CYSAG
Cyflwyniad i CYSAG
Rôl a chyfansoddiad CYSAG
Pwrpas CYSAG yw cynghori'r awdurdod lleol ar faterion sy'n ymwneud ag addysg grefyddol ac addoli ar y cyd mewn ysgolion a gynhelir gan y wladwriaeth.
Cyfansoddiad CYSAG
Yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am gyfansoddiad CYSAG.
Mae tri grŵp yn rhan o CYSAG:
- Cynrychiolwyr enwadau Cristnogol a chrefyddau eraill i adlewyrchu'n fras gryfder cyfathebol yr enwadau neu'r crefyddau hynny yn yr ardal.
- Cymdeithasau sy'n cynrychioli athrawon.
- Cynrychiolwyr awdurdodau lleol.
Gall CYSAG gyfethol aelodau ychwanegol heb bleidlais yn unol â'r cyfansoddiad.
Rôl CYSAG
Cynghori'r awdurdod ynghylch addysg grefyddol a chyd-addoli.
- bodloni a monitro gofynion statudol
- y ffordd orau o gyflwyno'r maes llafur cytunedig ar gyfer addysg grefyddol
- dulliau addysgu
- adnoddau i'w defyddio
- hyffordi athrawon.
Gofyn i'r awdurdod lleol adolygu ei faes llafur cytunedig ar gyfer addysg grefyddol.
- Gofyniad cyfreithiol i bob awdurdod lleol adolygu ei faes llafur cytunedig o fewn pum mlynedd o'r adolygiad diwethaf.
- Bydd pob maes llafur cytûn yn 'adlewyrchu'r ffaith bod traddodiadau crefyddol Prydain, ar y cyfan, yn rhai Cristnogol ond bydd yn rhoi sylw i ddysgeidiaeth ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir ym Mhrydain Fawr'.
Ystyried ceisiadau gan ysgolion ar gyfer dyfarniadau
- Ceisiadau i gael eu heithrio o 'addoli Cristnogol ar y cyfan' yw dyfarniadau.
Ystyried cwynion am ddarpariaeth a chyflwyniad addysg grefyddol a chyd-addoli.
- Chwarae rhan yn y broses gwynion statudol leol, lle caiff achosion eu cyfeirio i CYSAG gan yr awdurdod lleol.
Cyhoeddi adroddiad blynyddol am ei waith
- Cyflwynir hwn i AdAS Llywodraeth Cymru erbyn 31 Rhagfyr bob blwyddyn.
Cyfrifoldebau'r awdurdod lleol mewn perthynas â CYSAG
- Sefydlu ac ariannu CYSAG.
- Penodi aelodau CYSAG a'r Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig.
- Nodi a darparu'r cyngor a'r gefnogaeth y mae eu hangen ar CYSAG.
- hysbysu CYSAG ynghylch materion sy'n berthnasol i addysg grefyddol a chyd-addoli.
- Darparu gwybodaeth am arolygiadau ysgolion ac/neu adroddiadau hunanwerthuso.
- Ymateb i gyngor a gynigir gan CYSAG.
- Sefydlu a chynnal cynadleddau maes llafur cytunedig pan gofynnir amdanynt gan CYSAG.
- Hysbysu'r Gweinidog Addysg pan cytunir ar faes llafur newydd.
- Ystyried cwynion am gwricwlwm addysg grefyddol a chyd-addoli.
Acronymau
CYSAG (Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol)
CCYSAGC (Cymdeithas CYSAGau Cymru)
AdAS (Yr Adran Addysg a Sgiliau)
Estyn (Gwasanaeth Arolygu Ysgolion Cymru)
PYCAG (Y Panel Ymgynghorol Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol)
Deddfwriaeth
Rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru fabwysiadu maes llafur Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg i'w ddefnyddio yn yr ysgolion a gynhelir ganddynt.
Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (legislation.gov.uk)
Amlinellir y diffiniad o faes llafur cytunedig yn Neddf Addysg 1996.
Deddf Addysg 1996 (legislation.gov.uk)
Gellir dod o hyd i ganllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg Llywodraeth Cymru yma:
Maes Llafur Cytunedig Sir Benfro ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
Rhagymadrodd – Cyfarwyddwr Addysg
Mae’n bleser gennyf gyflwyno Maes Llafur Cytunedig Sir Benfro ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) i gefnogi datblygiad cwricwlwm plwraliaethol, beirniadol a gwrthrychol i bob ysgol. Yn ddiau, bydd CGM o ansawdd uchel yn chwarae rhan bwysig mewn gwireddu’r pedwar diben a gwn y bydd ysgolion yn ymwybodol o’u dyletswyddau yn unol â deddfwriaeth a hawliau dysgwyr a ddisgrifir yn y maes llafur hwn.
Bydd angen i ni werthuso pa mor dda y mae’r maes llafur hwn yn cefnogi ysgolion i gyflawni’r disgwyliadau hyn, a’i addasu yn ôl yr angen. Bydd cymorth dysgu proffesiynol parhaus yn cael ei lywio gan farn ac awgrymiadau ysgolion. Gofynnaf fod ysgolion yn gwneud defnydd da o’r ystod o sianeli cyfathrebu sydd ar gael er mwyn sicrhau bod eu lleisiau yn llywio ein cynllunio a’n cymorth. Mae hyn yn cynnwys cysylltu â Chyngor Ymgynghorol Sefydlog ar CGM (CYSCGM) Sir Benfro sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol i fonitro ansawdd darpariaeth a safonau CGM o fewn y sir, a darparu cyngor ac arweiniad.
Gofynnaf i bob pennaeth ysgol gynnwys gwerthusiad byr yn eu hadroddiadau tymhorol i lywodraethwyr ar gynnydd eu hysgolion o ran CGM, gan gynnwys datgan a fyddai unrhyw gymorth ychwanegol yn ddefnyddiol. Bydd hyn yn galluogi CYSCGM i gynnal trosolwg o gynnydd a darparu’r lefel cymorth angenrheidiol. Bydd o ddefnydd mawr pe bai ysgolion yn gallu rhannu enghreifftiau o’u harfer cryfaf o ran CGM a’i effaith ar ddysgwyr, fel y gall CYSCGM arddangos y gwaith hwn a’i rannu gydag eraill er mwyn ysgogi meddwl. Rydym yn rhagweld adolygu’r maes llafur hwn yn 2023, yn dilyn adborth gan bob ysgol.
Edrychaf ymlaen at glywed am ystod amrywiol o brofiadau dysgu deinamig ac ystyrlon sy’n galluogi dysgwyr o bob oedran i ddeall ein byd yn well a’i wneud yn lle gwell fyth.
Steven Richards-Downes
Cyfarwyddwr Addysg
Rhagair gan cyscgm sir benfro
CGM o fewn y Cwricwlwm i Gymru
Gofynion cyfreithiol
Canllawiau cgm llywodraeth cymru
Cyfrifiad 2011
Cyd awduror maes llafur cytunedig
Nodau cgm
Canllawiau awgrymedig ar ddyrannu amser
Amcanion y maes llafur cytunedig
Addysgu a dysgu yn cgm
Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg Manylion Cyswllt
Clerc y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg:
Lydia Cheshire; Lydia.Cheshire@pembrokeshire.gov.uk
Cyswllt Awdurdod Lleol: Sian Rowles; RowlesS5@Hwbcymru.net
Cynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg:
Jennifer Harding-Richards; Jennifer.Harding-Richards@swansea.gov.uk