CYSAG
Cyfansoddiad CYSAG Sir Benfro
Cyflwyniad
Yn unol â Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, Deddf Addysg 1996 a Chylchlythyr Swyddfa Cymru 10/94, mae dyletswydd ar bob Awdurdod Lleol i gynnull Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG). Er ei bod yn ofynnol yn gyfreithiol bod Addysg Grefyddol yn cael ei haddysgu mewn ysgolion i’r holl blant hyd at 18 oed, cyfrifoldeb lleol yw AG, ynghyd ag Addoli ar y Cyd. Felly, cefnogi AG ac Addoli ar y Cyd yn Sir Benfro yw prif swyddogaeth CYSAG Sir Benfro.
Swyddogaethau a Chyfrifoldebau
Caiff prif swyddogaethau a chyfrifoldebau’r CYSAG eu nodi yn Neddf Addysg 1996 (adran 391) a Chylchlythyr 10/94
- Cynghori’r ALl ar faterion sy’n gysylltiedig ag addoli crefyddol mewn ysgolion cymunedol neu mewn ysgolion sefydledig nad oes ganddynt gymeriad crefyddol a bod addysg grefyddol yn cael ei rhoi yn unol â maes llafur cytunedig. Hefyd, cynghori ar ddulliau addysgu, y dewis o ddeunyddiau a darparu hyfforddiant i athrawon.
- Rhoi cymorth i ddarparu AG ac addoli ar y cyd yn effeithiol mewn ysgolion ac ystyried a oes angen gwneud unrhyw newidiadau yn neu i’r maes llafur cytunedig neu yn y cymorth a gynigir i ysgolion.
- Monitro’r ddarpariaeth feunyddiol o ran addoli ar y cyd ac ystyried gyda hynny unrhyw gamau gweithredu y gellir eu cymryd i wella darpariaeth o’r fath.
- Penderfynu, ar gais Pennaeth ysgol gymunedol neu sefydledig nad yw wedi’i bwriadu fel un sydd â chymeriad crefyddol, pa un a gaiff y gofyniad ar gyfer addoli ar y cyd Cristnogol ei godi, yn llwyr neu’n rhannol, yn yr ysgol honno.
- Ei gwneud yn ofynnol i’r ALl gynnull cynhadledd maes llafur cytunedig i lunio ac argymell maes llafur cytunedig ar gyfer AG sy’n ateb gofynion Deddf Addysg 1996 yn llawn ac sy’n gadarn yn addysgol (paragraffau 31-37).
- Cyhoeddi adroddiad blynyddol ar waith y CYSAG yn y flwyddyn flaenorol, gan gynnwys unrhyw gamau gweithredu y mae wedi’u cymryd, gan fanylu ar unrhyw gyngor y mae wedi’i roi i’r ALl, gan gynnwys natur y cyngor hwnnw a’r sail resymegol dros ei roi.
- Yn unol â darpariaethau adran 391 (10) Deddf Addysg 1996, rhaid anfon copi o’r adroddiad blynyddol at Lywodraeth Cymru erbyn 30 Rhagfyr bob blwyddyn. Hefyd, dylid anfon yr adroddiad at ysgolion a sefydliadau hyfforddi athrawon, yn ogystal â threfnu ei fod yn hygyrch i aelodau’r cyhoedd.
- Adolygu gwybodaeth am ysgolion yn dilyn arolygiad gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (ESTYN).
- Cynghori’r ALl ar faterion sydd heb eu cyfeirio at y CYSAG, ond sy’n gysylltiedig â dyletswyddau a swyddogaethau’r CYSAG.
- Ystyried unrhyw faterion a gyfeirir atynt gan yr ALl.
Aelodaeth
Bydd CYSAG Sir Benfro’n cael ei gynrychioli gan aelodau’r gymuned sy’n gallu rhoi cymorth llawn i ddarparu AG ac Addoli ar y Cyd yn effeithiol. Penodir yr holl aelodau gan Gyngor Sir Penfro i gynrychioli’r grwpiau canlynol:
Grŵp A: Yn cynrychioli enwadau crefyddol ac argyhoeddiadau athronyddol yn Sir Benfro
Ar sail enwebiad, y canlynol:
- Tri aelod i gynrychioli’r Eglwys yng Nghymru
- Tri aelod i gynrychioli’r Eglwys Babyddol
- Tri aelod o’r Eglwysi anghydffurfiol
- Un aelod o’r gymuned Fwslimaidd
- Un aelod o’r gymuned Fwdhaidd
- Un aelod o Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf
- Un aelod o’r gymuned Hindŵaidd
- Un aelod o’r gymuned Ddyneiddiol
- Un aelod o gymuned Tystion Jehofa
- Un aelod o’r gymuned Iddewig
- Un aelod o’r gymuned Sicaidd
- Dau aelod o’r gymuned athronyddol, anghrefyddol
Grŵp B: Yn cynrychioli cymdeithasau athrawon
Bydd yr undebau athrawon canlynol yn cael eu cynrychioli, hyd y gellir, i adlewyrchu’r amrywiaeth o fewn y gymuned addysgu:
- NAHT
- NASUWT
- NEU
- SHA
- UCAC
- UCU
- VOICE
Grwpiau C: Yn cynrychioli’r ALl
Bydd y grŵp hwn yn cynnwys grŵp o hyd at saith aelod etholedig a enwebwyd gan y pleidiau gwleidyddol a gynrychiolir ar y Cyngor. Hefyd yn bresennol bydd un o uwch swyddogion yr ALl a’r Ymgynghorydd AG.
- Saith cynrychiolydd o Gyngor Sir Penfro
- Uwch Swyddog yr Awdurdod Lleol
- Ymgynghorydd AG
- Swyddog Cydlyniant Cymunedol
- Clerc y CYSAG (nad yw’n pleidleisio)
Aelodau cyfetholedig
Gall aelodau’r CYSAG benodi hyd at dri aelod cyfetholedig i’w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau.
Amodau Gwaith
Penodi’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd
Bydd y cadeirydd a’r is-gadeirydd yn cael eu henwebu yn CCB yr Hydref, neu unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn os daw’r swydd yn wag. Fel arfer, bydd y cadeirydd a’r is-gadeirydd yn eu swyddi am ddwy flynedd.
Lle y bo’n bosibl, bydd y cadeirydd a’r is-gadeirydd yn cynrychioli pwyllgorau gwahanol o’r CYSAG.
Lle mae angen pleidlais ar gyfer enwebiadau i swyddi’r cadeirydd a’r is-cadeirydd, bydd pob grŵp pwyllgor yn cael un bleidlais.
Cyfrifoldebau’r Cadeirydd:
- Arwain a rheoli’r cyfarfodydd
- Cynrychioli’r CYSAG ar gyrff eraill fel y bo’n ofynnol
- Dyletswyddau eraill fel y bo’n ofynnol gan y CYSAG.
Cyfrifoldebau’r Is-Gadeirydd:
- Dirprwyo ar ran y Cadeirydd fel y bo’n ofynnol
- Cynrychioli’r CYSAG ar gyrff eraill, ar y cyd â’r Cadeirydd
- Dyletswyddau eraill fel y bo’n ofynnol gan y CYSAG.
Cworwm
Dylai’r cworwm ar gyfer y cyfarfod fod yn un rhan o dair o gyfanswm yr aelodaeth. Lle mae’n ofynnol pleidleisio mewn cyfarfodydd, ceir gofyniad bod o leiaf un o bob un o’r grwpiau’n bresennol.
Swyddog yr Awdurdod Lleol
Bydd y CYSAG yn cael ei wasanaethu gan un o uwch swyddogion yr ALl. Bydd yn:
- Mynychu holl gyfarfodydd y CYSAG a CMLlC
- Cynrychioli barn yr ALl yn y cyfarfodydd hyn
- Rhoi gwybodaeth a chymorth angenrheidiol i’r Ymgynghorydd AG mewn perthynas â AG ac Addoli ar y Cyd
- Sicrhau bod digon o arian yn cael ei ddarparu ar gyfer y CYSAG i gyflawni ei ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau.
Yr Ymgynghorydd AG
Bydd y CYSAG yn cael ei wasanaethu gan Ymgynghorydd AG. Bydd yn:
- Mynychu holl gyfarfodydd y CYSAG a CMLlC, gan gefnogi’r CYSAG gyda’i ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau
- Gweithio gyda’r Cadeirydd, y Clerc a Swyddog yr ALl i baratoi agenda’r CYSAG ac unrhyw adroddiadau, papurau neu gyngor sy’n ofynnol
- Adrodd wrth y CYSAG ar waith a gwblhawyd ar ran y CYSAG
- Darparu arbenigedd a chyngor ym meysydd AG ac Addoli ar y Cyd.
Clerc y CYSAG
Bydd yr ALl yn penodi, ariannu a goruchwylio clerc y CYSAG i:
- Fynychu’r holl gyfarfodydd sy’n gysylltiedig â’r CYSAG, gan gynnwys CMLlC
- Cymryd cofnodion yn holl gyfarfodydd y CYSAG a CMLlC
- Darparu copïau o’r agenda, cofnodion a phapurau ychwanegol ar gyfer holl aelodau’r CYSAG
- Cadw a diweddaru holl gofnodion y CYSAG
- Unrhyw ddyletswyddau gweinyddol ychwanegol eraill fel a ofynnir.
Siaradwyr Arbenigol/ Gwesteion
Gall y CYSAG ofyn am bresenoldeb siaradwr arbenigol, nad yw’n aelod o’r CYSAG, i gyfranogi yng nghyfarfodydd y CYSAG. Yn yr un modd, gall unrhyw un o’r grwpiau cynrychiolaidd ofyn am bresenoldeb siaradwr arbenigol, nad yw’n aelod o’r CYSAG, i gyfranogi mewn trafodaethau penodol yn y CYSAG. Byddai eu presenoldeb yn gyfyngedig i’r amser y byddai’r eitem yn cael ei hystyried. Rhaid cyflwyno cais o’r fath trwy glerc y CYSAG, gan roi rhybudd o 7 niwrnod gwaith o leiaf.
Cyfnodau yn y Swydd
Bydd y CYSAG yn adolygu ei aelodaeth yn flynyddol yn y CCB yn yr hydref. Byddai penodiadau i’r CYSAG am gyfnod o bum mlynedd fel rheol ond gall grwpiau cynrychiolaidd ail-enwebu aelodau. Bydd aelodau a etholwyd gan yr ALl yn gwasanaethu am gyfnod o un flwyddyn i ddechrau.
Diwedd Aelodaeth
Bydd hyn yn cael ei ysgogi am un (neu fwy) o’r rhesymau canlynol:
- Mae’r aelod yn cyrraedd diwedd y cyfnod ac nid yw wedi cael ei ail-enwebu;
- Mae’r aelod yn ysgrifennu at glerc y CYSAG i ymddiswyddo;
- Penodwyd yr aelod yn rhinwedd ei swydd ac nid yw’n dal y swydd honno mwyach
- Mae’r aelod yn methu â mynychu tri chyfarfod o’r bron, heb amgylchiadau eithriadol.
Aelodau Cyfetholedig
Mae’r CYSAG yn gallu cyfethol aelodau ychwanegol os ydynt yn teimlo bod gan ymgeisydd ddigon o brofiad o faes AG/ Addoli ar y Cyd a fyddai o fudd uniongyrchol i’r CYSAG. Gall aelodau cyfetholedig gymryd rhan yn yr holl drafodaethau ond nid ydynt yn perthyn i unrhyw un o’r grwpiau cynrychiolaidd ac felly nid oes hawl ganddynt i bleidleisio.
Cyfarfodydd
- Bydd y CYSAG yn cwrdd yn dymhorol ac ar adegau eraill yn ôl yr angen.
- Gall amseroedd cyfarfodydd y CYSAG amrywio i roi anogaeth ar gyfer aelodaeth lawn. Fel rheol byddant yn cael eu cynnal o 4-5:30pm ond bydd hyn yn newid os oes angen.
- Bydd clerc y CYSAG yn rhannu’r agenda a’r holl bapurau perthnasol o leiaf un wythnos cyn y cyfarfod.
- Bydd rhybudd cyhoeddus o gyfarfodydd y CYSAG a CMLlC yn cael ei roi a bydd cyfarfodydd yn agored i aelodau’r cyhoedd, oni bai y teimlwyd ei bod yn briodol i’r cyfarfod fod yn un preifat. Dylid trefnu bod yr holl ddogfennau ar gael i aelodau’r cyhoedd.
Gweithdrefnau Pleidleisio
Byddai o fudd i drafodion y CYSAG pe cytunid, wrth bleidleisio, bod consensws yn cael ei fabwysiadu. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosibl, bydd yr holl grwpiau cynrychiolaidd yn penderfynu, gan gwrdd ar wahân os oes angen, sut i fwrw eu pleidlais unigol. Nid oes pleidlais gan aelodau cyfetholedig.
Dilysrwydd Trafodion
Ni fydd y canlynol yn effeithio ar ddilysrwydd trafodion y CYSAG nac unrhyw grŵp cynrychiolaidd o fewn y CYSAG:
- Unrhyw le gwag yn aelodaeth y CYSAG neu yn aelodaeth grŵp cynrychiolaidd
- Bod aelod o’r CYSAG a benodwyd i gynrychioli unrhyw enwad neu gymdeithas, ar adeg y trafodion, ddim yn cynrychioli’r enwad neu’r gymdeithas.
Penodiadau i Leoedd Gwag ar y CYSAG
Os bydd lle gwag ar y CYSAG, dylai clerc y CYSAG:
- Hysbysu’r grŵp cynrychiolaidd ynghylch y lle gwag a’u gwahodd i enwebu rhywun yn lle’r aelod
- Cyfeirio unrhyw enwebiad at y CYSAG ar gyfer trafodaeth
- Hysbysu uwch swyddog yr ALl ynghylch yr argymhelliad i gael ei gadarnhau gan yr ALl
- Cadarnhau penodiad yr enwebai fel aelod o’r CYSAG.
Hyd y gellir, dylai’r cynrychiolydd gael ei enwebu o’r grŵp ffydd neu gred lleol. Os nad yw hyn yn bosibl, gallai cynrychiolwyr gael eu henwebu o’r tu allan i’r ALl.
Dylai unigolion a enwebwyd i fod yn aelodau cynrychiolaidd o Grŵp A ateb y gofynion canlynol:
- Dylai’r unigolyn ysgrifennu llythyr/ e-bost at y clerc yn mynegi ei ddiddordeb mewn addysg yng Nghymru ac yn amlinellu ei resymau dros fod eisiau ymuno â CYSAG Sir Benfro.
- Dylai’r unigolyn allu dangos cysylltiad â Sir Benfro.
- Ni fydd angen geirda ar aelodau newydd, ond mae angen datganiad gan eu sefydliad yn y llythyr sy’n dweud na wyddant am unrhyw reswm a fyddai’n peryglu eu swydd fel aelod posibl o’r CYSAG.
- Byddir yn gofyn i aelodau posibl gadarnhau yn ysgrifenedig eu bod yn cytuno ac yn cefnogi dyletswyddau statudol y CYSAG fel a nodir yn Neddf Addysg 1996 ac yn y cyfansoddiad hwn.
Yn niffyg unrhyw enwebeion o’r grŵp cynrychiolaidd, gall yr ALl enwebu a phenodi person sy’n cynrychioli’r grŵp hwnnw yn eu tyb hwy ac y maent hwy’n ystyried ei fod yn briodol i lenwi’r lle gwag hwnnw.
Cynnull Cynhadledd y Maes Llafur Cytunedig
Rhaid i’r maes llafur y cytunwyd arno’n lleol gael ei adolygu bob pum mlynedd. Bydd cynhadledd y maes llafur cytunedig (CMLlC) yn cael ei chynnull i adolygu’r maes llafur cytunedig o leiaf bob pum mlynedd, ac yn amlach os oes angen.
Bydd y gynhadledd yn adlewyrchu aelodaeth yr holl grwpiau. Gall aelodau cyfetholedig gyfranogi yng nghynadleddau’r maes llafur cytunedig ond ni allant bleidleisio yn ystod trafodion. Bydd un bleidlais yn cael ei dyrannu i bob grŵp yn ei grynswth; os yw’r bleidlais yn unfrydol, bydd yr argymhelliad i dderbyn/ mabwysiadu’r maes llafur yn cael ei gyflwyno wedyn i’r ALl.
Amrywiol
Os oes angen, gall CYSAG Sir Benfro gynnull gweithgorau i fwrw ymlaen â phrosiectau penodol sy’n berthnasol i AG ac Addoli ar y Cyd yn Sir Benfro.
Yn unol â gofynion statudol Deddf Addysg 1996, bydd hawl gan y wasg a’r cyhoedd i fynychu cyfarfodydd y CYSAG, ond gallant gael eu cau allan o gyfarfodydd sy’n ystyried materion sensitif a chyfrinachol. Ni fydd hawl gan y wasg a’r cyhoedd i fynychu cyfarfodydd cynhadledd y maes llafur cytunedig.
Bydd y cyfansoddiad yn cael ei adolygu bob dwy flynedd yng nghyfarfod (CCB) yr hydref.