CYSAG
Cynnydd ac Asesu
Mae Cynnydd dysgwyr (yn agor mewn tab newydd) yn sbardun pwysig ar gyfer cynllunio eich cwricwlwm. Adlewyrchir hyn yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ac yn y disgrifiadau dysgu ar gyfer y Dyniaethau (yn agor mewn tab newydd), sy’n helpu i gynnig canllawiau manylach i ymarferwyr. Bydd cwricwlwm CGM sydd wedi’i strwythuro’n ofalus, sy’n drwyadl ac sy’n cwmpasu cyfoeth o wybodaeth a sgiliau yn sicrhau cynnydd dros amser i bob dysgwr. Dylai asesu felly fod yn rhan annatod o gynllun ac addysgeg y cwricwlwm. Mae’r canllawiau CGM yn cynnig teithiau dysgu (yn agor mewn tab newydd) awgrymedig ar gyfer pob un o’r is-lensys CGM a fydd yn cefnogi gyda dilyniannu’r cwricwlwm i sicrhau cynnydd
ID: 9398, adolygwyd 28/08/2024