Cynnal yr Asesiad - Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae
Rhanddeiliaid
Gwahoddwyd nifer o randdeiliaid perthnasol o’r Cyngor, ysgolion a sefydliadau eraill i gwblhau’r arolwg chwarae.
Gwybodaeth am randdeiliaid
Mae’r tabl isod yn cynnwys gwybodaeth am ba rôl waith neu swydd sydd gan y rhanddeiliaid yn y gymuned. Ar y cyfan, fe gyfranogodd 53 o randdeiliaid allweddol yn yr arolwg. Dim ond un wnaeth hepgor y cwestiwn isod.
- Preswylydd Lleol: 21.15% (11)
- Pennaeth Uwchradd: 1.92% (1)
- Pennaeth Cynradd: 15.38% (8)
- Cyflogai arall mewn lleoliad addysgol (e.e. ysgol, meithrinfa, coleg): 28.85% (15)
- Cyflogai mewn llywodraeth leol: 15.38% (8)
- Aelod neu Ymddiriedolwr mewn elusen neu sefydliad sy’n ymwneud â chwarae: 7.69% (4)
- Arall: 9.62% (5)
Barn am ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae yn Sir Benfro
Mae’r siart isod yn dangos barn gyfatebol rhanddeiliaid ynglŷn â pha mor ddigonol yw’r llefydd i blant chwarae.
Poblogrwydd gweithgareddau/chwarae
Nesaf, gofynnwyd i’r cyfranogwyr pa fathau o weithgareddau yw’r rhai mwyaf poblogaidd ymhlith y plant yn eu tyb hwy a chawsant eu hysgogi i ysgrifennu eu hatebion eu hunain. Allan o’r 41 o ymatebwyr, fe wnaeth chwe rhanddeiliad grybwyll gweithgareddau chwaraeon, gyda phob un ohonynt yn crybwyll pêl-droed. Rhoddodd eraill fwy nag un enghraifft ac fe restron nhw chwaraeon fel dringo a rygbi. Meddai un unigolyn yn benodol:
“Mae’n dibynnu – mae rhai’n hoffi i’w gweithgareddau chwarae fod yn seiliedig ar chwaraeon e.e. pêl-droed, pêl-rwyd, pêl-fasged. Mae’n well gan eraill chwarae heb offer e.e. tag, faint o'r gloch Mistar Blaidd ac ati. Mae’n well gan eraill chwarae dychmygus e.e. rhyfel, reidio ceffylau dychmygol ac ati.”
Gan gynnwys y sylw uchod, fe soniodd pum ymatebydd fod chwarae dychmygus neu greadigol yn boblogaidd ymhlith y plant. Fe wnaeth pum cyfranogwr arall sylwadau bod parciau sglefrio a/neu sglefrio fel gweithgaredd yn boblogaidd. Meddai un unigolyn yn benodol:
“Heblaw am siglenni a llithrennau, a fydd wastad yn boblogaidd, rwy’n cael bod plant yn chwilio am offer sy’n fwy o her ac yn fwy anturus. Dringo ysgolion rhaffau, cadw cydbwysedd ar bontydd rhaffau, offer pren sy’n rhoi profiadau ar thema benodol e.e. morladron, gan gynyddu eu sgiliau corfforol, meddyliol a chymdeithasol.”
Mae sylwadau eraill yn cynnwys:
- Gwifrau gwib, ardaloedd cerddorol mewn parciau, canolfannau chwarae rôl
- Offer mawr fel llwybr rhwystrau, ffrâm ddringo
Mewn cyferbyniad, gofynnwyd i’r rhanddeiliaid wedyn beth yw’r gweithgareddau lleiaf poblogaidd yn eu tyb hwy. Gyda dim ond 25 o gyfranogwyr yn rhoi atebion yn yr adran hon, thema gyffredin oedd offer maes chwarae gyda thri chyfranogwr yn dweud:
“Offer maes chwarae traddodiadol (llithrennau, siglenni).”
“Fel yr ailddatgenais yn gynharach, bydd siglenni, llithrennau a throgylchoedd wastad yn ddarnau ‘arunigol’ o offer yn arbennig ar gyfer plant bach, wrth iddynt fynd yn hŷn, 7 oed a throsodd, mae angen profiadau sy’n fwy o her ac yn fwy dychmygus.”
“Offer nad yw’n gadarn ar gyfer grŵp oedran cul – e.e. fframiau dringo / tai chwarae bychain lliw pastel. Maen nhw’n edrych yn flinedig ac wedi pylu / yn ddiflas / yn dueddol o luddedu / methu a chael eu fandaleiddio yn ogystal â bod yn opsiynau carbon uchel mewn cyfnod pan fo CSP a Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bod hi’n argyfwng ar yr hinsawdd.”
“Darllen, gemau bwrdd, gemau traddodiadol sy’n mynd allan o ffasiwn.”
“Nid yw’n ymddangos fel pe bai llawer o ddiddordeb yn y gemau yr ydym wedi’u marcio ar fuarth ein hysgol; hopsgotsh, nadroedd ac ysgolion.”
“Rhai gweithgareddau sy’n gysylltiedig â chwaraeon – taflu a dal (tennis, criced...).”
Effeithiau COVID-19 ar ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae
Gofynnwyd i’r rhanddeiliaid a oeddent yn teimlo bod COVID-19 wedi effeithio ar gyfleoedd chwarae plant. Roedd yr atebion yn weddol ranedig, gyda mwy o randdeiliaid yn ateb gan ddweud Naddo, ei fod heb.
- Do: 25.00%
- Naddo: 54.17%
Cafodd y rhanddeiliaid a atebodd eu hysgogi i roi rheswm pam. Fe ddarparon nhw’r datganiadau canlynol ar ein cyfer:
“Wrth gwrs nid yw meysydd chwarae’n cael eu glanhau ar ôl eu defnyddio”
“Mae gorbryder yn fater gyda rhai plant”
“Rwy’n meddwl bod plant yn teimlo’n ddiogel ond efallai nad yw rhai rhieni’n dymuno bod eu plant yn mynd allan i chwarae”
Rhwystrau i chwarae a darpariaeth chwarae
Yn yr adran hon, gofynnwyd i’r rhanddeiliaid a oeddent yn meddwl bod plant yn wynebu anawsterau wrth geisio cyfranogi mewn gweithgareddau penodol ac os felly gofynnwyd iddynt nodi pam.
- Ydw: 55.00%
- Nac ydw: 45.00%
Wrth roi awgrymiadau, fe wnaeth pum ymatebydd sylw bod anableddau’n rhwystr i rai gweithgareddau penodol. Roedd sylwadau am hyn yn dweud y canlynol:
“Gall anableddau o bob math effeithio ac maen nhw’n effeithio ar y ffordd y gall y plant hyn gyfranogi, felly dylai’r holl barciau newydd gael eu cynllunio, i gynnwys plant, yn enwedig plant ag anableddau corfforol, i fod ag offer sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn.”
“A minnau wedi gweithio gyda defnyddiwr cadair olwyn ifanc, roedd ceisio dod o hyd i weithgareddau a oedd yn addas ac yn hygyrch a chael mynediad atynt yn anodd iawn. Mae llawer o balmentydd yn rhy gul, yr unig ffordd yr oeddem yn gallu mynd i lefydd oedd trwy fynd ar lwybr bysiau i lefydd lle’r oedd y tir wedi’i balmantu, roedd hyd yn oed y gallu i fynd allan am dro’n gyfyngedig.”
“Os oes gan blant anableddau, yna mae’n mynd i wneud eu cyfranogiad mewn rhai gemau penodol yn anos: byddwn yn gobeithio y byddai eu ffrindiau’n addasu eu ffordd o chwarae fel bod pawb sy’n dymuno cymryd rhan yn gallu gwneud hynny.”
Fe wnaed rhai sylwadau hefyd am balmentydd yn ei gwneud yn anodd cerdded o gwmpas yr ardal leol, gyda phedwar cyfranogwr yn datgan hyn. Fe wnaed dau sylw am drafnidiaeth hefyd.
Nesaf, gofynnwyd i’r cyfranogwyr ‘Pa ddarpariaethau chwarae ychwanegol hoffech chi eu gweld yn cael eu darparu? Rhowch fanylion:’
Fe wnaeth y 31 o ymatebwyr i’r cwestiwn roi’r awgrymiadau canlynol. Fe grybwyllodd 11 o ymatebwyr feysydd chwarae, gyda 4 o’r rhain yn awgrymu gwella rhai presennol a’r 7 arall yn awgrymu y dylid adeiladu meysydd chwarae newydd. Meddai un unigolyn yn benodol:
“Yn fy ardal i, byddai man chwarae amlddefnydd o fudd mawr.”
Fe wnaeth 4 ymatebydd sylwadau ynglŷn â sut y gellir gwella ardaloedd awyr agored fel parciau a theithiau cerdded, fe wnaeth 2 ymatebydd grybwyll ‘parciau sglefrio’ ac fe gyfeiriodd tri at fwy o ardaloedd chwarae ‘dan do’ neu ‘wedi’u gorchuddio’.
Meysydd i’w gwella
Yn ddiddorol, pan ofynnwyd iddynt a ydynt yn cael adborth neu gwestiynau am ddarpariaeth chwarae, dywedodd y mwyafrif ‘Nac ydw’.
Rhoddodd wyth cyfranogwr rai enghreifftiau o adborth y maent wedi’i gael. Tuedd gyffredin oedd ardaloedd chwarae ac ychwanegu neu adnewyddu offer chwarae.
“Fe ofynnais i am grant ar gyfer man chwarae amlddefnydd.”
“Rydym yn anfon ein holiaduron chwemisol at yr holl rieni er mwyn inni aros gyfuwch ag unrhyw newidiadau yr hoffent eu gwneud.”
“I’r parc fod yn addas ar gyfer plant bach, yn hygyrch i gadeiriau olwyn ac yn addas ar eu cyfer hefyd.”
“Offer chwarae newydd, diogelwch.”
“Mwy o ddarpariaeth/darpariaeth y meddyliwyd amdani hyd ei phen yn well o safbwynt strategol.”
“Beth sydd i’w gael ar gyfer plant ag ADY, pryd fydd eu hardaloedd chwarae lleol yn cael eu hailfywiogi, pryderon ynghylch baw cŵn, diffyg seddi i rieni a gofalwyr, diffyg toiledau mewn parciau.”
“Rydym wedi cael adborth, yn enwedig gan y plant, ar eitemau yr ydym wedi’u gosod yma yn yr ysgol.”
“Maen nhw’n gwerthfawrogi’r ardaloedd chwarae yn y pentref. Maen nhw hefyd yn gwerthfawrogi’r ffaith bod tir yr ysgol yn hygyrch y tu allan i oriau ysgol.”
Gofynnwyd i randdeiliaid a allai’r ALl wella cyfleoedd chwarae cyfredol. Fel a ddangosir isod fe ymatebodd y mwyafrif, sef 64.86%, gan ddweud ‘Gallai’; fodd bynnag fe ymhelaethodd 24 o ymatebwyr ar hyn. Mae lleiafrif bach, sef 5.41%, yn credu na ddylid gwneud unrhyw welliannau, tra bo’r 29.73% sy’n weddill wedi dweud nad oeddent yn siŵr beth ellid ei wneud.
Mae’r ddau ddatganiad fel a ganlyn:
“Fel Arbenigwr Chwarae Gofal Lliniarol, rwy’n frwd dros chwarae a'r gwerth y mae’n ei ddwyn. Mae angen i blant feithrin hyder ar ôl COVID a byddai mwy o ddigwyddiadau chwarae cymunedol yn helpu gyda hyn”
“Mae Cynghorau Cymuned yn hoffi gwario symiau gormodol o arian ar offer chwarae nad yw wastad yn cyd-fynd â dymuniadau’r plant. Mae rhai safleoedd chwarae mewn trefi’n dioddef oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol y mae angen rhoi terfyn arno. Mae parc sglefrio Hwlffordd yn adnodd ardderchog, er y gallem wneud ag un yn rhan ddeheuol y sir.”
Ymgynghoriad â Gweithwyr Chwarae
Yn ystod gwanwyn 2022, cafodd 21 o weithwyr chwarae o leoliadau ledled Sir Benfro eu gwahodd i gwblhau ein Cyfweliadau dros y Ffôn gyda Chymorth Cyfrifiadur i rannu eu barn ynglŷn â sut y mae anghenion chwarae plant a phobl ifanc yn cael eu diwallu yn Sir Benfro. Cafodd y Cyngor ymateb gan 4 o’r gweithwyr chwarae (19%). Caiff y mathau o ddarparwyr a ymatebodd i’r arolwg eu dangos yn y tabl isod, gyda rhai darparwyr chwarae’n rhychwantu mwy nag un math.
- Gofal plant: 40.0% 2
- Clybiau ieuenctid: 0.0% 0
- Clybiau chwaraeon: 0.0% 0
- Chwarae mynediad agored: 0.0% 0
- Clybiau y tu allan i’r ysgol: 60.0% 3
- Arall: 0.0% 0
Gofynnwyd i ddarparwyr hefyd pa fath o gyfleoedd chwarae y maent yn eu darparu ar hyn o bryd.
Yn ogystal â’r uchod, cofnododd darparwyr eu bod yn darparu yoga, gweithgareddau awyr agored, gweithgareddau coginio a gemau bwrdd. Roedd nifer y plant a oedd yn cael mynediad at y darparwyr chwarae y cyfwelwyd â hwy'n amrywio o 15 i 134, rhwng 0 ac 11 oed. Plant 3 a 10-11 oed oedd yn cael mynediad fynychaf at y darpariaethau y cyfwelwyd â hwy.
Dywedodd yr holl ddarparwyr fod gan blant fynediad at ddarpariaeth chwarae awyr agored (e.e. cae, maes chwaraeon) yn eu lleoliad.
Adborth ar weithgareddau
Y gweithgareddau mwyaf poblogaidd ar gyfer plant a phobl ifanc, yn ôl y darparwyr chwarae y cyfwelwyd â hwy, yw:
- Gemau bwrdd, bod y tu mewn yn chwarae gyda’i gilydd, e.e. gyda doliau, yn lliwio a.y.b.
- Gweithgareddau awyr agored a chorfforol e.e. pêl-droed, pêl-fasged
- Celf a chrefft
- Defnyddio technoleg e.e. Xbox, iPad, teledu
- Drama
Dywedodd 75% o’r darparwyr eu bod yn bwriadu cyflwyno darpariaeth neu weithgareddau newydd, yn y byrdymor neu’r hirdymor, gan gynnwys:
- Offer ar gyfer gweithgareddau awyr agored, megis cegin fwd ac offer awyr agored arall
- Chwarae â rhannau rhydd – bydd y darparwr hefyd yn ymestyn hyn yn fwy ar ôl cael hyfforddiant
- Chwarae synhwyraidd
Dywedodd un darparwr ei fod yn rhoi holiaduron i blant i ganfod beth hoffent ei chwarae, ond pa un a yw’n bosibl, mae hynny’n ddibynnol ar y cyllid.
Roedd 75% o’r darparwyr a ymatebodd i’r arolwg yn teimlo bod rhai plant yn cael anawsterau ymgysylltu â rhai gweithgareddau. Y rhesymau a roddwyd dros hyn oedd:
- Iawn pan fo plant yn cael cymorth 1-1 ond maen nhw’n ei chael yn anodd heb hyn, dim ond 10 awr o gymorth y mae rhai’n ei gael ond mae angen mwy arnynt
- Efallai nad oes gan rai plant ADY nac anabledd, ond bod arnynt angen mwy o gymorth nag eraill, a hwythau wedi cael cyllid ar gyfer cymorth 1:1 yn y gorffennol
- Anawsterau gyda sgiliau cymdeithasol
Gofynnwyd i ddarparwyr chwarae a oeddent wedi cael unrhyw gwestiynau neu sylwadau gan rieni am ansawdd neu hygyrchedd darpariaeth. Dywedodd darparwyr chwarae eu bod wedi cael adborth cadarnhaol gan rieni ar y cyfan:
“Cadarnhaol ar y cyfan, mae plant yn hapus yn ein gofal.”
“Cadarnhaol, rhai argymhellion ynghylch rhestrau aros – yn gysylltiedig â’r pandemig.”
Effaith Covid-19 ar ddarpariaeth chwarae
Gofynnwyd i ddarparwyr chwarae hefyd a oedd Covid-19 wedi effeithio ar eu darpariaeth dros y 2 flynedd ddiwethaf. Dywedodd 75% ei fod wedi mewn rhyw ffordd.
Nododd darparwyr chwarae fod y system swigod wedi golygu, yn ystod y pandemig, bod plant wedi bod yn dod atynt o ystod ehangach o ysgolion. Nid oedd rhai darparwyr wedi gallu agor eu clybiau dros gyfnod Covid gydag amseroedd ysgol newidiol ac roeddent wedi profi llawer o ansicrwydd yn ystod y cyfnod. Dywedodd un lleoliad mai cael a chael oedd hi bod eu niferoedd yn ddigon uchel i dalu costau agor y ddarpariaeth.
Dywedodd darparwr chwarae arall hefyd fod y pandemig wedi effeithio ar eu cyllid yn sylweddol, yn ogystal ag ar ddatblygiad plant a threfniadau staffio. Nododd y darparwr eu bod yn gweld cynnydd yn nifer y plant ag ADY ers y pandemig ac wedi gorfod mynd yn ôl at yr hanfodion o ran sefydlu gorchwylion rheolaidd a rheolau a datblygu sgiliau cymdeithasol ar gyfer llawer.
Roedd trosiant staff uwch yn fater arall a godwyd gan ddarparwyr chwarae, gydag aelodau o staff hŷn yn gadael yn ystod y pandemig a phroblemau.
Adborth ar gymorth a roddwyd gan y Cyngor
Gofynnwyd i ddarparwyr chwarae a oes unrhyw beth yn fwy y gallai’r Cyngor ei wneud i wella’r cyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc yn Sir Benfro. Atebodd yr holl weithwyr chwarae gan ddweud bod mwy y gallai’r Cyngor ei wneud, ac fe wnaed y datganiadau a’r awgrymiadau canlynol:
“Cymorth gyda staffio, cyllid.”
“Rwy’n meddwl eu bod yn gwneud gwaith da ond dylent barhau i estyn allan ychydig yn fwy at rieni difreintiedig, mwy o leoedd a ariennir, help gyda thrafnidiaeth, angen cymorth ac anogaeth i fynd â hwy i lefydd.”
Wedyn gofynnwyd i weithwyr chwarae am unrhyw sylwadau pellach ynghylch chwarae.
“Byddai gwersi rhianta i rieni newydd yn ddefnyddiol iawn, os yw’n bosibl i’r ALl ddarparu hyn.” [DS: Mae cyrsiau rhianta’n cael eu cynnig ar hyn o bryd trwy’r Tîm o Amgylch y Teulu yn Sir Benfro]
“Rwy’n meddwl bod Sir Benfro’n gwneud gwaith da, mae mwy wastad yn well, ond rwy’n meddwl eu bod nhw’n gwneud gwaith da i annog plant i chwarae. Mae’n wych sut yr ydym yn cael ein cefnogi â chyllid, byddai'n wych pe gallai hyn barhau.”