CynnigGofal Plant Cymru
Sut a phryd alla i ymgeisio?
Mae angen i un rhiant arweiniol gwblhau'r cais ar-lein, hyd yn oed os ydych yn rhannu gofal y plentyn.
Gellir cwblhau cais hyd at 60 diwrnod cyn i'ch plentyn/plant ddod yn gymwys (y tymor ar ôl i'ch plentyn droi'n dri).
Cyn i chi ddechrau, mae angen i chi wybod eich:
- rhif Yswiriant Gwladol
- eich cyfeiriad cyflogaeth gyda chod post
- cyfeiriad cyflogi’ch partner cartref gyda chod post
- eich enillion wythnosol cyfartalog chi a'ch partner cartref
- eich cyflog blynyddol gros chi a'ch partner cartref
Hefyd, bydd angen i chi uwchlwytho delweddau o ddogfennau er mwyn gwneud cais am Gynnig Gofal Plant Cymru, er enghraifft prawf o:
- oedran plentyn/plant
- cyfeiriad
- enillion
- cofrestru ar gwrs addysg uwch neu addysg bellach
Cyn i chi wneud cais, gwiriwch pa ddogfennau y bydd angen i chi uwchlwytho delweddau ohonynt (yn agor mewn tab newydd).
Cam wrth Gam:
Cam 1: Cyflwyno cais drwy gyfrif Porth y Llywodraeth (yn agor mewn tab newydd)
Os oes gennych gyfrif Porth y Llywodraeth eisoes, yna gallwch wneud cais drwy ddefnyddio'ch manylion mewngofnodi presennol.
Am help ar sut i greu cyfrif ar Borth y Llywodraeth, ewch i: Cymorth i gael mynediad at Borth y Llywodraeth ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Cam 2: Wrth gyflwyno'r cais i rieni, mae rhif cyfeirnod unigryw yn cael ei gynhyrchu a'i arddangos ar y sgrin. Bydd hyn hefyd yn cael ei e-bostio atoch chi. Cadwch hyn yn ddiogel oherwydd bydd ei angen arnoch ar gyfer pob gohebiaeth gyda'ch awdurdod lleol.
Bydd eich cais yn cael ei adolygu gan yr awdurdod lleol perthnasol o fewn 10 diwrnod gwaith.
Cam 3: Pan fydd yr awdurdod lleol wedi adolygu eich cais, byddwch yn derbyn e-bost i ddweud bod diweddariad wedi cael ei wneud i'ch cyfrif Cynnig Gofal Plant Cymru ac y dylech fewngofnodi (yn agor mewn tab newydd) i'ch cyfrif Cynnig Gofal Plant Cymru gyda'ch ID Porth y Llywodraeth a chyfrinair i wirio. Bydd yr holl hysbysiadau yn cael eu harddangos ar eich dangosfwrdd.
Cam 4: Ar ôl i'ch cais gael ei gymeradwyo, mae angen creu cytundeb gyda'ch lleoliad(au) gofal plant. Er mwyn sicrhau bod eich gofal plant yn cael ei ariannu o'ch dyddiad dewisedig, rhaid creu a chyflwyno eich Cytundeb ar-lein cyn y dydd Llun cyntaf o ofal plant wedi'i ariannu.
Sylwch, rhaid i chi drafod nifer yr oriau i'w defnyddio gyda'r lleoliad gofal plant cyn cwblhau'r cytundeb ar-lein.
I gael help ar sut i greu neu ddiwygio cytundeb gyda'ch lleoliad gofal plant (yn agor mewn tab newydd)
Cam 5: Unwaith y byddwch wedi llwyddo i gyflwyno eich cais am gytundeb i'ch lleoliad gofal plant, bydd angen i'r darparwr/darparwyr naill ai dderbyn neu wrthod y cais hwn am gyllid. Rhaid i'ch lleoliad gadarnhau'r Cytundeb erbyn dydd Iau'r wythnos gyntaf fan bellaf.
Pan fydd lleoliad yn derbyn eich cais am gytundeb, bydd hysbysiad e-bost yn cael ei anfon atoch i roi gwybod i chi bod newidiadau wedi bod ar eich system ac i fewngofnodi. Byddwch yn cael eich cyflwyno gyda'ch dangosfwrdd lle byddwch yn gweld manylion pellach. Wrth gymeradwyo cais am gytundeb, fe welwch statws approved yng nghrynodeb cytundeb eich plentyn. Gallwch weld neu ganslo cytundebau oddi yma.