CynnigGofal Plant Cymru

’10 awr o Addysg Gynnar wedi’i ariannu’

Mae ceisiadau nawr ar gau ar gyfer Tymor y Gwanwyn 2025

Nodyn bwysig: Ers fis Medi 2022, mae'r 'Cyllid Meithrin Cyfnod Sylfaen (FPN)’ wedi cael ei ddisodli gan yr enw 'Addysg Gynnar wedi’i ariannu'. Mae'r dudalen we hon wedi'i diweddaru i ddangos y newid hwn.

Mae gan bob plentyn yng Nghymru’r hawl i addysg cynnar ran-amser, rad ac am ddim mewn lleoliad blynyddoedd cynnar, a hynny o'r tymor sy'n dilyn ei ben-blwydd yn dair oed a chyn iddo ddechrau mewn ysgol yn llawn-amser.

Mae Cyngor Sir Benfro yn cytuno i ddarparu'r cyllid a ddaw i law gan Lywodraeth Cymru i gynnig o leiaf 10 awr o addysg ran-amser wedi'i hariannu i bob plentyn sy'n gymwys, a hynny mewn lleoliad cymeradwy yn ystod y tymor ysgol. Gall rhieni ddewis derbyn yr hyn sy'n ddyledus i'r plentyn naill ai mewn lleoliad a gynhelir neu mewn lleoliad nas cynhelir:

Lleoliad a gynhelir – dosbarth meithrin mewn ysgol sy'n cynnig 10 awr neu ragor yr wythnos o addysg gynnar wedi'i hariannu.

neu

Lleoliad nas cynhelir – a allai fod yn feithrinfa ddydd breifat, grŵp chwarae neu Gylch Meithrin â statws cymeradwy sy'n cynnig 10 awr yr wythnos mewn addysg gynnar, a hynny am o leiaf dri diwrnod. Gellir cael mynediad at hyn mewn dau leoliad.

Mae pob lleoliad cymeradwy nas cynhelir sy'n cael y cyllid:

  • Wedi'i gofrestru gyda'r awdurdod addysg lleol i ddarparu'r addysg gynnar ran-amser
  • Yn cael ei Arolygu gan AGC ac ESTYN yn rheolaidd
  • Yn cael ei gefnogi gan athro cymwysedig yn rheolaidd
  • Yn cynnwys staff sydd wedi'u hyfforddi'n briodol

Ble y gall fy mhlentyn gael mynediad at Feithrinfa Cyfnod Sylfaen yn Sir Benfro?

Isod, ceir rhestr o'r holl leoliadau cymeradwy nas cynhelir sy'n darparu Meithrinfa Cyfnod Sylfaen yn Sir Benfro:

  • Bloomfield Day Nursery - Canolfan Gymunedol Bloomfield, Heol Redstone Arberth; SA67 7ES
  • Grŵp Chwarae Aberllydan – Neuadd y Pentref, Marine Road, Aberllydan, SA62 3JS
  • Grŵp Chwarae Camros a'r Garn – Canolfan Gymunedol Pelcomb, Hwlffordd, SA62 6AA
  • Cylch Meithrin Abergwaun – Canolfan Hamdden Abergwaun, Abergwaun, SA65 9DT
  • Cylch Meithrin Arberth – Canolfan Gymunedol Bloomfield, Heol Redstone, Arberth, SA67 7EP
  • Cylch Meithrin Bwlchygroes – Yr Hen Ysgol, Neuadd Bwlchygroes, SA35 0DP
  • Cylch Meithrin Cas-mael – Ysgol Cas-mael, Hwlffordd, SA62 5RL
  • Cylch Meithrin Crymych – Caban, Ysgol y Frenni, SA41 3QH
  • Cylch Meithrin Eglwyswrw – Yr Hen Ysgol, Eglwyswrw, SA41 3SN
  • Cylch Meithrin Hermon – Canolfan Hermon, Hermon, SA36 0DT
  • Cylch Meithrin Maenclochog – Neuadd Gymunedol, Maenclochog, SA66 7LB
  • Meithrinfa Do-re-mi – Heol Station, Treletert,  SA62 5RY
  • Playdays Abergwaun – Adeilad Crowne, Lôn Brodog, Abergwaun, SA65 9NT
  • Portfield Pre-School - Flying Start Centre, Cross Park, Pennar, SA72 6SW
  • Golden Manor Nursery - Golden Lane, Pembroke, SA71 4PR
  • Happy Days Childcare - The Docks, Milford Haven, SA73 3AA
  • Grŵp Chwarae Spittal – Neuadd yr Eglwys, Y Grîn, Spittal, SA62 5QT
  • Stepping Stones – 18A Bush Row, Hwlffordd SA61 1RJ
  • Grŵp Chwarae Tafarn-sbeit – Neuadd Bentref Tafarn-sbeit, Tafarn-sbeit, SA34 0NL

Noder: Siaradwch â’ch lleoliad Addysg Gynnar o'ch dewis a chytuno ar le i'ch plentyn cyn i chi gyflwyno cais. Gellir cael mynediad at le wedi'i ariannu mewn dau leoliad.

Pryd y bydd fy mhlentyn yn elwa ar Addysg Gynnar wedi’i ariannu?

Gall pob plentyn yng Nghymru gael mynediad ar Feithrinfa Cyfnod Sylfaen o ddechrau'r tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn dair oed a chyn cael ei dderbyn i'r ysgol yn llawn-amser. Cyfeiriwch at y ddolen yma i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud cais am le llawn-amser mewn ysgol - Mynediad i Ysgolion

 

Dyddiad Geni'r Plentyn

Pryd y gall fy mhlentyn gael mynediad i Addysg Gynnar?

1 Ebrill 2020 – 31 Awst 2020 Hydref 2023  (Mis Medi 2023)
1 Medi 2020 – 31 Rhagfyr 2020 Gwanwyn 2024 (Mis Ionawr 2024)
1 Ionawr 2021 - 31 Mawrth 2021 Haf 2024 (Mis Ebrill 2024)
1 Ebrill 2021 - 31 Awst 2021 Hydref 2024 (Mis Medi 2023)
1 Medi 20221 - 31 Rhagfyr 2021 Gwanwyn 2025 (Mis Ionawr 2025)

 

Sut mae gwneud cais am gyllid ar gyfer Addysg Gynnar wedi’i ariannu?

Bydd angen i chi siarad â'r darparwr gofal plant yr ydych yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd (neu yr ydych yn bwriadu ei ddefnyddio) ar gyfer addysg gynnar wedi’i arienni i’ch plentyn.

Bydd y darparwr gofal plant yn gwirio pa bryd y bydd eich plentyn yn gymwys. Os yw eich plentyn yn gymwys, gofynnir i chi lenwi ffurflen gais ar-lein ar gyfer pob tymor:

Sut y mae hyn yn gweithio? Cam wrth Gam

  1. Cysylltwch â'ch lleoliad Meithrin Cyfnod Sylfaen o'ch dewis a chytuno ar le eich plentyn
  2. Cwblhau cais ar-lein. Er y bydd ymgeiswyr yn llofnodi ymwadiad i gadarnhau eu bod yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cymhwysedd, disgwylir i bob cais hefyd gael ei ategu gan dystiolaeth ddogfennol o ddyddiad geni'r plentyn (naill ai tystysgrif geni/pasbort/cofnodion iechyd meddygol) a phrawf o gyfeiriad yn Sir Benfro.
  3. Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais, byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau bod eich cais wedi’u cyflwyno.
  4. Gall gymryd hyd at 14 diwrnod gwaith i'ch cais gael ei brosesu.  Unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu, byddwch yn derbyn e-bost arall yn cymeradwyo/gwrthod eich cais.
  5. Os yw'ch cais wedi'i gymeradwyo, anfonir e-bost at y lleoliad o'ch dewis gyda chadarnhad o le wedi'i ariannu.  Yna bydd cyllid yn cael ei ryddhau'n uniongyrchol i'r lleoliad o'ch dewis ar ôl i'r cais gael ei gymeradwyo. 

Os byddwch yn cael unrhyw broblem wrth lenwi'r ffurflen gais ar-lein, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: 

E-bost: earlyeducation@pembrokeshire.gov.uk 

Ffurflen gais ar-lein  - Mae ceisiadau nawr AR GAU ar gyfer tymor y Gwanwyn 2025. 

Cynnig Gofal Plant Cymru

Yn ychwanegol at yr hawl i 10 awr yr wythnos o addysg blynyddoedd cynnar rad ac am ddim (sydd ar gael i bob plentyn), efallai y byddwch hefyd yn gallu elwa ar 20 awr yn rhagor o ofal plant wedi'i ariannu. I gael rhagor o wybodaeth am y Cynnig Gofal Plant Cymru (yn agor mewn tab newydd)

 

 

ID: 5798, adolygwyd 15/01/2025