CYSAG

CGM rhwng 3 ac 16 oed

 Yr hyn sy'n bwysig yn y Dyniaethau

Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig o fewn MDPh y Dyniaethau (yn agor mewn tab newydd) yn fandadol a rhaid eu hymgorffori nid yn unig o fewn cynllun y cwricwlwm ar gyfer CGM a’r Dyniaethau ond hefyd o fewn y cyfleoedd a’r profiadau addysg a dysgu a ddatblygir ar gyfer dysgwyr. 

  1. Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
  2. Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
  3. Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol.
  4. Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.
  5. Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.

Cynllunio cwricwlwm gwrthrychol, beirniadol a phlwraliaethol

Rhaid i gynllun y cwricwlwm CGM fod yn unol â’r ddeddfwriaeth, a dylai ystyried canllawiau CGM Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd) yn ogystal â’r Maes Llafur Cytunedig Sir Benfro hwn.

Er mwyn sicrhau bod ein dysgwyr yn datblygu llythrennedd crefyddol ac yn tyfu i fod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus o Sir Benfro, Cymru a’r byd, dylai bod ganddynt fynediad at wybodaeth a sgiliau craidd fel y nodir yn y tablau cryno. Datblygwyd y rhain i sicrhau y gall ysgolion gynllunio eu cwricwla CGM i ganiatáu dysgu sbiral a chyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu mewn modd systematig eu sgema eu hunain. Bydd gan ysgolion gyfrifolaeth o ran cynnwys y wybodaeth graidd yng nghynllun eu cwricwlwm ac yn eu cynlluniau.

I gefnogi’r broses o gynllunio’r cwricwlwm, dylai ysgolion a lleoliadau ystyried y pwyntiau canlynol wrth gynllunio eu cwricwlwm ar gyfer CGM.

  • Dylai CGM rhagorol fod yn cynnwys argyhoeddiadau/safbwyntiau crefyddol ynghyd â rhai athronyddol anghrefyddol a rhaid iddynt gael eu cynrychioli mewn modd teg a chywir.
  • Mae cyd-destun lleol yn bwysig yn CGM. Mae hyn yn cynnwys cyd-destun yr ysgol a’r ardal leol yn ogystal â gwybodaeth a phrofiad disgyblion ac athrawon. Mae gan ysgolion gyfrifolaeth h.y. y rhyddid i wneud dewisiadau cwricwlwm yn unol â’u lleoliad penodol.
  • Bydd CGM rhagorol wedi’i ddilyniannu ar draws pob cyfnod ysgol er mwyn caniatáu i ddysgwyr wneud cynnydd cyson drwy gydol eu hamser yn yr ysgol.

Syniadau allweddol a argymhellir a thablau cryno gwybodaeth

Dylid defnyddio’r syniadau allweddol a argymhellir a’r tablau cryno gwybodaeth ochr yn ochr â phedwar diben y cwricwlwm a datganiadau o’r hyn sy’n bwysig y Dyniaethau i greu’r cwricwlwm CGM. Bydd y wybodaeth graidd, alluogi hon nid yn unig yn datblygu llythrennedd crefyddol yn ein dysgwyr, ond bydd hefyd yn eu cefnogi i ddod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus o sir Benfro, Cymru a’r byd.

Mae’r argymhellion ar syniadau a gwybodaeth allweddol wedi’u cadw i’r nifer lleiaf posibl er mwyn caniatáu i ysgolion gynllunio eu cwricwlwm CGM eu hunain, sy’n gweddu i’w cyd-destun ac sy’n bodloni anghenion eu dysgwyr, ac yn sicrhau dealltwriaeth drylwyr o gysyniadau, dysgeidiaethau, credoau ac arferion crefyddol ac anghrefyddol. Nid yw’r syniadau allweddol a argymhellir a’r tablau cryno gwybodaeth wedi’u cynllunio i'w defnyddio fel cynllun gwaith cyflawn neu rannol, dim ond fel pwynt cyfeirio i gyfeirio ato wrth gynllunio’r cwricwlwm CGM. Bydd hyn yn sicrhau bod disgyblion yn cael mynediad at wybodaeth grefyddol gyfoethog a phwerus. Gall ysgolion arfer cyfrifolaeth a chreu eu syniadau a’u gwybodaeth allweddol eu hunain yn seiliedig ar eu cwricwlwm eu hunain a gynlluniwyd ar gyfer CGM. Pan fydd hyn yn digwydd, rhaid i ysgolion sicrhau bod y wybodaeth graidd yn cael ei chyflwyno gydag o leiaf yr un trylwyredd academaidd â’r rhai a argymhellir yma.

  • Mae llythrennedd crefyddol yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr allu bodloni pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru, a chyda hyn mewn golwg, mae’r disgwyliadau canlynol felly yn rhan annatod o’r maes llafur hwn. Erbyn iddynt gyrraedd 14 oed, byddai dysgwyr wedi datblygu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth o amrywiaeth eang o grefyddau a chredoau sy’n cwmpasu’r ffyddau Abrahamig a’r traddodiadau Dharmig yn ogystal â mathau eraill o gredoau crefyddol, yn enwedig y rhai sy’n berthnasol i gymunedau Sir Benfro.
  • Amrywiaeth o safbwyntiau/argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yn ogystal ag argyhoeddiadau athronyddol.

Dylai’r cwricwlwm a’r dewisiadau a wneir adlewyrchu traddodiadau’r ysgol, y gymuned leol a Chymru, tra hefyd yn ystyried y byd yn ehangach yn ogystal. Gweler pwynt 1o am grynodeb deddfwriaethol.

Gan fod gan y Cwricwlwm i Gymru ddisgwyliadau sy’n gysylltiedig â chyfnodau, yn hytrach nag oedran, bydd cwricwlwm pob ysgol yn gwbl gynhwysol (yn seiliedig ar ganllawiau CGM Llywodraeth Cymru yn ogystal â’r Maes Llafur Cytunedig hwn).  Rhaid i’r cwricwlwm gael ei gynllunio i sicrhau bod disgyblion yn derbyn profiadau dysgu CGM cyfoethog a chadarn sy’n caniatáu pob disgybl i wneud cynnydd drwy gwricwlwm sbiral 3-16. 

Disgwylir i athrawon ar draws y sectorau cynradd ac uwchradd gydweithio a chyd-awduro’r hawl hon i ddilyniant mewn dysgu ar gyfer pob disgybl. 

Nodir syniadau a gwybodaeth allweddol ar gyfer Cristnogaeth, pum prif grefydd Bwdhaeth, Hindŵaeth, Islam, Iddewiaeth a Sikhiaeth, un argyhoeddiad athronyddol anghrefyddol (Dyneiddiaeth) ac un argyhoeddiad athronyddol (Feganiaeth Foesegol) yn ogystal â Gwerthoedd a Moeseg. Nid yw hyn yn atal unrhyw grefyddau neu argyhoeddiadau athronyddol eraill rhag cael eu hastudio.

Ochr yn ochr â dogfennau Cwricwlwm i Gymru,  bydd y syniadau allweddol a’r tablau cryno gwybodaeth yn cynnig sylfaen i ysgolion ac ymarferwyr lunio a datblygu eu cwricwlwm CGM gwrthrychol, beirniadol a phlwraliaethol, a’u cynlluniau dysgu.

 

ID: 9369, adolygwyd 19/09/2024