CYSAG
Addoli ar y Cyd
- Rhaid i ysgolion ddarparu cyfle i addoli ar y cyd bob dydd i bob disgybl sydd wedi'i gofrestru.
- Nid oes yna ofyniad cyfreithiol i ddarparu cyfle i addoli ar y cyd i blant o dan bump oed.
- Dylai mwyafrif y gweithredoedd o addoli ar y cyd fod yn gyfan gwbl neu'n bennaf Gristnogol eu natur; mae hyn yn golygu y dylent adlewyrchu traddodiadau eang cred Gristnogol heb fod yn nodweddiadol o unrhyw enwad Cristnogol penodol.
- Gall y weithred o addoli ar y cyd ddigwydd ar unrhyw adeg yn ystod y diwrnod ysgol.
- Gall y cyfle i addoli ar y cyd gael ei ddarparu i ddisgyblion mewn grwpiau o unrhyw faint, er enghraifft dosbarth, grŵp blwyddyn, grŵp cyfnod neu gymuned yr ysgol gyfan.
- Dylai'r weithred o addoli ar y cyd gymryd i ystyriaeth gefndir teuluol, oedrannau ac addasrwydd y disgyblion dan sylw.
- Gall rhiant wneud cais i'w blentyn gael ei esgusodi rhag addoli ar y cyd, a rhaid i ysgolion gytuno i geisiadau o'r fath. Nid oes rhaid i'r rhieni roi rheswm. Rhaid i'r ysgol oruchwylio'r plant a esgusodir. Trwy gytundeb â'r rhieni, gall yr ysgol ddarparu trefniadau amgen ar gyfer addoli i un neu ragor o ddisgyblion a esgusodir, ond nid oes rhaid iddi wneud hynny.
- Dylai prosbectws yr ysgol gyfeirio at hawl rhieni i wneud cais i'w plentyn gael ei esgusodi rhag addoli ar y cyd a nodi'r trefniadau ar gyfer y disgyblion a esgusodir.
- Mae Bil Addysg ac Arolygiadau 2006 yn rhoi hawl i ddisgyblion yn y chweched dosbarth eu hesgusodi eu hunain rhag addoli ar y cyd. Daeth y ddeddfwriaeth i rym yng Nghymru ym mis Chwefror 2009.
- Mae gan athrawon yr hael i dynnu'n ôl o addoli ar y cyd. Fodd bynnag, rhaid i'r ysgol sicrhau bod cyfle i addoli ar y cyd yn dal i gael ei gynnig yn ddyddiol i bob plentyn
Cyflwyniad i CYSAG
Rôl a chyfansoddiad CYSAG
Pwrpas CYSAG yw cynghori'r awdurdod lleol ar faterion sy'n ymwneud ag addysg grefyddol ac addoli ar y cyd mewn ysgolion a gynhelir gan y wladwriaeth.
Cyfansoddiad CYSAG
Yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am gyfansoddiad CYSAG.
Mae tri grŵp yn rhan o CYSAG:
- Cynrychiolwyr enwadau Cristnogol a chrefyddau eraill i adlewyrchu'n fras gryfder cyfathebol yr enwadau neu'r crefyddau hynny yn yr ardal.
- Cymdeithasau sy'n cynrychioli athrawon.
- Cynrychiolwyr awdurdodau lleol.
Gall CYSAG gyfethol aelodau ychwanegol heb bleidlais yn unol â'r cyfansoddiad.
Rôl CYSAG
Cynghori'r awdurdod ynghylch addysg grefyddol a chyd-addoli.
- bodloni a monitro gofynion statudol
- y ffordd orau o gyflwyno'r maes llafur cytunedig ar gyfer addysg grefyddol
- dulliau addysgu
- adnoddau i'w defyddio
- hyffordi athrawon.
Gofyn i'r awdurdod lleol adolygu ei faes llafur cytunedig ar gyfer addysg grefyddol.
- Gofyniad cyfreithiol i bob awdurdod lleol adolygu ei faes llafur cytunedig o fewn pum mlynedd o'r adolygiad diwethaf.
- Bydd pob maes llafur cytûn yn 'adlewyrchu'r ffaith bod traddodiadau crefyddol Prydain, ar y cyfan, yn rhai Cristnogol ond bydd yn rhoi sylw i ddysgeidiaeth ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir ym Mhrydain Fawr'.
Ystyried ceisiadau gan ysgolion ar gyfer dyfarniadau
- Ceisiadau i gael eu heithrio o 'addoli Cristnogol ar y cyfan' yw dyfarniadau.
Ystyried cwynion am ddarpariaeth a chyflwyniad addysg grefyddol a chyd-addoli.
- Chwarae rhan yn y broses gwynion statudol leol, lle caiff achosion eu cyfeirio i CYSAG gan yr awdurdod lleol.
Cyhoeddi adroddiad blynyddol am ei waith
- Cyflwynir hwn i AdAS Llywodraeth Cymru erbyn 31 Rhagfyr bob blwyddyn.
Cyfrifoldebau'r awdurdod lleol mewn perthynas â CYSAG
- Sefydlu ac ariannu CYSAG.
- Penodi aelodau CYSAG a'r Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig.
- Nodi a darparu'r cyngor a'r gefnogaeth y mae eu hangen ar CYSAG.
- hysbysu CYSAG ynghylch materion sy'n berthnasol i addysg grefyddol a chyd-addoli.
- Darparu gwybodaeth am arolygiadau ysgolion ac/neu adroddiadau hunanwerthuso.
- Ymateb i gyngor a gynigir gan CYSAG.
- Sefydlu a chynnal cynadleddau maes llafur cytunedig pan gofynnir amdanynt gan CYSAG.
- Hysbysu'r Gweinidog Addysg pan cytunir ar faes llafur newydd.
- Ystyried cwynion am gwricwlwm addysg grefyddol a chyd-addoli.
Acronymau
CYSAG (Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol)
AdAS (Yr Adran Addysg a Sgiliau)
Estyn (Gwasanaeth Arolygu Ysgolion Cymru)
PYCAG (Y Panel Ymgynghorol Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol)
Deddfwriaeth
Rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru fabwysiadu maes llafur Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg i'w ddefnyddio yn yr ysgolion a gynhelir ganddynt.
Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (yn agor mewn tab newydd)
Amlinellir y diffiniad o faes llafur cytunedig yn Neddf Addysg 1996.
Deddf Addysg 1996 (yn agor mewn tab newydd)
Gellir dod o hyd i ganllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg Llywodraeth Cymru yma:
Y Dyniaethau: Cynllunio eich cwricwlwm (yn agor mewn tab newydd)
Maes Llafur Cytunedig Sir Benfro ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
Rhagymadrodd – Cyfarwyddwr Addysg
Mae’n bleser gennyf gyflwyno Maes Llafur Cytunedig Sir Benfro ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) i gefnogi datblygiad cwricwlwm plwraliaethol, beirniadol a gwrthrychol i bob ysgol. Yn ddiau, bydd CGM o ansawdd uchel yn chwarae rhan bwysig mewn gwireddu’r pedwar diben a gwn y bydd ysgolion yn ymwybodol o’u dyletswyddau yn unol â deddfwriaeth a hawliau dysgwyr a ddisgrifir yn y maes llafur hwn.
Bydd angen i ni werthuso pa mor dda y mae’r maes llafur hwn yn cefnogi ysgolion i gyflawni’r disgwyliadau hyn, a’i addasu yn ôl yr angen. Bydd cymorth dysgu proffesiynol parhaus yn cael ei lywio gan farn ac awgrymiadau ysgolion. Gofynnaf fod ysgolion yn gwneud defnydd da o’r ystod o sianeli cyfathrebu sydd ar gael er mwyn sicrhau bod eu lleisiau yn llywio ein cynllunio a’n cymorth. Mae hyn yn cynnwys cysylltu â Chyngor Ymgynghorol Sefydlog ar CGM (CYSCGM) Sir Benfro sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol i fonitro ansawdd darpariaeth a safonau CGM o fewn y sir, a darparu cyngor ac arweiniad.
Gofynnaf i bob pennaeth ysgol gynnwys gwerthusiad byr yn eu hadroddiadau tymhorol i lywodraethwyr ar gynnydd eu hysgolion o ran CGM, gan gynnwys datgan a fyddai unrhyw gymorth ychwanegol yn ddefnyddiol. Bydd hyn yn galluogi CYSCGM i gynnal trosolwg o gynnydd a darparu’r lefel cymorth angenrheidiol. Bydd o ddefnydd mawr pe bai ysgolion yn gallu rhannu enghreifftiau o’u harfer cryfaf o ran CGM a’i effaith ar ddysgwyr, fel y gall CYSCGM arddangos y gwaith hwn a’i rannu gydag eraill er mwyn ysgogi meddwl. Rydym yn rhagweld adolygu’r maes llafur hwn yn Hydref 2024, yn dilyn adborth gan bob ysgol.
Edrychaf ymlaen at glywed am ystod amrywiol o brofiadau dysgu deinamig ac ystyrlon sy’n galluogi dysgwyr o bob oedran i ddeall ein byd yn well a’i wneud yn lle gwell fyth.
Steven Richards-Downes
Cyfarwyddwr Addysg
CGM o fewn y Cwricwlwm i Gymru
Canllawiau cgm llywodraeth cymru
Cyd awduror maes llafur cytunedig
Canllawiau awgrymedig ar ddyrannu amser
Amcanion y maes llafur cytunedig
Siarter y Cenhedloedd Unedig ar Hawliaur Plentyn
Argymhellion ar gyfer syniadau a gwybodaeth allweddol
Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg Manylion Cyswllt
Clerc y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg:
Lydia Cheshire; Lydia.Cheshire@pembrokeshire.gov.uk
Cyswllt Awdurdod Lleol: Sian Rowles; RowlesS5@Hwbcymru.net
Cynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg:
Jennifer Harding-Richards; Jennifer.Harding-Richards@swansea.gov.uk