Cynnyrch Hylendid Amsugnol
Telerau ac Amodau
Gall cartrefi sydd â phlant mewn cewynnau, neu unigolion sy’n defnyddio cynhyrchion anymataliaeth sy’n byw’n bennaf yn yr eiddo, gorestru i ddefnyddio’r gwasanaeth. Dim ond ar gyfer prif fan preswyl yr unigolion sy’n cynhyrchu’r gwastraff y mae’r gwasanaeth ar gael. Nid yw’r gwasanaeth hwn ar gael i aelwydydd sydd ei angen ar sail afreolaidd, h.y. ar gyfer ymwelwyr. Nid yw’r gwasanaeth ar gael ychwaith i aelwydydd nad ydynt yn brif breswylfa’r unigolyn sy’n cynhyrchu’r deunydd h.y. os yw wyrion ac wyresau yn derbyn gofal rhan-amser yn yr eiddo.
Bob pythefnos ar eich diwrnod casglu, dylech gyflwyno eich gwastraff ar garreg y drws, gan ddefnyddio’r bagiau porffor sy'n cael eu darparu gennym, yn hytrach na mewn bagiau duon na bagiau eraill. Os dymunwch, gallwch roi'r sach AHP mewn bin neu gynhwysydd arall. Gall hwn fod yn unrhyw liw, ond mae cyfyngiadau ar faint y bin neu'r cynhwysydd, sef dim mwy na 240 litr, er mwyn sicrhau y gall ein gweithwyr gwastraff eu gwagio'n rhwydd heb y risg o gael eu hanafu.
Mae'r eitemau canlynol yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth casglu hwn–cewynnau a sachau cewynnau, cynhyrchion gofal anymataliaeth megis leinin, weipiau, a meinweoedd papur, padiau gwely a chadair, menig plastig, bagiau cathetr a ffedogau tafladwy, a bagiau colostomi/stoma.
Ni ddylid cynnwys unrhyw eitemau eraill yn y bagiau AHP, dylid ailgylchu eitemau eraill lle bo'n briodol neu eu gwaredu mewn bagiau gwastraff gweddilliol.
Bydd cwsmeriaid cofrestredig sy'n defnyddio'r gwasanaeth i gael gwared ar unrhyw beth sydd ddim yn rhan o ddiben y bagiau yn colli’r gwasanaeth.
Mae'r tanysgrifiad yn para am 2 flynedd, byddwn yn eich atgoffa pan fydd hi'n amser ail-gofrestru.
Os nad ydych yn defnyddio'r gwasanaeth ar gyfer tri chasgliad dilynol bydd eich tanysgrifiad yn cael ei ganslo a bydd angen i chi ailgofrestru. Rhowch wybod i ni os ydych am i'r gwasanaeth hwn gael ei atal ar unrhyw adeg.
Ni fydd cyfyngiad ar y nifer o fagiau y gellir eu gosod ar gyfer pob casgliad ond mae gan bob bag unigol uchafswm pwysau o 15 kg a dim ond yr eitemau uchod y gellir eu cynnwys.