CYSAG

CGM rhwng 14 ac 16 oed a 16 ac 19 oed

CGM rhwng 14 ac 16 oed

Mae CGM yn fandadol ar gyfer pob dysgwr rhwng 3 a 16 oed. Rhaid cynnig darpariaeth CGM ym mlwyddyn 10 ac 11 i alluogi dysgwyr i ddatblygu llythrennedd crefyddol digonol er mwyn cyflawni pedwar diben y cwricwlwm. Er nad oes gofyniad cyfreithiol i sefyll arholiad cyhoeddus na dilyn cwrs CGM allanol, dylai disgyblion gael y cyfle, cyn belled ag y bo modd, i gael yr hyn a ddysgwyd yn CGM wedi’i achredu. Byddai cymhwyster TGAU CBAC yn bodloni dibenion y cwricwlwm yn ogystal â sicrhau bod disgyblion yn cael cyfleoedd i ddatblygu eu llythrennedd crefyddol drwy dderbyn CGM gwrthrychol, beirniadol a phlwraliaethol. Os defnyddir darpariaeth amgen ym mlwyddyn 10 ac 11, rhaid cymryd gofal i sicrhau bod y cwricwlwm yn cyflawni’r pedwar diben, y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig a’i fod yn darparu CGM sy’n wrthrychol, beirniadol a phlwraliaethol.

CGM rhwng 16 a 19 oed

Nid yw Adran 61 o’r Ddeddf  yn atal ysgol rhag gosod gofyniad i bob dysgwr yn ei chweched dosbarth gymryd dosbarthiadau CGM gorfodol; ac nid yw ychwaith yn atal ysgol sy’n mabwysiadu’r drefn hon rhag darparu CGM chweched dosbarth gorfodol sy’n cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu ddaliadau ei chrefydd neu ei henwad crefyddol (“CGM enwadol”). Mae cynnwys CGM enwadol o’r fath yn parhau i fod yn fater i’r ysgol gyda’r cwricwlwm wedi’i gynllunio yn unol â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu ddaliadau ei chrefydd.

Lle darperir CGM, dylid cynllunio’r cwricwlwm i fwyhau ac ehangu’r cyfleoedd addysgol a dysgu i bob myfyriwr. Byddai amrywiaeth o gyfleoedd o fudd i’r ddarpariaeth astudiaeth ôl-16, gan ddibynnu ar anghenion a gofynion yr ysgol. Dylid cynnig cwrs achrededig, megis Astudiaethau Crefyddol UG a Safon Uwch. Dylai myfyrwyr gael y cyfle i gyd-awduro eu dysgu eu hunain a allai cwmpasu crefydd ac argyhoeddiadau/safbwyntiau athronyddol, ochr yn ochr ag ymgysylltu â phynciau moesegol ac athronyddol. Gellir eu cyflwyno drwy gyfrwng gwersi wedi’u hamserlennu, cynadleddau, gweithgareddau cyfoethogi neu brosiectau.

 

ID: 9397, adolygwyd 31/10/2024