CYSAG
Addysgu a dysgu yn CGM
Wrth ddatblygu’r cwricwlwm CGM a chyfleoedd addysgu a dysgu i ddysgwyr o fewn CGM, dylid ystyried:
- Atal dysgwyr rhag datblygu camsyniadau am grefydd ac argyhoeddiadau/safbwyntiau athronyddol anghrefyddol. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r cwricwlwm fod yn seiliedig ar astudiaeth academaidd ac ysgolheictod.
- Datblygu cwricwlwm sy’n caniatáu i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth a dealltwriaeth yn ddigon manwl ac sy’n osgoi ymdriniaeth arwynebol o’r cynnwys a ddewisir.
- Creu cwricwlwm sydd wedi’i strwythuro a’i drefnu mewn modd a fydd yn cefnogi dysgwyr yn eu datblygiad drwy’r camau dilyniant.
ID: 9363, adolygwyd 13/12/2022