CynnigGofal Plant Cymru
Ffurflen gais i ddarparwyr gofal plant Sir Benfro
Cofrestru Darparwr Gofal Plant i gyflwyno'r Cynnig Gofal Plant i Gymru
Cyn belled ag eich bod wedi cofrestru gyda AGC (AGGCC gynt) neu'r corff cyfatebol yn Lloegr, gallech gael cyllid gan yr awdurdod lleol fel rhan o gynllun peilot ar gyfer y plant 3 a 4 oed sy'n manteisio ar y cynnig yn eich lleoliad chi.
Beth fydd y gyfradd tâl?
Bydd pob darparwr yn derbyn tâl o £5.00 yr awr am bob plentyn sy'n derbyn elfen gofal plant y cynnig.
Alla i godi tâl ychwanegol ar rieni?
Na allwch. Ni allwch godi cyfradd tâl ychwanegol fesul awr os ydych yn codi mwy na £5.00 yr awr fel rheol.
Alla i godi tâl ar gyfer bwyd a gweithgareddau ychwanegol?
Gallwch. Os oes angen, gallwch godi tâl ar rieni am elfennau ychwanegol, megis:
- Bwyd
- Cludiant
- Gweithgareddau oddi ar y safle y gall fod angen talu amdanynt
Mae Llywodraeth Cymru yn enrhifo tâl ar gyfer bwyd fel y canlyn:
- Pryd: £2.50
- Byrbryd: 75p
Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru, ni ddylid codi mwy na:
- £9.00 y dydd llawn (tua 10 awr) - Cynnwys 3 phryd a 2 fyrbryd
- £5.75 y sesiwn hanner diwrnod (tua 5.5 awr) - Cynnwys 2 fryd ac 1 byrbryd
- 75p y sesiwn lle mae byrbryd ond nad oes bryd
Sut bydda i'n cael fy nhalu?
Byddwch yn derbyn y taliad mewn ôl-daliad ar gyfer y mis blaenorol. Er mwyn sicrhau hyn:
Bydd RHAID ichi gwblhau hawliadau misol o fewn y pedwar diwrnod gwaith cyntaf o bob mis
Bydd methu â chwblhau'r hawliadau ar amser yn golygu na fyddwch yn cael eich talu.
Sut ydw i'n cymryd rhan?
Er mwyn darparu’r cynnig, bydd rhaid i chi gwblhau'r ffurflen gofrestru wedi'i ddolennu isod.
Os cewch unrhyw anawsterau wrth gwblhau’r ffurflen
e-bostiwch gofalplant@ceredigion.gov.uk
neu ffion.jones@pembrokeshire.gov.uk
Ffurflen gais i ddarparwyr gofal plant Sir Benfro