CYSAG
Argymhellion ar gyfer syniadau a gwybodaeth allweddol
Bwriedir i’r argymhellion hyn fod yn gymorth i gynllunio cwricwlwm CGM lle mae dysgwyr yn caffael gwybodaeth a dealltwriaeth gynyddol soffistigedig am gredoau, arferion a gwerthoedd crefyddol ac anghrefyddol. Ni fwriedir iddynt fod yn rhagnodol nac yn gynhwysfawr, ac ni ddylid eu defnyddio fel cynllun dysgu. Gall y rhai sydd â chyfrifoldeb am gynllunio’r cwricwlwm CGM ddefnyddio’r argymhellion hyn mewn modd hyblyg neu gynllunio model dilyniant sydd o leiaf yn gyfwerth yn nhermau lefel yr her a thrylwyredd academaidd.
Mae’r argymhellion yn caniatáu archwilio’r 7 is-lens CGM. Efallai bydd y rhai sy’n cynllunio’r ddarpariaeth CGM yn dymuno bod yn ymwybodol o’r is-lensys fel y’u nodir yng Nghanllawiau Llywodraeth Cymru ar CGM (yn agor mewn tab newydd).
Ar y dudalen hon:
Crefyddau Abrahamig
Cristnogaeth
Cynnydd cam 1
- Beth yw ystyr y term ‘Cristion’
- Un Duw – holl-wybodus, holl-gariadus, holl-bwerus
- Duw fel Creawdwr
- Iesu fel Mab Duw (ymgnawdoliad)
- Adfent a’r Nadolig
- Eglwysi yn y gymuned leol (cysylltiadau posibl ag Astudiaethau Cymdeithasol)
Cynnydd cam 2
- Yr Eglwys – pwysigrwydd fel lle i addoli, ymgynnull a chynnal y gymuned – nodweddion allweddol, e.e. allor, bedyddfaen – gwahanol fathau o eglwys
- Syniad sylfaenol o’r Drindod
- Y Beibl
- Defodau newid byd - Bedydd, Ewcharist
- Dysgeidiaethau allweddol yr efengylau, e.e. damhegion a gwyrthiau Iesu
- Agape (cariad diamod bu Iesu yn ei addysgu)
- Addoli a gweddïo Cristnogol
- Cefndir syml i Gristnogaeth yng Nghymru (cysylltiadau cryf â Hanes yn MDPh y Dyniaethau), er enghraifft Tyddewi, Yr Adfywiad Cymreig (Casllwchwr)
Cynnydd cam 3
- Creadigaeth a Chwymp yn Genesis 1 a dehongliadau
- Wythnos Sanctaidd gan gynnwys y Swper Olaf, croeshoeliad, atgyfodiad
- Y Grawys a’r Pasg
- Pentecost a rôl yr Ysbryd Sanctaidd
- Yr Eglwys fel Corff Crist - cymuned fyd-eang o Gristnogion
- Enghreifftiau o ddysgeidiaethau a gwerthoedd Cristnogol ar waith
- Deall bod llawer o wahanol ffyrdd o fod yn Gristion (enwadau)
Cynnydd cam 4
- Y Beibl fel ffynhonnell doethineb ac awdurdod, ac effaith y Beibl ar arferion a ffyrdd o fyw Cristnogol
- Archwilio ffynonellau doethineb ac awdurdod allweddol eraill mewn Cristnogaeth, e.e. y gydwybod, arweinyddion crefyddol
- Ffyrdd Cristnogol o fyw a moeseg
- Amrywiaeth Cristnogol – enwadau, e.e. Catholig, Anglicanaidd, Eglwysi Rhydd, ac ati, gan gynnwys archwilio safbwyntiau Cristnogol rhyddfrydol a cheidwadol, e.e., diwinyddiaeth rhyddhad - Jose Cifuentes
- Eciwmeniaeth
- Arwyddocâd Cristnogaeth yng Nghymru yn hanesyddol ac yn yr oes bresennol (cysylltiadau cryf â Hanes ac Astudiaethau Cymdeithasol), e.e., Ffordd Pererindod y Gŵyr, taith gerdded pererindod Sir Benfro
- Cristnogaeth ar waith – cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang (cysylltiadau â Daearyddiaeth ac Astudiaethau Busnes o bosib), e.e. Caffi Matt
- Maddeuant a chymodi
- Credoau a litwrgi
- Natur Duw mewn Cristnogaeth, gydag ystyriaeth o faterion a dadleuon sy’n codi o’r credoau hyn
- Priodas – ystyr, diben a seremonïau priodas
- Gwerthoedd a moeseg mewn perthynas â’r byd naturiol a phethau byw - stiwardiaeth
Cynnydd cam 5
Dylid ei seilio’n fras ar fanylebau TGAU
Archwilio sut y gallai Cristnogion gymhwyso eu credoau a’u gwerthoedd i gwestiynau sy’n gysylltiedig â dadleuon moesegol, er enghraifft, erthyliad, ewthanasia, rhyfel, hawliau anifeiliaid a’r amgylchedd, gan gyfeirio at ffynonellau doethineb ac awdurdod allweddol. Dylid annog dysgwyr i ymgysylltu â meddwl academaidd a chymhwyso eu gwybodaeth flaenorol i’r trafodaethau a dadleuon moesegol hyn.
Islam
Cynnydd cam 1
- Beth yw ystyr y term ‘Mwslim’
- Un Duw annisgrifiadwy – Allah
- Muhammad fel y proffwyd olaf a mwyaf mawreddog (o 25)
- Eid ul Fitr ac Eid ul Adha
- Y lleuad a’r seren a’i symbolaeth ar gyfer Mwslimiaid
- Y mosg yn y gymuned leol
Cynnydd cam 2
- Y Mosg fel canolbwynt addoli pwysig, nodweddion allweddol, e.e. wal Quibla, y Minarét
- Y Quran, ei ddatguddiad i’r Proffwyd Muhammad a’i bwysigrwydd i Fwslimiaid
- Bywyd a dysgeidiaethau Muhammad
- Cefndir syml i Islam yng Nghymru (cysylltu â Hanes yn MDPh y Dyniaethau)
- Defodau newid byd – Aqiqah, Bismillah
Cynnydd cam 3
- Proffwydi Islam, gan gynnwys Adam, Abraham, Iesu a Muhammad
- Rôl a phwysigrwydd yr ummah
- Pum piler Islam a’u rôl canolog ym mywydau Mwslimiaid
- Y jihadi mwy a llai
- Gwahanol grwpiau o Fwslimiaid - Sunni, Shi’a a Sufi Islam
Cynnydd cam 4
- Y Quran, yr Hadith a’r Sunnah fel ffynonellau doethineb ac awdurdod a’u heffaith ar arferion a ffyrdd o fyw Mwslimaidd
- Y cod moesol Mwslimaidd – rhinweddau personol, cymeriad da, helpu eraill
- Natur Duw a’r 99 enw hardd
- Pum rheol cyfraith sharia
- Credoau Mwslimaidd o tawhid, risalah ac akhirah
- Arwyddocâd Islam yng Nghymru yn hanesyddol ac yn yr oes bresennol (cysylltiadau cryf â Hanes ac Astudiaethau Cymdeithasol)
- Priodas a rolau’r rhywiau o fewn Islam
- Symbolaeth mewn Islam a gwaith celf Islamaidd
- Islam ar waith – cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang
- Gwerthoedd a moeseg mewn perthynas â’r byd naturiol a phethau byw – pobl fel khalifahs
Cynnydd cam 5
Dylid ei seilio’n fras ar fanylebau TGAU
Archwilio sut y gallai Mwslimiaid gymhwyso eu credoau a’u gwerthoedd i gwestiynau sy’n gysylltiedig â dadleuon moesegol, er enghraifft, erthyliad, ewthanasia, rhyfel, hawliau anifeiliaid a’r amgylchedd, gan gyfeirio at ffynonellau doethineb ac awdurdod allweddol. Dylid annog dysgwyr i ymgysylltu â meddwl academaidd a chymhwyso eu gwybodaeth flaenorol i’r trafodaethau a dadleuon moesegol hyn.
Iddewiaeth
Cynnydd cam 1
- Beth yw ystyr y term ‘Iddew’
- Duw fel creawdwr
- Abraham a Sarah – y cyfamod â Duw
- Seren David a hunaniaeth Iddewig
- Channukah
Cynnydd cam 2
- Y Synagog – gwahanol ddibenion ar gyfer y gymuned, a nodweddion allweddol, e.e., Arch, Bimah
- Moses, yr alltud a’r deg gorchymyn
- Y Torah – Duw fel rhoddwr y gyfraith
- Joseff a llwythau Israel
- Y Pasg Iddewig/ Pesach
- Gweddïo Iddewig - y shema/ tefillin/ talith
- Defodau newid byd – brit milah, bar a bat mitzvah
- Cefndir syml i Iddewiaeth yng Nghymru (cysylltiadau â Hanes a Daearyddiaeth)
Cynnydd cam 3
- Straeon a phroffwydi Iddewig allweddol – Jacob, y Brenin David, Isaiah a Daniel
- Purim a dewrder Ruth
- Shabbat (traddodiadau, defodau ac ystyr) - Havdalah
- Rhagfarn, gwahaniaethu a gwrth-Semitiaeth (cysylltiadau â Hanes)
- Cofio a Beth Shalom
- Deall bod gwahanol ffyrdd o fod yn Iddewig (rhyddfrydol/diwygiedig/ uniongred/ Chasidig/secwlar)
Cynnydd cam 4
- Y Tenakh a’r Talmud fel ffynonellau awdurdod i Iddewon mewn cymdeithas gyfoes
- Midrash a Mishnah mewn darparu gwerthoedd a moeseg i Iddewon
- Saith cyfraith Noah
- Credoau am y Meseia
- Rosh Hashanah a Yom Kippur a phwysigrwydd y shofar
- Priodas (diben a defodau) a’r chuppah
- Kabbalah a’i chynnydd mewn poblogrwydd yn y gymdeithas gyfoes
- Schul (cysylltiadau clir â Hanes a MDPh eraill)
- Cynnydd Seioniaeth a’i hymateb i wrth-Semitiaeth.
- Gostyngiad ym mhoblogaeth Iddewig Cymru (cysylltiadau â Daearyddiaeth ac Astudiaethau Cymdeithasol), e.e., Canolfan Treftadaeth Iddewig Cymru
- Gwerthoedd a moeseg mewn perthynas â’r byd naturiol a phethau byw – stiwardiaeth, tikkun olam (trwsio’r byd)
Cynnydd cam 5
Dylid ei seilio’n fras ar fanylebau TGAU
Archwilio sut y gallai Iddewon gymhwyso eu credoau a’u gwerthoedd i gwestiynau sy’n gysylltiedig â dadleuon moesegol, er enghraifft, erthyliad, ewthanasia, rhyfel, hawliau anifeiliaid a’r amgylchedd, gan gyfeirio at ffynonellau doethineb ac awdurdod allweddol. Dylid annog dysgwyr i ymgysylltu â meddwl academaidd a chymhwyso eu gwybodaeth flaenorol i’r trafodaethau a dadleuon moesegol hyn.
Unedau CGM a awgrymir/ ymholiadau enghreifftiol
Blwyddyn 1: Defnyddio straeon Cristnogol i ddatblygu dealltwriaeth o werthoedd allweddol. Sut y mae Cristnogion yn dysgu gan Iesu am ofal, maddeuant, cymuned a dilyn Duw?
Blwyddyn 2: Dathliadau/Gwyliau (Hindŵiaid, Cristnogion, Mwslimiaid)
Blwyddyn 3: Symbolau ffydd ac arwyddion o berthyn: Pam y maent yn bwysig? (Yn perthyn i Hindŵiaid, Cristnogion, Mwslimiaid)
Blwyddyn 5: Gwerthoedd: beth sydd o’r pwys mwyaf i Ddyneiddwyr a Christnogion?
Blwyddyn 7: Beth yw crefydd? A fydd crefyddau’n tyfu neu’n darfod yn y 50 mlynedd nesaf? (Hindŵaidd, Cristnogol, Mwslimaidd, Safbwyntiau Anghrefyddol)
Blwyddyn 9: A yw crefydd yn bŵer dros heddwch neu’n achos o wrthdaro? Safbwyntiau Cristnogol, Mwslimaidd a Sikh gan gyfeirio at Safbwyntiau Anghrefyddol.
Diweddbwynt – llythrennedd crefyddol
Y disgwyliad o fewn y maes llafur hwn yw y bydd disgyblion erbyn diwedd ysgol gynradd, wedi astudio amrywiaeth o gredoau a thraddodiadau crefyddol sy’n cynnwys ffyddau Abrahamig, traddodiadau Dharmig, argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol, yn ogystal ag argyhoeddiadau athronyddol. Dylai’r cwricwlwm a’r dewisiadau adlewyrchu traddodiadau’r ysgol, y gymuned leol a Chymru.
Crefyddau Dharmig
Bwdhaeth
Cynnydd cam 1
- Beth yw ystyr y term ‘Bwdhydd’
- Bywyd Bwdha (Gautama Siddhartha) a’r Pedwar Arwydd
- Teml/ vihara yng Nghymru a lleoedd eraill - enghraifft leol os yn bosib - cyflwyniad i rai nodweddion a symbolau allweddol ynghyd â’r hyn sy’n digwydd yno
Cynnydd cam 2
- Pwysigrwydd Dharma/dhamma - dysgeidiaethau'r Bwdha
- Wesak – gŵyl cofio bywyd Bwdha, ei oleuo a’i farwolaeth
- Y tri marc o fodolaeth:
- dukkha (heb fod yn foddhaol)
- anicca (heb fod yn barhaus
- mae popeth yn newid)
- anatta (dim hunan parhaus)
- Bwdha fel meddyg/ffisigwr sy’n cynnig diagnosis o’r hyn sy’n achosi dioddefaint - tanha (blys/chwant) ac yn cynnig triniaeth - e.e. cydnabod nad yw popeth yn parhau, diffyg ymlyniad, meta (datblygu a chynnal caredigrwydd cariadus) a gwerthfawrogi bod pob peth yn gyd-gysylltiedig o bob peth sy’n fyw
- Y 4 Gwirionedd Nobl
Cynnydd cam 3
- Sangha Bwdhaidd - asgetigion a phobl leyg yng Nghymru a lleoedd eraill
- Y Llwybr Wythblyg
- Amrywiaeth mewn Bwdhaeth – y prif enwadau, Theravada a Mahayana
- Myfyrio
- Boddhisatva
- Samsara a karma – cylchred ail-fyw
Cynnydd cam 4
- Y tair gem
- Y tri gwenwyn
- 5 egwyddor ar gyfer lleygwyr a 10 egwyddor ar gyfer mynaich a lleianod
- Lleoedd pererindod
- Ffynonellau doethineb Bwdhaidd
- Cynrychiolaethau o’r Bwdha – y Bwdha yn niwylliant modern (gellid cysylltu â’r celfyddydau gweledol, astudiaethau cymdeithasol)
- Priodas – ystyr a diben, seremonïau priodas
- Arweinyddion crefyddol allweddol – e.e. Dalai Lama, Thich Nhat Hanh
- Gwerthoedd a moeseg mewn perthynas â’r byd naturiol a phethau byw
Cynnydd cam 5
Dylid ei seilio’n fras ar fanylebau TGAU
Archwilio sut y gallai Bwdhyddion gymhwyso eu credoau a’u gwerthoedd i gwestiynau sy’n gysylltiedig â dadleuon moesegol, er enghraifft, erthyliad, ewthanasia, rhyfel, hawliau anifeiliaid a’r amgylchedd, gan gyfeirio at ffynonellau doethineb ac awdurdod allweddol. Dylid annog dysgwyr i ymgysylltu â meddwl academaidd a chymhwyso eu gwybodaeth flaenorol i’r trafodaethau a dadleuon moesegol hyn.
Hindŵaeth
Cynnydd cam 1
- Beth yw ystyr y term ‘Hindŵ’
- Teml/mandir yng Nghymru a lleoedd eraill - enghraifft leol os yn bosib - cyflwyniad i rai nodweddion a symbolau allweddol ynghyd â’r hyn sy’n digwydd yno
- Brahman - un Duw/Bod Goruchaf/Realiti Eithaf
- Divali
Cynnydd cam 2
- Sanatan Dharma, y ‘Ffordd Dragwyddol’, dharma fel dyletswydd neu ffordd o fyw – Hindŵaeth fel ffordd o fyw
- Trimurti
- Brahma (Creawdwr)
- Vishnu (Ceidwad)
- Shiva (Dinistrydd)
- Duwiau a duwiesau fel mynegiant o Brahman
- Ahimsa – yr egwyddor o beidio â niweidio unrhyw beth sy’n fyw
- Testunau allweddol fel ffynonellau doethineb, e.e. Vedas, Bhaghavad Gita
Cynnydd cam 3
- Ailymgnawdoliad – samsara, karma, moksha
- Cysyniad atma
- Addoli yn y cartref ac yn y mandir
- Cysegrau a murtis
- Defodau newid byd, e.e. seremonïau trywydd sanctaidd
- Lleoedd sanctaidd a phererindod e.e., Dyffryn Skanda
Cynnydd cam 4
- Pedwar cam ashramas – myfyriwr, deiliad tŷ, meudwy/preswyliwr y goedwig, ymwrthodwr/asgetig crwydrol
- Hindŵiaid yn y gymuned leol, er enghraifft, Tŷ Krishna
- Gwerthoedd a moeseg mewn perthynas â’r byd naturiol a phethau byw.
- Ahimsa a thrin anifeiliaid, parchedigaeth arbennig tuag at wartheg
- Credoau ac arferion Hindŵaidd fel y maent yn berthnasol i faterion o gydraddoldeb
- Diwylliant poblogaidd a Hindŵaeth (Hindŵaeth mewn ffilmiau, dawns, y celfyddydau gweledol)
- Arweinyddion Hindŵaidd allweddol, e.e. Gandhi, Dr Vandana Shiva
Cynnydd cam 5
Dylid ei seilio’n fras ar fanylebau TGAU
Archwilio sut y gallai Hindŵiaid gymhwyso eu credoau a’u gwerthoedd i gwestiynau sy’n gysylltiedig â dadleuon moesegol, er enghraifft, erthyliad, ewthanasia, rhyfel, hawliau anifeiliaid a’r amgylchedd, gan gyfeirio at ffynonellau doethineb ac awdurdod allweddol. Dylid annog dysgwyr i ymgysylltu â meddwl academaidd a chymhwyso eu gwybodaeth flaenorol i’r trafodaethau a dadleuon moesegol hyn.
Sikhiaeth
Cynnydd cam 1
- Beth yw ystyr y term ‘Sikh’
- Cred mewn Un Duw (Ik Onkar) y mae Sikhiaid yn ei alw’n Waheguru
- Bywyd Guru Nanak
- Gurdwara yn y gymuned leol
Cynnydd cam 2
- Tri philer Sikhiaeth:
- Kirat Karni (byw’n onest)
- Vand Chakna (rhannu gydag eraill)
- Naam Japna (ffocws ar Dduw).
- 10 Guru dynol a’r Guru Granth Sahib
- Gurdwara yng Nghymru a lleoedd eraill - enghraifft leol os yn bosib - cyflwyniad i rai nodweddion a symbolau allweddol ynghyd â’r hyn sy’n digwydd yno
- Sewa – gwasanaethu eraill yn anhunanol
- Langar
Cynnydd cam 3
- Sikh sangat yng Nghymru a lleoedd eraill
- Mool Mantar
- Addoli yn y gurdwara ac yn y cartref
- Croesawu baban newydd
- Cymryd amrit, bod yn amritdhari
- Sefydlu’r Khalsa ym 1699 gan Guru Gobind Rai (a ddaeth yn Guru Gobind Singh)
- Y 5 K a’u symbolaeth fel mynegiant o hunaniaeth Sikh, e.e. Sarika Singh
- Dathliadau Vaisakhi
Cynnydd cam 4
- Yr egwyddor o gydraddoldeb, rhwng rhywiau, hiliau a dosbarthiadau cymdeithasol a sut y mynegir hyn drwy ddysgeidiaethau, straeon, arferion crefyddol a ffyrdd o fyw Sikhaidd
- Lleoedd pererindod, e.e. Harimandir Sahib
- Gurumurkh – byw bywyd â Duw yn ganolog iddo
- Y Guru Granth Sahib fel ffynhonnell doethineb ac awdurdod
- Anand karaj – priodas Sikhaidd, y seremoni ac ystyr a phwrpas priodas i Sikhiaid
- Gwerthoedd a moeseg mewn perthynas â’r byd naturiol a phethau byw
- Amrywiaeth yn ymarferol, e.e. barn ar wisgo’r 5 K, byw fel Sikh Khalsa, gwahanol safbwyntiau ynghylch materion megis llysieuaeth
Cynnydd cam 5
Dylid ei seilio’n fras ar fanylebau TGAU
Archwilio sut y gallai Sikhiaid gymhwyso eu credoau a’u gwerthoedd i gwestiynau sy’n gysylltiedig â dadleuon moesegol, er enghraifft, erthyliad, ewthanasia, rhyfel, hawliau anifeiliaid a’r amgylchedd, gan gyfeirio at ffynonellau doethineb ac awdurdod allweddol. Dylid annog dysgwyr i ymgysylltu â meddwl academaidd a chymhwyso eu gwybodaeth flaenorol i’r trafodaethau a dadleuon moesegol hyn
Unedau CGM a awgrymir/ ymholiadau enghreifftiol
Blwyddyn 2: Dathliadau/Gwyliau (Hindŵiaid, Cristnogion, Mwslimiaid)
Blwyddyn 3: Symbolau ffydd ac arwyddion o berthyn: Pam y maent yn bwysig? (Yn perthyn i Hindŵiaid, Cristnogion, Mwslimiaid)
Blwyddyn 7: Beth yw crefydd? A fydd crefyddau’n tyfu neu’n darfod yn y 50 mlynedd nesaf? (Hindŵaidd, Cristnogol, Mwslimaidd, Safbwyntiau Anghrefyddol)
Blwyddyn 9: A yw crefydd yn bŵer dros heddwch neu’n achos o wrthdaro? Safbwyntiau Cristnogol, Mwslimaidd a Sikh gan gyfeirio at Safbwyntiau Anghrefyddol.
Diweddbwynt – llythrennedd crefyddol
Y disgwyliad o fewn y maes llafur hwn yw y bydd disgyblion erbyn diwedd ysgol gynradd, wedi astudio amrywiaeth o gredoau a thraddodiadau crefyddol sy’n cynnwys ffyddau Abrahamig, traddodiadau Dharmig, argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol, yn ogystal ag argyhoeddiadau athronyddol. Dylai’r cwricwlwm a’r dewisiadau adlewyrchu traddodiadau’r ysgol, y gymuned leol a Chymru.
Safbwyntiau Anghrefyddol
Mae’r argymhellion hyn yn seiliedig ar Ddyneiddiaeth. Dylai’r rhai sy’n cynllunio cwricwlwm fod yn ymwybodol bod safbwyntiau anghrefyddol yn amrywiol a dylid ystyried dysgu amrywiaeth o safbwyntiau/argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol fel y nodir yng nghrynodeb deddfwriaethol Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd).
Mae'r canllawiau hefyd yn cyfeirio at anffyddiaeth, agnosticiaeth a sgeptigaeth, ond nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr.
Cynnydd cam 1
Dyneiddiaeth
- Beth yw Dyneiddiwr?
- Credoau Dyneiddiaeth o garedigrwydd a helpu ein gilydd.
- Archwilio sut gall ein gweithredoedd wneud i eraill deimlo.
- Y nod eithaf o hapusrwydd.
- Credoau cydraddoldeb ac amrywiaeth.
- Dechrau archwilio ein byd naturiol a’n cyfrifoldebau i ofalu amdano.
Cynnydd cam 2
- Hawliau dynol i bawb
- Y canolbwynt Dyneiddiaeth ar gyfrifoldeb personol.
- Cyfiawnder cymdeithasol i bawb.
- Amrywiaeth a goddefgarwch yn ein cymdeithas/ byd cyfoes.
- Ymreolaeth, moesoldeb a hunan-barch.
- Penderfynu beth sy’n gywir a beth sy’n anghywir – y Rheol Euraidd
Cynnydd cam 3
- Credoau Dyneiddiaeth am darddiad
- Cyfrifoldeb personol am stiwardiaeth a gofalu am y byd naturiol.
- Credoau Dyneiddiaeth o empathi, cydymdeimlad a rhyddid dewis a’r effaith ar ddewisiadau bywyd (gan ddefnyddio rhesymu a rhesymeg yn hytrach na dysgeidiaeth ac athrawiaeth)
- Pwysigrwydd bod yn chwilfrydig, y meddwl ymholi ac addysg i bawb
- Hapusrwydd unigol, dathlu a gwobrwyo.
- Anffyddiaeth a Dyneiddiaeth. Cydnabod arwydd y Dyneiddiwr Hapus
Cynnydd cam 4
Dyneiddiaeth
- Dealltwriaeth o le tystiolaeth sy’n seiliedig ar ffeithiau a chynnydd gwyddoniaeth yn ein hardal leol, yng Nghymru a’r byd.
- Mathau o anffyddiaeth, ‘yr anffyddwyr newydd’, gwrth-theistiaid
- Secwlariaeth, sgeptigaeth.
- Datblygu ein safbwynt personol ar faterion gwleidyddol a moesol cyfredol ar lefel lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
- Ymreolaeth foesegol a moeseg sefyllfa
- Anffyddwyr dylanwadol – Richard Dawkins, Stephen Fry
Cynnydd cam 5
Archwilio sut y gallai Dyneiddwyr gymhwyso eu credoau a’u gwerthoedd i gwestiynau sy’n gysylltiedig â dadleuon moesegol, er enghraifft, erthyliad, ewthanasia, rhyfel, hawliau anifeiliaid a’r amgylchedd.
Archwilio enghreifftiau pellach o safbwyntiau anghrefyddol (gweler chwith)
Unedau a awgrymir/ ymholiadau enghreifftiol
Blwyddyn 5: Gwerthoedd: beth sydd o’r pwys mwyaf i Ddyneiddwyr a Christnogion?
Blwyddyn 7: Beth yw crefydd? A fydd crefyddau’n tyfu neu’n darfod yn y 50 mlynedd nesaf? (Hindŵaidd, Cristnogol, Mwslimaidd, Safbwyntiau Anghrefyddol)
Blwyddyn 9: A yw crefydd yn bŵer dros heddwch neu’n achos o wrthdaro? Safbwyntiau Cristnogol, Mwslimaidd a Sikh gan gyfeirio at Safbwyntiau Anghrefyddol.
Diweddbwynt – llythrennedd crefyddol
Y disgwyliad o fewn y maes llafur hwn yw y bydd disgyblion erbyn diwedd ysgol gynradd, wedi astudio amrywiaeth o gredoau a thraddodiadau crefyddol sy’n cynnwys ffyddau Abrahamig, traddodiadau Dharmig, argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol, yn ogystal ag argyhoeddiadau athronyddol. Dylai’r cwricwlwm a’r dewisiadau adlewyrchu traddodiadau’r ysgol, y gymuned leol a Chymru.
Argyhoeddiadau Athronyddol
Mae’r argymhellion hyn yn seiliedig ar Feganiaeth Foesegol. Dylai’r rhai sy’n cynllunio cwricwlwm fod yn ymwybodol bod argyhoeddiadau athronyddol yn amrywiol a dylid ystyried dysgu amrywiaeth o argyhoeddiadau athronyddol fel y nodir yng nghrynodeb deddfwriaethol Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd). Mae'r canllawiau hefyd yn cyfeirio at heddychiaeth a gwrthwynebiad egwyddorol i wasanaeth milwrol, ond nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr.
Cynnydd cam 1
Feganiaeth Foesegol
- Beth yw fegan?
- Feganiaeth fel cred sy’n seiliedig ar arfer
- Credoau ynghylch peidio â niweidio anifeiliaid
- Dechrau archwilio ein cyfrifoldebau tuag at bethau byw
- Arfer Feganiaeth Foesegol gan y rhai sydd â ffydd
Cynnydd cam 2
- Beth yw ystyr feganiaeth foesegol?
- Sut y mae feganiaeth yn wahanol i feganiaeth foesegol?
- Y dewisiadau a wneir gan feganiaid moesegol.
- Feganiaeth foesegol fel ffordd o fyw.
- Penderfynu beth sy’n gywir a beth sy’n anghywir – y Rheol Euraidd. A yw’n berthnasol i bobl ac i anifeiliaid?
- Stiwardiaeth, arglwyddiaeth a pherthynas pobl ag anifeiliaid
Cynnydd cam 3
- Rhesymau dros feganiaeth – gwyddonol/ crefyddol/ moesegol.
- Twf feganiaeth foesegol ac ystyried y rhesymau dros y twf.
- Cywirdeb y portread o feganiaeth foesegol.
- Cred feganiaeth foesegol fod y rheol euraidd yn berthnasol i bob peth byw.
- Feganiaeth foesegol fel safbwynt.
Cynnydd cam 4
Feganiaeth Foesegol
- Dealltwriaeth o le feganiaeth foesegol yn ein hardal leol, yng Nghymru a’r byd.
- Datblygu ein safbwynt personol ar feganiaeth foesegol fel ffordd o fyw.
- Effaith byw bywyd fegan moesegol
- Archwilio dylanwad feganiaeth foesegol yn ein hardal leol, yng Nghymru a’r byd.
- Feganiaeth foesegol a’r ffyddau Abrahamig
- Feganiaeth foesegol a’r ffyddau Dharmig
- Feganiaid moesegol dylanwadol – Ellen DeGeneres, Joaquin Phoenix, Serena a Venus Williams
- Rhywogaethiaeth (Peter Singer) – pam bod rhai rhywogaethau’n cael eu trin yn wahanol i eraill, er gwaethaf patrymau deallusrwydd ac ymddygiad tebyg?
Cynnydd cam 5
Archwilio sut y gallai Feganiaid Moesegol gymhwyso eu credoau a’u gwerthoedd i gwestiynau sy’n gysylltiedig â dadleuon moesegol, er enghraifft, erthyliad, ewthanasia, rhyfel, hawliau anifeiliaid a’r amgylchedd.
Archwilio enghreifftiau pellach o argyhoeddiadau athronyddol (gweler chwith)
Unedau a awgrymir/ ymholiadau enghreifftiol
I ddilyn
Diweddbwynt – llythrennedd crefyddol
Y disgwyliad o fewn y maes llafur hwn yw y bydd disgyblion erbyn diwedd ysgol gynradd, wedi astudio amrywiaeth o gredoau a thraddodiadau crefyddol sy’n cynnwys ffyddau Abrahamig, traddodiadau Dharmig, argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol, yn ogystal ag argyhoeddiadau athronyddol. Dylai’r cwricwlwm a’r dewisiadau adlewyrchu traddodiadau’r ysgol, y gymuned leol a Chymru
Gwerthoedd a Moeseg
Mae gwerthoedd a moeseg yn sail i’r holl syniadau a gwybodaeth allweddol a nodwyd fel argymhellion. Ni fwriedir i'r crynodeb hwn gael ei ddefnyddio fel uned waith ar wahân, dim ond fel pwynt cyfeirio i’r rhai sy’n cynllunio cwricwlwm CGM ei gyfeirio ato fel enghreifftiau o ffyrdd y byddai dysgwyr yn gwneud cynnydd mewn gwerthoedd a moeseg.
Cynnydd cam 1 (5 oed)
Pa bethau sydd gan ddisgyblion yn eu bywydau sy’n bwysig?
pa fath o bethau efallai gwnânt i ddangos eu bod yn bwysig?
Cynnydd cam 2 (8 oed)
A oes gan ddisgyblion y geiriau i fynegi eu gwerthoedd?
A all disgyblion adnabod ac adfyfyrio ar werthoedd pobl eraill?
Cynnydd cam 3 (11 oed)
Hanes gwerthoedd
A all disgyblion adnabod bod gwerthoedd eu hysgolion yn deillio o werthoedd Cristnogol?
Sut y gallai’r rhain fod yn wahanol i werthoedd Mwslimaidd/ Hindŵaidd/ Dyneiddiol?
A all disgyblion ddarllen ac adfyfyrio ar werthoedd a gwybod pa bethau sydd wedi dylanwadu’r gwerthoedd hyn?
A all disgyblion adnabod bod Cristnogaeth wedi llunio gwerthoedd Cymru heddiw?
Cynnydd cam 4 (14 oed)
Materion astudiaethau achos i archwilio gwerthoedd a moeseg, er enghraifft
ecolegol/ feganiaeth/ rhyddid i siarad/ hunaniaeth/ rhywedd/ ffeministiaeth. CGM gorfodol yn yr ysgol.
A all disgyblion adfyfyrio ar faterion moesegol o gefndir crefydd0l/ anghrefyddol gwahanol?
A all disgyblion ddadlau achos moesegol?
Cynnydd cam 5 (16 oed)
Cwestiynau athronyddol
A yw moeseg bob tro yn oddrychol?
A yw’n bosib cael moeseg wrthrychol?
Beth yw moeseg?
A oes angen Duw er mwyn bod yn foesegol?
Perthynolaeth foesol ac absoliwtiaeth foesol
Profiadau Taith ddysgu Is-lens
Dylai gwerthoedd a moeseg gael eu hymgorffori i’r teithiau dysgu CGM (gweler y canllawiau) ac/ neu i’r unedau a awgrymir/ ymholiadau enghreifftiol (gweler yr atodiad)
Diweddbwynt – llythrennedd crefyddol
Dylai dysgwyr gael cyfleoedd i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o grefyddau, ac argyhoeddiadau athronyddol a gallu cynnal sgyrsiau a thrafodaethau cytbwys a gwybodus. Bydd disgyblion sy’n grefyddol lythrennog wedi’u galluogi i gymryd eu lle’n hyderus o fewn ein cymdeithas aml-grefyddol ac aml-seciwlar amrywiol, byddant yn gallu meddwl yn annibynnol, bod yn adfyfyriol a gallu gwerthuso’n deg ac yn feirniadol.