Cynnal yr Asesiad - Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

Rhieni neu Gofalwyr

Cyd-destun

Gwahoddwyd rhieni a gofalwyr i gwblhau’r arolygon ar-lein hefyd. Fe ymatebodd cyfanswm 291 o rieni/gofalwyr i’r arolygon. Roedd yr arolygon hyn yn seiliedig yn bennaf ar feddyliau rhieni/gofalwyr am blant yn mynd allan i chwarae, addasrwydd yr ardal leol ar gyfer chwarae a sut yr effeithiodd y pandemig ar gyfleoedd chwarae eu plant.

Gwybodaeth am rieni/gofalwyr

Mae’r tabl isod yn dangos faint o blant sydd gan y rhieni a gyfranogodd yn yr arolwg hwn, gyda’r mwyafrif yn nodi bod ganddynt 1-2 o blant

  • 0: 0.34%
  • 1-2: 72.45%
  • 3-4: 24.83%
  • 5+: 2.38%

Gofynnwyd i’r rhieni faint o amser o chwarae y maent yn caniatáu i’w plant eu cael y dydd. Fel a welir isod, ateb mwyafrifol oedd ‘1-3 awr’ gyda 51.39%. Yn ail agos gyda 48.26% mae’r ateb gan y rhai sy’n caniatáu i’w plant chwarae am 4+ awr.

  • Llai nag 1 awr 0.35%
  • 1-3 awr 51.39%
  • 4+ awr 48.26%

Nesaf, gofynnwyd i’r cyfranogwyr a yw eu plant yn cael chwarae yn yr awyr agored heb oedolion yn eu goruchwylio. Dywedodd bron i hanner y rhieni 'Ddim o gwbl'.

A ydynt cael mynd allan i chwarae ar eu pennau eu hunain gyda ffriendiau, heb oruchwyliaeth oedolion?

Yn dilyn hyn, gofynnodd yr arolwg wedyn pa mor aml y mae’r plant yn mynd allan i chwarae, fel a welir isod.

Pa mor aml maen'n nhw'n mynd allan i chwarae bob wythnos?

Yn ddiddorol, gan bod 50.70% yn honni nad yw plant yn cael mynd allan heb oedolyn yn eu goruchwylio ar y siart flaenorol, dywedodd 42.20% yma fod eu plant yn cael mynd allan ar ‘ychydig ddiwrnodau’ mewn wythnos, gan ddynodi bod cyfran fawr o’r chwarae hwn yn digwydd dan oruchwyliaeth oedolyn. Nesaf ar ôl yr ystadegyn hwn ceir 33.33% o ymatebwyr yn dweud bod eu plant yn cael mynd allan ‘ar y rhan fwyaf o ddiwrnodau’. Dim ond 7.45% ddywedodd nad yw eu plant yn mynd allan i chwarae.

Fel a welir isod mae bron i hanner y rhieni’n caniatáu i’w plant chwarae gyda ffrindiau.

Pa mor aml maen nhw'n chwarae gyda ffrindiau?

Teimladau am ddiogelwch ymhlith plant yn Sir Benfro

Mae’r graff isod yn dangos ystadegau ymatebwyr pan ofynnwyd iddynt ‘pa mor ddiogel ydych chi’n teimlo ynglŷn â’ch plentyn/plant yn mynd allan i chwarae?’. Fe atebodd y mwyafrif o’r rhieni â’r opsiwn niwtral, fel a ddangosir isod â 38.57%. Yn ail, fe ymatebodd 30.00% â’r opsiwn ‘diogel’. Hefyd, dywedodd 18.57% eu bod yn teimlo’n ‘anniogel’ a dywedodd 8.57% eu bod yn teimlo’n ‘anniogel iawn’. Hefyd, dywedodd 18.57% eu bod yn teimlo’n ‘anniogel’ a dywedodd 8.57% eu bod yn teimlo’n ‘anniogel iawn’

Pa mor ddiogel ydych chi'n teimlo am eich plentyn/plant yn mynd allan i chwarae

Os dewiswyd ‘anniogel iawn’, roedd y cyfranogwyr yn cael eu hysgogi i roi ateb a oedd yn egluro pam eu bod wedi dewis yr opsiwn hwn. Crybwyllodd chwech o’r ymatebwyr fod eu plant yn rhy ifanc, gydag un yn nodi’n benodol:

“Maen nhw’n ifanc (newydd droi’n 4 a 6). Mae gan y plentyn 6 blwydd oed anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ac nid oes ganddo unrhyw ymwybyddiaeth wirioneddol o berygl. Mae’n rhy dywyll i chwarae ar hyn o bryd. Mae Covid ar led drwy’r ardal ar hyn o bryd hefyd. Maen nhw’n mynychu clybiau gyda’r nos – acrobateg, bale, pêl-droed, cwng-ffw, Afancod. Ar benwythnosau, maen nhw’n chwarae gyda’u cefndryd ar y fferm neu ar y traeth a.y.b. Maen nhw hefyd yn mynychu clwb ar ôl ysgol, yn y gwyliau yn Arberth, ac yn chwarae yno. Gall hyn gynnwys gwibdeithiau i gestyll, traethau a.y.b.”

Roedd chwe ymateb arall yn cynnwys sylwadau am ‘ffyrdd prysur’ neu ‘traffig’. Gan ymhelaethu ar hyn, crybwyllodd dau gyfranogwr ddiffyg palmentydd diogel.

Effeithiau COVID-19 ar ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae

Mae’r tabl canlynol yn dangos teimladau rhieni am ddiogelwch eu plentyn pan ofynnwyd iddynt ‘A yw COVID-19 wedi effeithio ar eich teimlad ynglŷn â diogelwch eich plant pan ydynt yn mynd allan i chwarae?’. Dewisodd mwyafrif mawr ‘Nac ydy’ fel ateb, gan adael tuag un rhan o bump a ddewisodd ‘Ydy’.

  • Ydy: 10.87% (30)
  • Nac ydy: 79.71% (220)

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a roddodd ‘Ydy’ fel ateb ymhelaethu ar hyn â sylw a oedd yn egluro pam. Fe ymatebodd rhai rhieni â sylwadau ynglŷn â methu â chymysgu neu gymdeithasu yn ystod y cyfnod clo:

“(Mae’r plant) wedi bod ar eu colled yn gymdeithasol felly nid ydynt wedi aeddfedu’n gymdeithasol mor gynnar ag y byddent wedi ei wneud, gan (eu) bod wedi cael eu cadw adref yn fwy.”

Cyfeiriodd pum rhiant arall at y ffaith bod eu plentyn yn fregus pe bai’n dal COVID-19, gyda datganiadau megis:

“Gallwn reoli cysylltiadau ein haelwyd ond nid cysylltiadau eraill.”

“Yn pryderu amdanynt yn dal Covid”.

Gan ymhelaethu ar hyn, y cwestiwn nesaf oedd ‘Sut y mae COVID-19, y cyfnodau clo a’r cyfyngiadau wedi effeithio ar gyfleoedd chwarae eich plentyn/plant?’ Crybwyllodd 14 o’r 185 o ymatebion i’r cwestiwn hwn nad oeddent yn teimlo fel pe bai unrhyw effaith ar eu plentyn. I ddyfynnu un unigolyn:

“Dim newid; os rhywbeth, maent wedi cael mwy o amser i chwarae yn yr ardd. Nid oes unrhyw le yn ein pentref iddynt chwarae’n ddiogel.”

Cyfeiriodd 13 o rieni at y ffaith bod chwaraeon, ymarfer corff a gweithgarwch corfforol wedi cael eu hatal. Meddai dau unigolyn:

“Yn ystod y cyfnodau clo nid oedd gennym unrhyw grwpiau chwaraeon, na sesiynau hyfforddi, a effeithiodd ar ei iechyd meddwl.”

“Roedd y cyfnodau clo’n anodd i’r plant – daeth eu chwaraeon i ben, ynghyd ag ymarfer corff rheolaidd a rhyngweithio cymdeithasol â’u cymheiriaid ... aeth un o’m plant o fod yn gwneud chwaraeon 5 gwaith yr wythnos i ddim byd. Yn ffodus, mae gan fy merch ferlen felly fe helpodd hyn gyda’i lles meddyliol yn ogystal â’i lles corfforol.”

Roedd cyfran enfawr o ymatebion yn amlygu diffyg cymdeithasu â phlant eraill hefyd. Roedd sylwadau eraill yn cynnwys:

  • Treulio mwy o amser ar-lein
  • Cyfyngiadau ar feysydd chwarae

Gwybodaeth am gyfleoedd chwarae i blant

Roedd yr arolwg yn cynnwys cwestiwn amlddewis a oedd yn gofyn ‘Pa fathau o lefydd ydych chi’n caniatáu i’ch plentyn/plant chwarae neu dreulio amser gyda’u ffrindiau ynddynt?’ Gallai rhieni ddewis cymaint o opsiynau ag oedd yn berthnasol.

  • Adref neu yn nhŷ ffrind: 87.07%
  • Yn yr ardd neu yng ngardd ffrind: 92.02%
  • Yn y strydoedd ar bwys fy nhŷ: 22.05%
  • Ar ardal laswelltog leol: 44.11%
  • Mewn lle â llwyni, coed a blodau: 33,08%
  • Mewn ardal chwarae â siglenni, llithrennau ac offer eraill i chwarae arnynt: 78.71%
  • Yn y goedwig ar bwys fy nhŷ: 27.00%
  • Ar gae pêl-droed yn agos at fy nhŷ: 31.18%
  • Rhywle gyda dŵr neu dywod ynddo: 37.64%
  • Ar feic neu mewn parc sglefrio: 27.00%
  • Yn y ganolfan gymunedol neu hamdden: 28.52%
  • Mewn clwb ieuenctid: 5.70%
  • Mewn clwb ar ôl ysgol: 25.76%
  • Mewn maes chwarae antur: 27.76%
  • Mewn canolfan chwarae dan do: 34.60%
  • Yn rhywle arall (dywedwch wrthym ble): 10.65%

Roedd y canlyniadau’n gyson â’r arolwg plant, gydag adref/yn yr ardd neu yng nghartref/yng ngardd ffrind yn fwy poblogaidd nag unrhyw atebion eraill. Dewisodd dros dri chwarter y rhieni ‘mewn ardal chwarae â siglenni, llithrennau ac offer chwarae eraill’ hefyd; fodd bynnag, dywedodd nifer o rieni hefyd fod angen adnewyddu ardaloedd chwarae neu eu bod yn anniogel.

Os oedd rhywle heb ei restru, roedd y rhieni’n cael cyfle i ddisgrifio ardaloedd chwarae. Mae rhai o’r enghreifftiau’n cynnwys:

  • Ffermydd
  • Clybiau chwaraeon fel carate a rygbi
  • Traethau

Gofynnwyd i gyfranogwyr beth yw hoff weithgareddau eu plant; roedd pêl-droed yn ateb cyffredin gyda 59 o gyfranogwyr yn ymateb gan enwi’r gweithgaredd hwn. Roedd chwaraeon eraill fel rygbi, nofio a mynd ar sgwter yn boblogaidd hefyd. Disgrifiodd chwe rhiant fod eu plentyn yn cymryd rhan mewn chwarae dychmygus neu chwarae esgus. Ateb poblogaidd arall oedd sglefrio, gydag 19 o rieni’n awgrymu gweithgareddau megis ‘Sglefrfyrddio, sglefrolio’ a’r ‘parc sglefrio (fodd bynnag mae ar gau ar hyn o bryd am ei fod yn cael ei ystyried yn anniogel). Dywedodd 13 o ymatebwyr hefyd fod eu plant yn mwynhau ‘ardaloedd chwarae meddal’.

Mewn cyferbyniad, gofynnwyd i rieni ysgrifennu beth oedd y gweithgareddau lleiaf poblogaidd ymhlith eu plant yn eu tyb hwy. Soniodd 18 o ymatebwyr nad yw chwaraeon yn boblogaidd ymhlith eu plant, gyda naw o’r rhain yn crybwyll pêl-droed yn benodol. Dywedodd saith cyfranogwr nad yw’r parc yn boblogaidd iawn ac fe grybwyllodd pedwar arall barciau sglefrio, gydag un yn nodi’n benodol; “Mae fy mhlant i’n teimlo’n anghysurus mewn parciau sglefrio”. Roedd pum ateb yn cyfeirio at y ffaith nad yw eu plant yn mwynhau ardaloedd chwarae dan do/chwarae meddal. Mae rhai atebion eraill yn cynnwys:

  • Cerdded
  • Chwarae meddal
  • Ymarfer corff

Gofynnwyd cwestiwn ‘Ydy/ydynt’ neu ‘Nac ydy/nac ydynt’ syml i ganfod ‘A yw eich plant/plentyn yn cael anhawster cyfranogi mewn gweithgareddau penodol? (e.e. oherwydd anabledd). Os rhoddwyd ‘Ydy/ydynt’ fel ateb roedd yr ymatebydd yn cael ei ysgogi i ymhelaethu.

  • Ydy/ydynt: 14.00% (35)
  • Nac ydy/nac ydynt: 86.00% (215)

Mae’n amlwg o’r tabl uchod nad yw’r mwyafrif yn cael unrhyw anhawster; fodd bynnag, rhoddodd y 35 o ymatebwyr a roddodd ‘ydy/ydynt’ fel ateb resymau nodedig. Dwy brif thema a nodwyd yw ADY a materion iechyd meddwl, gyda naw o’r ymatebwyr yn crybwyll bod gan eu plentyn awtistiaeth, dau yn crybwyll anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd a sylwadau eraill megis:

“Gorbryder”.

“Mae gan 1 o’m plant Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig ac anawsterau prosesu synhwyraidd”

“Anawsterau rhyngweithio cymdeithasol”

“Maen nhw’n ei chael hi’n anodd gwneud ffrindiau, yn ei chael yn anodd gyda thyrfaoedd”

Barn Rhieni am Ddarpariaeth Chwarae

Mae’r siart isod yn dangos canlyniadau ar gyfer cwestiwn am fodlonrwydd rhieni ar ddarpariaeth chwarae.

Pa mor fodlon ydych chi gyda darpariaeth chwarae yn eich ardal?

Mae’r siart uchod yn dangos bod traean o’r cyfranogwyr yn anfodlon ar y ddarpariaeth yn eu hardal, gyda 34.54% yn dewis yr opsiwn hwn. Dywedodd 27.71% fod ganddynt farn niwtral am y ddarpariaeth yn eu hardal, gyda’r mwyafrif yn fodlon neu’n fodlon iawn.

Nesaf, rhoddwyd y cyfle i’r rhieni ddweud pa ddarpariaeth yr hoffent ei gweld yn eu hardal. Fe hoffai 14 o’r rhieni weld caeau 3/4G ar gyfer pêl-droed a/neu rygbi. Fe wnaeth wyth rhiant sylwadau o’r fath am feysydd chwarae:

“Maes chwarae wedi’i offeru’n llawn fel a welir mewn pentrefi cyfagos. Strwythurau pren mawr fel yr un yn Nhredeml, neu Arberth.”

“Hoffwn weld y maes chwarae’n cael ei ddiweddaru. Mae’r parc sglefrio ar gau ar hyn o bryd am nad yw’r rampiau’n ddiogel. Hefyd byddai’n dda pe bai rhwydi ar y cylchynau pêl-fasged yn y man chwarae amlddefnydd.”

“Maes chwarae neu barciau gwell, llwybrau natur, teithiau tywys trwy goetiroedd.”

Gofynnwyd i rieni a oes unrhyw beth y gallai’r ALl ei wneud i wella cyfleoedd chwarae. Mae’r tabl isod yn dangos ymatebion rhieni.

  • Nac oes 20.93%
  • Oes 52.23%

Fe wnaeth y 52.23% a ddwedodd ‘Oes’ ymhelaethu ar eu hateb a rhoi rhesymau megis

“Helpu i ariannu Cae Pob Tywydd newydd yn Arberth neu Barc Sglefrio.”

“Atgyweirio’r parc sglefrio neu fel arall cael gwared ar y parc sglefrio oherwydd nid yw’n ddiogel i blant bach ar hyn o bryd.”

“Gwella’r parciau. Parcio am ddim i bobl leol ger y traethau.”

Roedd 11 o’r ymatebion yn ymwneud â naill ai atgyweirio parciau sglefrio neu ychwanegu rhai newydd. Cyfeiriodd wyth ymatebydd at gae pêl-droed pob tywydd newydd. Mae 27 o rieni hefyd yn credu bod angen diweddaru’r parciau lleol. Roedd sylwadau ynglŷn â sut y gellid gwella ysgolion yn cynnwys datganiadau megis:

“Dylid darparu mwy o gyfleoedd chwarae yn yr ysgol yn enwedig yn ystod y gaeaf pan wyf yn cael bod fy mhlant yn dychwelyd o’r ysgol yn llawn egni ac angen ymarfer corff ac mae’n tywyllu’n gynnar felly mae’n anodd mynd â hwy allan. Mae hyn yn waeth ar ddiwrnodau gwlyb pan nad yw plant wedi bod y tu allan yn ystod egwylion”.

“Cyfleusterau ac addysgu gwell lle mae chwaraeon yn y cwestiwn mewn rhai ysgolion cynradd. Dim digon o ffocws ar ymarfer corff yn ysgol fy mab.”

“Mwy o glybiau ar ôl ysgol.”

 

ID: 9168, adolygwyd 05/12/2022