydydd parti a chynghorau cymuned

Statws RAG 2019

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Statws RAG 2022

Gwyrdd: Bodlonwyd y meini prawf yn llawn

Tystiolaeth i ategu cryfderau

  • Os yw’r ddarpariaeth wedi’i lleoli o fewn yr ardal chwarae yna byddai Cyngor Sir Penfro’n yswirio. Cynigir arolygiadau ac yswiriant i barciau chwarae CSP yn ogystal â’r rhai a berchnogir ac a reolir gan y Gymuned.

Chwarae o fewn pob polisi ac agenda weithredu berthnasol

Defnyddiwch yr adran hon i ddwyn sylw at y llwyddiannau a welwyd yn sgil cydweithio ar draws meysydd polisi i  wella cyfleoedd chwarae.

Mae’r awdurdod lleol yn gweithio gydag ysgolion i roi polisi chwarae ar waith a fydd yn sicrhau bod chwarae’n uchel ar agendâu ysgolion ac nad yw amser ar gyfer chwarae’n cael ei dynnu oddi ar blant fel sancsiwn.

A wnaethoch chi wynebu unrhyw heriau?

Staffio cyfyngedig yn y tîm chwarae i wneud y darn yma o waith oherwydd pwysau’r prosiectau a ariennir gan LlC; h.y. Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles

Sut mae eu goresgyn?

Dylai’r ALl sicrhau sut y gall ddarparu cyllid hirdymor ar gyfer trafnidiaeth â chymhorthdal i leoliadau, yn enwedig y rhai mewn ardaloedd gwledig ar gyfer grwpiau o blant â nodweddion gwarchodedig.

 

ID: 9262, adolygwyd 03/11/2022