CynnigGofal Plant Cymru
Hawl gwyliau ysgol
Yn ystod gwyliau'r ysgol, os ydych yn gymwys i gael y Cynnig Gofal Plant, bydd hawl gennych i 30 awr yr wythnos o ofal plant am hyd at 9 wythnos y flwyddyn.
Bydd darpariaeth wyliau yn cael ei neilltuo ar ddechrau pob tymor mae'r plentyn yn gymwys i gael yr arlwy. Byddwch yn cael eich dyrannu 3 wythnos o ddarpariaeth gwyliau fesul tymor. Gellir cario wythnosau gwyliau nas defnyddiwyd drosodd o un tymor i'r nesaf ac o un flwyddyn academaidd i'r llall, cyhyd â bod y rhiant a'r plentyn yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer y Cynnig.
Pan fo plentyn yn cael cynnig lle addysg llawn amser yn gynharach na'r mis Medi ar ôl ei ben-blwydd yn bedair oed, mae'r plentyn hwnnw yn dal yn gymwys i dderbyn 30 awr yr wythnos o ddarpariaeth gofal plant yn ystod y gwyliau, hyd at fis Medi ar ôl ei ben-blwydd yn bedair oed.
Sicrhewch eich bod yn cyfathrebu â'ch darparwr/darparwyr gofal plant pan hoffech ddefnyddio eich 9 wythnos o hawl gwyliau. Yna bydd eich darparwr yn hawlio am yr wythnosau gwyliau a ddewiswyd.
Ni ddylai darparwyr nodi i rieni pa ran o’r 13 wythnos sy’n cael eu dynodi’n wythnosau gwyliau o dan y Cynnig. Y bwriad yw rhoi hyblygrwydd i rieni o ran sut maen nhw'n cael mynediad at eu darpariaeth gwyliau 9 wythnos.
Rydych yn gallu gweld faint o wythnosau gwyliau sydd wedi cael eu hawlio gan eich lleoliad gofal plant ar eich dangosfwrdd.
Mae yna 4 wythnos yn y flwyddyn sydd ddim yn cael eu hariannu gan y Ddarpariaeth. A dim ond yn ystod gwyliau ysgol mae modd cymryd y rhain. Os oes gennych chi Gytundeb â'ch lleoliad yn unig, mae'n debygol na fydd yn rhaid i chi ariannu unrhyw wythnosau eich hun, fodd bynnag os oes gennych Gytundeb gwyliau gyda'ch lleoliad, bydd angen i 4 wythnos o'r rhain gael eu hariannu gennych chi. Byddwch yn gallu cadw golwg ar yr hawliadau hyn y mae’r darparwr yn eu cyflwyno'n wythnosol. Bydd y darparwr yn hawlio 0 am yr wythnosau hyn a fydd yn golygu mai dyma'r wythnosau y bydd gofyn i chi eu hariannu'n llawn. Wrth i'r lleoliad gofal plant hawlio cyllid yr wythnosau gwyliau, bydd balans yr wythnosau gwyliau sy'n weddill yn lleihau. Mae hyn yn caniatáu ichi gadw golwg ar faint o wythnosau gwyliau sy'n weddill i chi.
Effaith ar fudd-daliadau
Gall y cyllid Cynnig Gofal Plant effeithio ar fudd-daliadau eraill a gewch, gan gynnwys:
- Credyd Cynhwysol
- Credyd Treth
- Gofal plant di-dreth
Dysgwch fwy am yr effaith ar fudd-daliadau Cynnig Gofal Plant Cymru
Sut a phryd alla i ymgeisio?
Mae angen i un rhiant arweiniol gwblhau'r cais ar-lein, hyd yn oed os ydych yn rhannu gofal y plentyn.
Gellir cwblhau cais hyd at 60 diwrnod cyn i'ch plentyn/plant ddod yn gymwys (y tymor ar ôl i'ch plentyn droi'n dri).
Cyn i chi ddechrau, mae angen i chi wybod eich:
- rhif Yswiriant Gwladol
- eich cyfeiriad cyflogaeth gyda chod post
- cyfeiriad cyflogi’ch partner cartref gyda chod post
- eich enillion wythnosol cyfartalog chi a'ch partner cartref
- eich cyflog blynyddol gros chi a'ch partner cartref
Hefyd, bydd angen i chi uwchlwytho delweddau o ddogfennau er mwyn gwneud cais am Gynnig Gofal Plant Cymru, er enghraifft prawf o:
- oedran plentyn/plant
- cyfeiriad
- enillion
- cofrestru ar gwrs addysg uwch neu addysg bellach
Cyn i chi wneud cais, gwiriwch pa ddogfennau y bydd angen i chi uwchlwytho delweddau ohonynt.
Cam wrth Gam:
Cam 1: Cyflwyno cais drwy gyfrif Porth y Llywodraeth:
Os oes gennych gyfrif Porth y Llywodraeth eisoes, yna gallwch wneud cais drwy ddefnyddio'ch manylion mewngofnodi presennol.
Am help ar sut i greu cyfrif ar Borth y Llywodraeth, ewch i: Cymorth i gael mynediad at Borth y Llywodraeth ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru
Cam 2: Wrth gyflwyno'r cais i rieni, mae rhif cyfeirnod unigryw yn cael ei gynhyrchu a'i arddangos ar y sgrin. Bydd hyn hefyd yn cael ei e-bostio atoch chi. Cadwch hyn yn ddiogel oherwydd bydd ei angen arnoch ar gyfer pob gohebiaeth gyda'ch awdurdod lleol.
Bydd eich cais yn cael ei adolygu gan yr awdurdod lleol perthnasol o fewn 10 diwrnod gwaith.
Cam 3: Pan fydd yr awdurdod lleol wedi adolygu eich cais, byddwch yn derbyn e-bost i ddweud bod diweddariad wedi cael ei wneud i'ch cyfrif Cynnig Gofal Plant Cymru ac y dylech fewngofnodi i'ch cyfrif Cynnig Gofal Plant Cymru gyda'ch ID Porth y Llywodraeth a chyfrinair i wirio. Bydd yr holl hysbysiadau yn cael eu harddangos ar eich dangosfwrdd.
Cam 4: Ar ôl i'ch cais gael ei gymeradwyo, mae angen creu cytundeb gyda'ch lleoliad(au) gofal plant. Er mwyn sicrhau bod eich gofal plant yn cael ei ariannu o'ch dyddiad dewisedig, rhaid creu a chyflwyno eich Cytundeb ar-lein cyn y dydd Llun cyntaf o ofal plant wedi'i ariannu.
Sylwch, rhaid i chi drafod nifer yr oriau i'w defnyddio gyda'r lleoliad gofal plant cyn cwblhau'r cytundeb ar-lein.
I gael help ar sut i greu neu ddiwygio cytundeb gyda'ch lleoliad gofal plant
Cam 5: Unwaith y byddwch wedi llwyddo i gyflwyno eich cais am gytundeb i'ch lleoliad gofal plant, bydd angen i'r darparwr/darparwyr naill ai dderbyn neu wrthod y cais hwn am gyllid. Rhaid i'ch lleoliad gadarnhau'r Cytundeb erbyn dydd Iau'r wythnos gyntaf fan bellaf.
Pan fydd lleoliad yn derbyn eich cais am gytundeb, bydd hysbysiad e-bost yn cael ei anfon atoch i roi gwybod i chi bod newidiadau wedi bod ar eich system ac i fewngofnodi. Byddwch yn cael eich cyflwyno gyda'ch dangosfwrdd lle byddwch yn gweld manylion pellach. Wrth gymeradwyo cais am gytundeb, fe welwch statws APPROVED yng nghrynodeb cytundeb eich plentyn. Gallwch weld neu ganslo cytundebau oddi yma.
Cofrestru eich Lleoliad Gofal Plant
Gwasanaeth digidol newydd
Rhaid hawlio taliadau ar gyfer plant sy'n dechrau derbyn Gofal Plant Oriau wedi'i ariannu o Ionawr 2023 am ddefnyddio'r gwasanaeth digidol newydd (drwy Borth y Llywodraeth).
Os ydych eisoes yn cynnig y Cynnig Gofal Plant, mae dal angen cofrestru ar gyfer y gwasanaeth digidol newydd.
Ni fydd rhieni'n gallu eich dewis fel eu lleoliad gofal plant os nad ydych wedi cofrestru.
Am fwy o wybodaeth ar sut i gofrestru, ewch i: Cymorth i ddarparwyr gyda Chynnig Gofal Plant Cymru
Gofal i blant 3 a 4 oed: canllawiau polisi ar gyfer darparwyr
Help
Yn gyntaf, gwiriwch a yw eich cwestiwn wedi’i ateb yn y Canllawiau i rieni
Os ydych angen mwy o help cysylltwch â ni:
Y Cynnig Gofal Plant i Gymru
Ffôn: 03000 628 628
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg / We welcome calls in Welsh.
Mae'r llinell gymorth ar agor:
- Dydd Llun i ddydd Iau 9am i 5pm
- Dydd Gwener 9am i 4:30pm
Cynnig Gofal Plant Cymru: help gyda chostau gofal plant i rieni cymwys sydd â phlant rhwng 3 a 4 oed
A oes angen help arnoch gyda chostau gofal plant? O dan Gynnig Gofal Plant Cymru, gallech hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae'r cynllun gofal plant hwn, a ariennir gan y llywodraeth, yn ceisio lleihau baich costau gofal plant fel y gallwch wario'r arian rydych chi wedi'i arbed ar y pethau sydd bwysicaf i'ch teulu.
Mae'r Cynnig eisoes wedi helpu rhieni o bob rhan o Gymru i ddychwelyd i'r gwaith, cynyddu eu horiau neu weithio'n fwy hyblyg. Os ydych chi'n chwilio am swydd, neu'n meddwl am fynd yn ôl i addysg neu hyfforddiant, ond yn poeni am gostau gofal plant, fe allai'r cymorth hwn wneud byd o wahaniaeth.
Beth bynnag mae'r Cynnig yn ei olygu i chi a'ch teulu, peidiwch â cholli allan ar eich cyfran o'r cyllid gofal plant hwn.
Pwy sy'n gallu gwneud cais? Ydw i'n gymwys?
I fod yn gymwys i gael y Cynnig Gofal Plant, rhaid i bob rhiant:
- Byw yng Nghymru
- Bod â phlentyn rhwng 3 a 4 oed (Bydd y Cynnig yn dechrau o'r tymor yn dilyn trydydd pen-blwydd eich plentyn tan y tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn bedair oed pan fyddan nhw'n dechrau addysg llawn amser)
- Yn ennill llai na £100,000 y flwyddyn
Rhaid i chi hefyd fodloni un o'r meini prawf canlynol:
- cael eich cyflogi ac ennill o leiaf, ar gyfartaledd, yr hyn sy’n cyfateb i weithio 16 awr yr wythnos yn yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw
- bod ar Dâl Statudol ac Absenoldeb (Salwch, Mamolaeth, Tadolaeth, Profedigaeth Rhieni ac Absenoldeb Mabwysiadu)
- wedi eich cofrestru naill ai ar gwrs israddedig, ôl-raddedig neu addysg bellach sydd o leiaf 10 wythnos o hyd
Os oes gennych bartner sy'n byw gyda chi, rhaid iddynt hefyd fodloni un o'r meini prawf enillion neu addysg hyn.
Gall gofalwyr maeth a gofalwyr sy'n berthnasau (perthynas neu ffrind nad yw'n rhiant plentyn) fod yn gymwys.
Cyn ymgeisio gwiriwch a ydych yn gymwys am Gynnig Gofal Plant Cymru yma - Gwirio os ydych yn gymwys am Gynnig Gofal Plant Cymru
Fe all rhieni dderbyn y cynnig gofal plant ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwn, cyn belled â'u bod nhw'n gymwys i wneud hynny. Dylai rhieni allu cael mynediad i'r cynnig o ba bynnag bwynt y maent yn dymuno yn ystod y tymor hwnnw, gan ddarparu bod eu plentyn yn gymwys o ddechrau'r tymor hwnnw, neu'n gynharach. Mae hyn yn cynnwys rhieni sy'n symud i'r sir neu'n cael gwaith.
Beth sydd wedi'i gynnwys yn y Cynnig? Sawl awr ydw i'n gymwys i'w gael o dan y Cynnig?
Mae Cynnig Gofal Plant Cymru Llywodraeth Cymru yn golygu bod nifer o rieni plant rhwng 3 a 4 oed yn gallu cael help gyda chostau gofal plant.
Mae hyn yn golygu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yng Nghymru i rieni sy'n gymwys. Mae'r 30 awr yn cynnwys o leiaf 10 awr o addysg gynnar yr wythnos ac uchafswm o 20 awr yr wythnos o ofal plant.
Mae'r Cynnig ar gael am 48 wythnos o'r flwyddyn, sy'n golygu y gall eich helpu gyda chostau gofal plant ar gyfer rhai o wyliau'r ysgol.
Gall rhieni a gwarcheidwaid wneud cais am ofal plant ac addysg gynnar am hyd at 30 awr yr wythnos.
Mae 30 awr yn cynnwys:
- o leiaf 10 awr o addysg gynnar yr wythnos
- hyd at 20 awr yr wythnos o ofal plant
Mae faint o oriau sy'n cael eu hariannu gan ofal plant yn dibynnu ar nifer yr oriau o addysg gynnar, mae'ch plentyn yn mynychu wythnos.
Addysg Gynnar
Mae gan bob plentyn hawl i addysg gynnar (a elwid gynt yn Feithrinfa Cyfnod Sylfaen) o'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed. Mae pob awdurdod lleol yn darparu o leiaf 10 awr yr wythnos o addysg gynnar, gallai hyn fod mewn:
- ysgol leol
- cylch chwarae
- meithrinfa ddydd
- Cylch Meithrin
Yn ystod y tymor, bydd yr addysg gynnar hon yn rhan o 30 awr y Cynnig.
Yn ystod gwyliau'r ysgol pan nad oes addysg gynnar mae'r Cynnig yn darparu 30 awr yr wythnos o ofal plant am hyd at 9 wythnos o'r flwyddyn.
Mae ysgolion yn Sir Benfro yn cynnig amrywiaeth o oriau a sesiynau gwahanol ar gyfer addysg gynnar rhan amser i blant 3 – 4 oed. Mae hyn yn amrywio o 10 awr yr wythnos i 15 awr yr wythnos.
Noder: Os ydych yn bwriadu cael mynediad i elfen addysg gynnar y Cynnig, mae angen i chi wneud cais yn uniongyrchol i'ch awdurdod lleol cyn i chi ddechrau cwblhau cytundeb Cynnig Gofal Plant Cymru ar y platfform digidol.
Mae'r cais hwn ar gyfer elfen gofal plant y Cynnig Gofal Plant yn unig (hyd at 20 awr). Mae rhagor o fanylion ynglŷn â sut i wneud cais am le addysg gynnar eich plentyn yn Sir Benfro.
Os yw’r lle addysg hwnnw wedi cael ei gadarnhau yna mae gennych y manylion hynny wrth law wrth greu cytundeb gyda'ch darparwr. Bydd angen i chi wybod beth yw tref a chod post y lleoliad addysg.
Bydd nifer yr oriau o ofal plant wedi'i ariannu yn dibynnu ar nifer yr oriau o addysg gynnar yr wythnos y mae'ch plentyn yn ei dderbyn. Ni ddylai cyfanswm cyfun fod yn fwy na 30 awr.
Er enghraifft:
- Os yw'ch plentyn yn derbyn 10 awr o addysg gynnar yr wythnos - Rydych yn gymwys am uchafswm o 20 awr o ofal plant wedi'i ariannu drwy'r Cynnig Gofal Plant.
- Os yw'ch plentyn yn derbyn 15 awr o addysg gynnar yr wythnos - Rydych yn gymwys am uchafswm o 15 awr o ofal plant wedi'i ariannu drwy'r Cynnig Gofal Plant.
Noder: Ni allwch gyfnewid oriau addysg am oriau gofal plant, nac oriau gofal plant am oriau addysg. Gallwch dalu am oriau ychwanegol o ofal plant eich hun yn seiliedig ar gontract preifat rhyngoch chi a'ch darparwr gofal plant.
Os yw eich plentyn yn gymwys i gael addysg llawn amser yn eich awdurdod lleol:
- ni fyddwch yn gymwys i gael y Cynnig Gofal Plant yn ystod y tymor
- efallai y byddwch yn gymwys o hyd ar gyfer y Cynnig Gofal Plant yn ystod gwyliau ysgol, os ydynt yn 3 neu 4 oed.
Dewis lleoliad gofal plant
Gallwch wneud cais cyn dewis lleoliad gofal plant.
Os caiff eich cais ei gymeradwyo, bydd angen i chi wneud cytundeb ffurfiol â'ch lleoliad. Bydd angen i chi drafod trefniadau gyda nhw cyn gwneud y cytundeb ffurfiol.
I fod yn gymwys i gael Cynnig Gofal Plant Cymru, edrychwch a yw eich darparwr gofal plant wedi'i gofrestru:
- os yw'r lleoliad gofal plant yng Nghymru, gwiriwch fod lleoliad gofal plant yng Nghymru wedi'i gofrestru ar Arolygiaeth Gofal Cymru
- ar wasanaeth digidol Cynnig Gofal Plant Cymru (gofynnwch i'r darparwr)
Mae gofal plant cymwys yn cynnwys y canlynol:
- cylchoedd chwarae cofrestredig
- darparwyr gofal dydd cofrestredig
- gwarchodwyr plant cofrestredig
- Cylch Meithrin (cylchoedd chwarae Cymraeg) cofrestredig
Bydd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Benfro yn gallu eich helpu i ddod o hyd i ddarparwr cofrestredig sy’n cynnig y gwasanaeth sy’n diwallu’r anghenion wrth gael mynediad i’ch oriau wedi’u hariannu.
Cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth Deuluol Sir Benfro (FIS) ar 01437 770014 neu e-bostiwch fis@pembrokehire.gov.uk
Ffioedd am fwyd, trafnidiaeth a gweithgareddau
Mae'r arian Cynnig Gofal Plant ar gyfer yr addysg a gofal mae'r gweithwyr proffesiynol yn y lleoliad yn ei ddarparu. Nid yw'n cynnwys bwyd, trafnidiaeth neu weithgareddau oddi ar y safle sy'n golygu tâl ychwanegol a bydd darparwyr yn gallu codi tâl arnoch am y rhain.
Bydd cost trafnidiaeth yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw a pha mor bell mae'n rhaid i ddarparwyr deithio godi plant i’r ysgol ac ati.
Ni ddylai darparwyr godi mwy na £9 y dydd am fwyd neu £5.75 am hanner diwrnod (yn cynnwys cinio).
Cysylltwch â'ch lleoliad(au) gofal plant dewisol i drafod costau ychwanegol ymhellach.