CYSAG
CGM o fewn y Cwricwlwm i Gymru
(Canllawiau CGM Llywodraeth Cymru)
Mae Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) yn un o ofynion statudol Cwricwlwm i Gymru ac yn fandadol i bob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed. Mae CGM yn rhan o Faes Dysgu a Phrofiad (MDPh) y Dyniaethau. Mae’r Maes hwn yn cwmpasu Astudiaethau Busnes, Daearyddiaeth, Hanes, Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, ac Astudiaethau Cymdeithasol. Mae’r disgyblaethau hyn yn rhannu llawer o’r un themâu, cysyniadau a sgiliau trosglwyddadwy, ac yn cynnwys eu gwybodaeth a’u sgiliau gwahanol eu hunain hefyd.
Gall CGM o fewn y Cwricwlwm i Gymru wneud cyfraniad unigryw tuag at gyflawni’r pedwar diben (yn agor mewn tab newydd) i bob dysgwr. Fel y cyfryw, mae’r maes llafur hwn yn helpu ysgolion a lleoliadau i ddatblygu darpariaeth ar gyfer CGM sy’n paratoi dysgwyr yng Nghymru ar gyfer bywyd a gwaith, fel dinasyddion cyfrifol a gwybodus, mewn byd amrywiol sy’n newid yn gyflym.
Lleolir canllawiau CGM o fewn Maes y Dyniaethau ac maent yn ymgorffori amrywiaeth o ddulliau disgyblaethol y gall ddysgwyr eu defnyddio i ymgysylltu’n feirniadol ag amrywiaeth eang o gysyniadau crefyddol ac anghrefyddol. Er enghraifft, gallai ddulliau disgyblaethol sy’n berthnasol i CGM gynnwys astudiaethau crefyddol, athroniaeth, diwinyddiaeth, cymdeithaseg, seicoleg ac anthropoleg. Hefyd ceir cydberthnasau cadarn rhwng CGM a’r disgyblaethau eraill ym Maes y Dyniaethau, a gyda Meysydd eraill yn ogystal.
Mae cysyniadau yn bwysig mewn CGM am eu bod yn syniadau canolog sy’n helpu dysgwyr i ddeall a dehongli profiadau dynol, y byd naturiol a’u lle eu hunain ynddo. Caiff dysgwyr gyfleoedd i archwilio cysyniadau CGM drwy amrywiaeth o is-lensys sy’n cyfuno i ffurfio lens ddisgyblaethol CGM. Mae’r cysyniadau a’r is-lensys hyn wedi’u nodi yn y canllawiau CGM hyn.
O fewn y Cwricwlwm i Gymru, mae CGM yn wrthrychol, yn feirniadol ac yn blwraliaethol, o ran cynnwys ac addysgeg; nid oes a wnelo’r pwnc â gwneud dysgwyr yn ‘grefyddol’ neu’n ‘anghrefyddol’. Daw’r ymadrodd ‘gwrthrychol, beirniadol a phlwraliaethol’ o gyfraith achosion y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn sicrhau ei bod yn rhaid i bob dysgwr gael cynnig cyfleoedd drwy CGM i ymwneud â gwahanol grefyddau ac argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yn eu hardal leol ac yng Nghymru, yn ogystal ag yn y byd ehangach