Cynnydd
Mynediad a Chymhwyster
Mae mynediad at y prosiect Cynnydd yn dibynnu ar y canlynol:
- Bodloni’r meini prawf cymhwyster a bennwyd gan y prosiect. Mae tri dangosydd cymhwystra – presenoldeb gwael, ymddygiad gwael a chyrhaeddiad gwael.
- Rhaid i ddisgyblion fod wedi cofrestru gydag ysgol uwchradd / uned arbennig yr awdurdod lleol a bod ar ei chofrestr.
- Yn y categori Coch yn y Proffil Asesu Bregusrwydd (PAB). Offeryn asesu yw PAB sy’n mesur tebygolrwydd ymddieithrio rhag addysg gan ddefnyddio dangosyddion caled sy’n cynhyrchu sgôr bregusrwydd.
- Wedi’i drafod yng nghyfarfod TAPPAS (y Tîm o Amgylch y Disgybl, y Rhiant a'r Lleoliad). Cyfarfodydd amlasiantaeth yw paneli TAPPAS sy'n cael eu cynnal ym mhob ysgol uwchradd / uned arbennig yr awdurdod lleol bob tymor. Caiff holl ddisgyblion y nodwyd eu bod mewn perygl o ymddieithrio eu trafod a nodir pa gymorth ychwanegol posibl sydd ar gael i ddiwallu eu hanghenion. Y ddarpariaeth a gynigir gan Cynnydd yw un math o gymorth all gael ei gynnig.
- Gellir ond cael mynediad at raglen Cynnydd Cyngor Sir Penfro drwy gyfeiriad gan yr ysgol ar ôl bod drwy’r broses asesu.
Os ydych yn teimlo y byddech chi neu eich plentyn yn elwa ar gael mynediad i’r cymorth ychwanegol y gall Cynnydd ei ddarparu ac y credwch eich bod yn bodloni unrhyw un o’r meini prawf cymhwystra, trafodwch hyn gyda staff yr ysgol, a all eich helpu i benderfynu a yw cymorth Cynnydd yn opsiwn i chi.
* Sylwch nad yw darpariaeth prosiect Cynnydd ar gael bellach gan fod y prosiect bellach wedi dod i ben.
ID: 4104, adolygwyd 26/07/2023