Cynnal yr Asesiad - Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

Monitro Digonolrwydd Chwarae

Dylai’r adran hon nodi’r cyfarwyddwr arweiniol a’r aelod arweiniol ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc. Dylai hefyd ddisgrifio’r Grŵp Monitro Chwarae neu grŵp tebyg. Gofynnwn i chi ddarparu rhestr o’r aelodau a hefyd ddisgrifio sut y mae gwaith y grŵp wedi’i hwyluso ynghyd â manteision y grŵp a’r heriau y mae’n eu hwynebu.

Y Swyddog Arweiniol yw’r Cyfarwyddwr Addysg, Steven Richard-Downes. Yr Aelod Cabinet dros Addysg a Dysgu Gydol Oes yw Mr Guy Woodham.

Roedd yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae’n cynnwys ymgynghori â chynrychiolwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP), Gweithredu dros Blant, y Cydlynydd Sipsiwn a Theithwyr, y Blynyddoedd Cynnar, Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, Iechyd Cyhoeddus Cymru/Ysgolion a Lleoliadau Cyn-ysgol Iach, Tai Sir Benfro, Iechyd y Cyhoedd, Cynghorau Tref a Chymuned, y GIG, Iechyd a Diogelwch, Rhieni, plant a phobl ifanc.

Bydd yr Asesiad a’r Cynllun Gweithredu’n cael eu rhannu gyda’r Cabinet ym mis Mehefin 2022 ac byddir yn ymdrin ag unrhyw addasiadau y gofynnwyd amdanynt yn y Tîm Partneriaeth Chwarae.

ID: 9174, adolygwyd 03/11/2022