Cynnyrch Hylendid Amsugnol
Casgliadau Newydd ar gyfer Cewynnau Tafladwy a Gwastraff Anymataliaeth
Ym mis Medi 2019, fe wnaethom ni gyflwyno gwasanaeth casglu gwastraff newydd bob pythefnos yn seiliedig ar danysgrifio, ar gyfer cewynnau tafladwy a chynnyrch hylendid amsugno fel cynhyrchion gofal gwastraff anymataliaeth.
Os oes rhywun yn eich cartref chi’n defnyddio cewynnau tafladwy neu gynnyrch hylendid amsugnol eraill, a’r eiddo yw eu prif le preswylio, gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu Cynhyrchion Hylendid Amsgugnol i gasglu’r deunyddiau hyn ar wahân i’ch gwastraff a’ch deunydd ailgylchu arall.
Pam?
Rydyn ni’n taflu dros 3 biliwn o gewynnau yn y DU bob blwyddyn. Fe gymer hyd at 500 o flynyddoedd i gewyn tafladwy bydru.
Mae casglu cewynnau a gwastraff anymataliaeth ar wahân yn golygu y gellir eu hailgylchu, gan roi mwy o le i chi yn eich bag gweddillion (llwyd) ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Sut ydw i’n cofrestru?
Gallwch gofrestru ar gyfer y casgliad CHA ar Fy Nghyfrif
Sut bydd yn gweithio?
Ar ôl i chi gofrestru, byddwn yn darparu rholiau o sachau porffor 60 litr i chi ar gyfer gwastraff cynnyrch hylendid amsugnol yn unig, a chalendr o ddyddiadau casglu bob pythefnos. Bydd y calendrau hyn hefyd ar gael drwy Fy Nghyfrif unwaith y byddwch chi wedi cofrestru i dderbyn y gwasanaeth.
Dylech gyflwyno’ch gwastraff wrth ymyl y ffordd ar eich diwrnod casglu yn y bagiau porffor gwastraff hylendid amsugnol a ddarparwn, nid mewn bagiau du na bagiau eraill. Os dymunwch, gallwch roi’r sach gwastraff hylendid amsugnol mewn bin neu gynhwysydd arall. Gall hwn fod yn unrhyw liw, fodd bynnag, bydd cyfyngiadau ar faint y bin neu’r cynhwysydd er mwyn sicrhau y gall ein gweithredwyr gwastraff eu codi a’u gwagio’n hawdd heb berygl o gael eu hanafu.
Gan fod hwn yn gasgliad wedi’i dargedu, yn seiliedig ar danysgrifio, os nad ydych yn defnyddio’r gwasanaeth am dair wythnos yn olynol bydd eich tanysgrifiad yn cael ei ganslo a bydd angen i chi ail-gofrestru er mwyn sichrau bod y gwasanaeth yn cael ei redeg mewn modd effeithlon.
O ran cwsmeriaid cofrestredig sy’n defnyddio’r gwasanaeth i waredu unrhyw beth heblaw’r dibenion a fwriadwyd, bydd eu gwasanaeth yn cael ei ddiddymu.
Beth fydd yn cael ei gasglu?
• Cewynnau a sachau cewynnau
• Cynhyrchion gofal anymataliaeth megis leinin
• Weipiau, a meinweoedd papur
• Padiau gwely a chadair
• Menig plastig a ffedogau tafladwy
• Bagiau colostomi/stoma
• Bagiau cathetr
Mae’r holl eitemau a restrir uchod yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth casglu hwn.
Nid yw’r gwasanaeth hwn ar gyfer gwastraff ymolchi neu gynnyrch hylendid menywod, a dylid gwaredu’r rhain yn eich bagiau gwastraff gweddilliol.