CYSAG

Cynefin - CYSCGM

Mae ‘Cynefin’ wedi'i nodi o fewn fframwaith Cwricwlwm Llywodraeth Cymru fel naratif a ddylai gwau drwy'r holl brofiadau dysgu a ddarperir i ddysgwyr. Nid dim ond man yn yr ystyr daearyddol mo Cynefin, ond lleoliad o bwysigrwydd diwylliannol, cymdeithasol a hanesyddol sydd wedi ffurfio ac sy’n parhau i ffurfio’r gymuned sy’n trigo yno. Ceir llawer o gyfleoedd cyfoethog i wau llinyn cynefin drwy gwricwlwm CGM/Y Dyniaethau. Byddai’r rhain yn cynnwys Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Nanhyfer, Ynys Bŷr a Ffynnongroes yn Sir Benfro. Mae llawer o adnoddau ar gael i gefnogi hyn, gan gynnwys ‘Y Gromlech (yn agor mewn tab newydd)’.

Bydd darparu cyfleoedd i ddysgwyr archwilio eu hardaloedd lleol yn cynnig dealltwriaeth gyfoethog a gwerthfawr o’u ‘cynefin’ ac yn dangos sut y mae’r mythau, chwedlau a’r safleoedd sanctaidd a diwylliannol wedi helpu i lunio eu cymuned a’i rhyngweithio â chymunedau ehangach, y genedl a’r byd. Un dull a argymhellir i ddatblygu cysyniad ‘cynefin’ o fewn Sir Benfro yw’r dull ‘traed, cam, naid’ a fydd yn caniatáu i ddysgwyr ddeall eu diwylliant uniongyrchol a’u cyd-destun lleol a sut y mae’n berthnasol i’r cyd-destun ehangach. Cysylltwch â CYSCGM Sir Benfro am gyngor os oes angen

ID: 9367, adolygwyd 28/08/2024