CynnigGofal Plant Cymru

Pwy sy'n gallu gwneud cais? Ydw i'n gymwys?

I fod yn gymwys i gael y Cynnig Gofal Plant, rhaid i bob rhiant:

  • Byw yng Nghymru
  • Bod â phlentyn rhwng 3 a 4 oed (Bydd y Cynnig yn dechrau o'r tymor yn dilyn trydydd pen-blwydd eich plentyn tan y tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn bedair oed pan fyddan nhw'n dechrau addysg llawn amser)
  • Yn ennill llai na £100,000 y flwyddyn

Rhaid i chi hefyd fodloni un o'r meini prawf canlynol:

  • cael eich cyflogi ac ennill o leiaf, ar gyfartaledd, yr hyn sy’n cyfateb i weithio 16 awr yr wythnos yn yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw
  • bod ar Dâl Statudol ac Absenoldeb (Salwch, Mamolaeth, Tadolaeth, Profedigaeth Rhieni ac Absenoldeb Mabwysiadu)
  • wedi eich cofrestru naill ai ar gwrs israddedig, ôl-raddedig neu addysg bellach sydd o leiaf 10 wythnos o hyd

Os oes gennych bartner sy'n byw gyda chi, rhaid iddynt hefyd fodloni un o'r meini prawf enillion neu addysg hyn.

Gall gofalwyr maeth a gofalwyr sy'n berthnasau (perthynas neu ffrind nad yw'n rhiant plentyn) fod yn gymwys.

Cyn ymgeisio gwiriwch a ydych yn gymwys am Gynnig Gofal Plant Cymru yma - Gwirio os ydych yn gymwys am Gynnig Gofal Plant Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Fe all rhieni dderbyn y cynnig gofal plant ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwn, cyn belled â'u bod nhw'n gymwys i wneud hynny. Dylai rhieni allu cael mynediad i'r cynnig o ba bynnag bwynt y maent yn dymuno yn ystod y tymor hwnnw, gan ddarparu bod eu plentyn yn gymwys o ddechrau'r tymor hwnnw, neu'n gynharach. Mae hyn yn cynnwys rhieni sy'n symud i'r sir neu'n cael gwaith.

ID: 7217, adolygwyd 19/09/2024