Cynnal yr Asesiad - Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

Y Cynlluniau Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a Llesiant

Yn yr adran hon dylech nodi sut mae Asesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn rhan o’r asesiad o anghenion lleol ac i ba raddau mae’r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a’r Cynllun Gweithredu wedi’u hintegreiddio yn rhan o’r Cynllun Llesiant a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Fe gynhaliodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro Asesiad o Anghenion Llesiant Lleol wedi’i ddiweddaru yn 2021, a fydd ar gael ar wefan y Cyngor o fis Mai 2022. Ar yr adeg y gwnaed yr Asesiad o Anghenion Llesiant Lleol, roedd plant a theuluoedd yn dal i wynebu amhariadau ar fynediad at wasanaethau rheolaidd ac addysg o ganlyniad i bandemig Covid-19. Oherwydd hyn, mae’r effaith dros y tymor hir ar iechyd a llesiant plant yn anhysbys ar hyn o bryd. Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod rhai dangosyddion a pheth ymchwil yn dangos amhariadau, o ganlyniad i Covid-19 yn enwedig, sy’n gwneud cynllunio mewn cyfnod o ansicrwydd yn her arbennig.

  • O’r ymchwil a wnaed, ceir nifer o ganfyddiadau allweddol, a allai effeithio ar y sector gofal plant yn y tymor byr a hir. Mae’r rhain yn cynnwys:
  • Sir Benfro fel poblogaeth sy’n heneiddio, a allai effeithio ar y galw am ddarpariaeth chwarae
  • Mae defnydd o’r Gymraeg yn cynyddu yn y sir; dylai hyn gael ei adlewyrchu yn argaeledd y ddarpariaeth chwarae cyfrwng Cymraeg
  • Gallai trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig fod yn rhwystr i fynediad at gyfleoedd chwarae
  • Mae cyfraddau tlodi plant yn Sir Benfro’n uwch nag mewn ardaloedd eraill yng Nghymru
  • Mae pobl sy’n mynychu digwyddiadau ym maes y celfyddydau a diwylliant yn rheolaidd yn dweud bod eu lefelau llesiant yn uwch
  • Sir Benfro sydd â’r nifer uchaf o draethau baner las a gwobrau arfordir glas yng Nghymru.
  • Mae presenoldeb y Parc Cenedlaethol yn cael effaith gadarnhaol ar lesiant pobl ifanc yn y sir, gyda nifer yn enwi hyn fel y peth gorau am Sir Benfro.

Bydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro’n monitro ac yn dadansoddi ei adolygiadau i sicrhau eu bod yn adlewyrchu tueddiadau yn awr ac yn y dyfodol wrth i wybodaeth newydd neu fwy dibynadwy fod ar gael. Bydd y canfyddiadau o’r Asesiad o Anghenion Llesiant Lleol yn goleuo’r Cynllun Llesiant nesaf, sydd i’w gwblhau erbyn mis Mai 2023.

Mae Cabinet yr Awdurdod Lleol yn monitro’r cynnydd o ran cyflawni’r cynllun gweithredu trwy adroddiad blynyddol.

ID: 9173, adolygwyd 03/11/2022