Cynnal yr Asesiad - Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

Mewnweliadau o’r coronaferiws

Dylai’r adran hon drafod yr effaith a gafodd y coronafeirws ar allu’r awdurdod lleol i wneud unrhyw gynnydd yn erbyn y Camau Gweithredu ar gyfer Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae.

Heb os nac oni bai, mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith ar fywydau plant a phobl ifanc ledled Sir Benfro a bydd effeithiau hyn yn dal i gael eu teimlo yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. Y ffocws wrth roi camau gweithredu ar waith o Gynllun Gweithredu 2022 fydd cydblethu adferiad o COVID-19 â phob cam gweithredu sy’n gysylltiedig â chwarae a gymerir er budd llesiant meddyliol a chorfforol plant a phobl ifanc a pharhau i weithio tuag at flaenoriaethau’r Cyngor.

Yn anffodus, fe effeithiwyd yn negyddol ar rai o’r camau gweithredu arfaethedig o’r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae blaenorol oherwydd oedi a tharfu a achoswyd gan COVID-19, a gellir gweld hyn yn y tabl Materion yn yr adran ddilynol. Ers i’r cyfyngiadau ddechrau cael eu llacio, mae’r awdurdod lleol wedi gallu cynnal digwyddiadau chwarae unwaith eto megis yr Haf o Hwyl a’r Gaeaf Llawn Lles, ac mae’r adborth cadarnhaol o’r digwyddiadau hyn yn dangos pwysigrwydd gweithgareddau o’r fath i gefnogi’r adferiad o COVID-19 a darparu cyfleoedd cyfoethog i blant chwarae eto, yn enwedig o ran cynorthwyo plant i oresgyn teimladau o fod yn anniogel neu’n orbryderus yn gymdeithasol oherwydd y pandemig, sef rhywbeth y soniodd plant amdano yn ystod yr ymgynghoriad.

O ran hyfforddiant a datblygu’r gweithlu, bu oedi gyda hyn hefyd oherwydd COVID-19 a’r anallu i redeg hyfforddiant wyneb yn wyneb am nifer o fisoedd. Roedd prinderau staff yn fater allweddol yn ystod y pandemig hefyd. Nododd rhai lleoliadau iddynt orfod atal eu darpariaeth dan do yn ystod y pandemig a gweithredu â niferoedd llai o staff neu wirfoddolwyr. Roedd trosiant staff uwch yn fater arall a godwyd gan ddarparwyr chwarae, gydag aelodau o staff hŷn yn gadael yn ystod y pandemig a phroblemau eraill gyda chadw staff.

Nododd rhai darparwyr chwarae fod y pandemig wedi effeithio’n sylweddol ar eu sefyllfa ariannol, yn ogystal â datblygiad plant a staffio. Pwynt arall a godwyd oedd y gwelwyd cynnydd yn nifer y plant ag ADY ers y pandemig, a gorfod dychwelyd at hanfodion meithrin gorchwylion rheolaidd a rheolau a datblygu sgiliau cymdeithasol i lawer. 

ID: 9175, adolygwyd 03/11/2022