CYSAG
CYSAG Adroddiad Blynyddol 2023-24
Adran 1: Gwybodaeth am y cyngor ymgynghorol sefydlog ar addysg grefyddol cysag/cyngor ymgynghorol sefydlog ar grefydd, gwerthoedd a moeseg (CYSGGM)
1.1 Dyletswydd i sefydlu CYSAG / CYSGGM
Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol sefydlu Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) o fewn ei ardal leol. Yn dilyn lansio’r Cwricwlwm i Gymru ym mis Medi 2022, mae’n ofynnol i bob awdurdod lleol sefydlu Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYSGGM) yn ei ardal leol. Cytunwyd y bydd y ddau gyngor ymgynghorol sefydlog yn rhannu aelodaeth o fewn Sir Benfro ac y byddant yn gweithredu ar y cyd â'i gilydd dros y pedair blynedd nesaf. Mae ganddynt gyfansoddiadau ar wahân. Bydd yr adroddiad yn cyfeirio at CYSAG, ond mae'r gwaith yn cyfeirio at CYSAG a CYSGGM.
1.2 Cyfansoddiad y CYSAG
Mae angen i’r CYSAG gynnwys cynrychiolwyr o’r canlynol:
- unrhyw enwadau Cristnogol, ac enwadau crefyddau eraill a fydd, ym marn yr awdurdod lleol, yn adlewyrchu'n briodol y prif draddodiadau crefyddol yn yr ardal
- cymdeithasau sy'n cynrychioli athrawon
- yr awdurdod lleol.
1.3 Aelodaeth y CYSAG
Mae rhestr o aelodau CYSAG/CYSGGM Sir Benfro i’w gweld yn Atodiad 1.
1.4 Swyddogaethau’r CYSAG
-
Cynghori’r awdurdod lleol ar addoli, a’r addysg grefyddol/crefydd, y gwerthoedd a’r foeseg i’w rhoi yn unol â’r maes llafur y cytunedig, gan gynnwys dulliau addysgu, cyngor ar ddeunyddiau a darparu hyfforddiant i athrawon
- Ystyried a ddylid argymell i'r awdurdod lleol y dylid adolygu ei faes llafur cytunedig presennol drwy gynnull cynhadledd y maes llafur cytunedig
- Ystyried a ddylai’r gofyniad y dylai addoli ar y cyd mewn ysgol sir fod â ‘natur Gristnogol yn gyffredinol’ neu a ddylid ei amrywio (penderfyniadau)
- Cyflwyno adroddiad i'r awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru ar ei weithgareddau yn flynyddol.
1.5 Cyfarfodydd y CYSAG
Cyfarfu’r CYSAG deirgwaith yn ystod blwyddyn academaidd 2023-2024. Gellir dod o hyd i’r agenda ar gyfer pob cyfarfod yn Atodiad 2.Cynhaliwyd pob cyfarfod fel cyfarfodydd wyneb yn wyneb. Fel y cytunwyd yn 2023, caiff pob cyfarfod ar gyfer y CYSAG a’r CYSGGM ei gynnal ar y cyd, gyda’r un aelodaeth ar gyfer y ddau bwyllgor (gweler y cyfansoddiad(au) am fanylion).
- 16 Ionawr 2024 – Neuadd y Sir, Hwlffordd
- 20 Mawrth 2024 – Mosg Aberdaugleddau
- 24 Mehefin 2023 – Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Dinbych-y-pysgod
1.6 Cynllun datblygu 2024-2025
Gellir dod o hyd i’r cynllun datblygu ar gyfer y pwyllgor yn Atodiad 3.
1.7 Cynllun datblygu 2024-2025
Gellir dod o hyd i rhestr o’r sefydliadau y darperir yr adroddiad iddynt yn Atodiad 5.
Adran 2: Cyngor ar addysg grefyddol/crefydd, gwerthoedd a moeseg
2.1 Y maes llafur y cytunwyd arno'n lleol
Yn dilyn mabwysiadu maes llafur cytunedig Sir Benfro ar gyfer addysg grefyddol yn 2008, ac yna ei ailfabwysiadu bob pum mlynedd, cyhoeddwyd maes llafur cytunedig Sir Benfro ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg yn 2022.
Bu ystod eang o randdeiliaid yn ymwneud â datblygu'r maes llafur cytunedig ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg, gan gynnwys dysgwyr, athrawon, aelodau’r CYSAG a'r tîm cyfreithiol yng Nghyngor Sir Benfro.
Mae CYSAG Sir Benfro yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod ysgolion ac athrawon yn cael eu cefnogi i gyflwyno addysg grefyddol / crefydd, gwerthoedd a moeseg o ansawdd uchel ar gyfer eu dysgwyr sydd nid yn unig yn bodloni eu dyletswyddau statudol ond sydd hefyd yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu llythrennedd ynghylch crefydd a safbwyntiau byd-eang, sy'n hanfodol ar gyfer dinasyddiaeth yn y byd amrywiol, amlddiwylliannol, ac aml-seciwlar sydd ohoni.
2.2 Safonau addysg grefyddol / crefydd, gwerthoedd a moeseg
Mae’r CYSAG wedi mabwysiadu nifer o strategaethau ar gyfer monitro’r safonau a gyflawnir o ran addysg grefyddol yn ysgolion yr awdurdod, sy’n cynnwys y canlynol:
2.2a Adroddiadau Arolygu Ysgolion
Mae’r CYSAG wedi archwilio’r adrannau perthnasol yn adroddiadau arolygu ysgolion yr awdurdod lleol. Yn ystod y flwyddyn academaidd rhwng mis Medi 2023 a mis Medi 2024, arolygwyd 11 o ysgolion yn Sir Benfro, a chynhaliwyd ymweliadau monitro a dwy ysgol arall. Rhannwyd trosolwg llawn ESTYN ag aelodau’r CYSAG yn ystod ei gyfarfod ym mis Hydref 2023.
Roedd llawer o sylwadau yn yr adroddiadau llawn yn ymwneud â darpariaeth crefydd, gwerthoedd a moeseg o ansawdd uchel.
'Mae llawer o ddisgyblion yn cymryd rhan yng ngweithgareddau allgyrsiol yr ysgol fel y Clwb Beiblaidd. Mae sgiliau moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion wedi’u datblygu’n dda. Er enghraifft, wrth astudio’r Hen Destament, mae disgyblion ym mlwyddyn 6 yn mynegi barn onest ac aeddfed am yr hyn y maent yn ei gredu. Mae gan yr ysgol gysylltiadau cryf â’r eglwys leol ac mae disgyblion yn ymweld â hi yn rheolaidd er mwyn cymryd rhan mewn gwyliau a digwyddiadau crefyddol. Mae staff yn trefnu cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ddatblygu dealltwriaeth o’u hunaniaeth, eu treftadaeth a’u diwylliant, ac i gymharu’r rhain â diwylliannau eraill. Er enghraifft, fel rhan o raglen ehangach, mae arweinwyr yr ysgol yn sicrhau bod cyfle i ddisgyblion ddod i wybod am ddiwylliant a thraddodiadau’r gymuned Sipsi a Theithwyr leol. O ganlyniad, mae bron pob un o’r disgyblion yn myfyrio ar eu gwerthoedd a’u credoau eu hunain ac yn herio stereoteipiau (Ysgol Gynradd Gymunedol Cil-maen – Mai 2024).'
'Mae llawer o ddisgyblion yn dod yn ddinasyddion sy’n fwy egwyddorol a gwybodus. Maent yn dangos ymdeimlad cynyddol o empathi a thrugaredd tuag at eraill drwy eu ‘coeden werthoedd’, ac mae eu hymwybyddiaeth o amrywiaeth a chydraddoldeb yn datblygu’n briodol (Y Garn – Hydref 2023).'
2.2b Canlyniadau Arholiadau
Mae’r canlyniadau TGAU a TAG Safon Uwch a gyflawnwyd gan ddisgyblion yn yr wyth ysgol sydd â disgyblion o oedran uwchradd yn yr awdurdod lleol wedi cael eu dadansoddi a'u hystyried. Cafodd ffigurau sy'n ymwneud â chanlyniadau dros y pum mlynedd diwethaf eu dadansoddi i ddangos tueddiadau o ran perfformiad. Caiff canlyniadau'r arholiadau eu cymharu â ffigurau Cymru gyfan, pan fônt ar gael. Rhannwyd y data ag aelodau’r CYSAG yn ystod ei gyfarfod ym mis Hydref 2024.
Nodir y bu gostyngiad yn nifer yr ymgeisiau Safon Uwch a'r ymgeisiau cwrs byr TGAU ar draws yr awdurdod lleol, ac mae hyn yn adlewyrchu'r proffil cenedlaethol.
Cododd y CYSAG bryderon ynghylch y gostyngiad sylweddol yn nifer yr ymgeisiau ac maent yn gwneud gwaith, yn unol â'u cynllun datblygu ynghylch bodloni gofynion statudol a'r cymorth sydd ei angen gan CYSAG Sir Benfro.
Mae’r CYSAG wedi parhau i drafod prosesau o fonitro’n anffurfiol y modd y darperir addysg grefyddol/crefydd, gwerthoedd a moeseg er mwyn darparu dull wedi’i driongli, gan ddefnyddio adroddiadau llywodraethwyr ysgol a hunanwerthuso mewnol, a bydd hyn yn rhan o waith Sir Benfro yn 2024/2025.
Gweler Atodiad 4 am drosolwg o’r data.
2.3 Dulliau Addysgu, Deunyddiau Athrawon a Hyfforddiant Athrawon
Dysgu proffesiynol
Mae cynnig dysgu proffesiynol helaeth wedi’i rannu ag ysgolion ledled Sir Benfro a fydd yn cynnwys sesiynau ar gyfer y rhanddeiliaid canlynol:
- Llywodraethwyr ysgol
- Aelodau’r CYSAG
- Arweinwyr crefydd, gwerthoedd a moeseg ysgolion uwchradd
- Arweinwyr crefydd, gwerthoedd a moeseg / dyniaethau ysgolion cynradd
- Seminarau gwybodaeth wirioneddol gyda'r hwyr
- Athrawon sydd newydd gymhwyso
- Y gweithgor crefydd, gwerthoedd a moeseg (datblygu arweinyddiaeth mewn crefydd, gwerthoedd a moeseg)
- Gwasanaeth cefnogaeth bwrpasol i ysgolion unigol
- Cefnogaeth clwstwr ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg
Cafodd yr holl ddysgu proffesiynol ei gynnig ar ôl i brosesau cynllunio a sicrhau ansawdd trwyadl ac ar ôl i werthusiad ac adborth helaeth o'r sesiynau gael eu rhannu â'r arweinydd gwella ysgolion ac aelodau’r CYSAG.
Roedd datganiadau o’r effaith a ddeilliodd o’r sesiynau dysgu proffesiynol yn cynnwys:
'Roedd y diwrnod cyfan yn fuddiol iawn i mi, mae'n wych bod arbenigwr pwnc yn arwain eto (arweinydd uwchradd).'
'(Y peth mwyaf defnyddiol i mi oedd) cynllunio’r cwricwlwm crefydd, gwerthoedd a moeseg a’r enghraifft gan Carie – Fi yw arweinydd y dyniaethau ac rwy’n ysgrifennu ein cwricwlwm crefydd, gwerthoedd a moeseg ar hyn o bryd. Mathemateg yn y dyniaethau – hynod ddiddorol ac yn ysgogi'r meddwl. Cymhelliant i gynnwys mathemateg ym mhopeth (arweinydd ysgol gynradd).'
Adborth gan athrawon sydd newydd gymhwyso
'Fe wnaeth yr hyfforddiant wella fy ngwybodaeth am y pwnc.'
Gwnaeth 100% o’r athrawon ymateb eu bod yn cytuno/yn cytuno'n gryf
'Roedd y cynnwys yn briodol i fy anghenion a lefel fy sgiliau.'
Gwnaeth 86% o’r athrawon ymateb eu bod yn cytuno/yn cytuno'n gryf
'Darparodd yr hyfforddiant gynnwys sy’n berthnasol i'm rôl.'
Gwnaeth 86% o’r athrawon ymateb eu bod yn cytuno/yn cytuno'n gryf
'Fel gweithiwr proffesiynol ac arweinydd crefydd, gwerthoedd a moeseg, mae hyn wedi rhoi rhywfaint o hyder i mi arwain y pwnc yn fy ysgol. Fel rhywun a gafodd ei hyfforddi’n ffurfiol ym maes hanes ond sydd wedi bod yn addysgu crefydd, gwerthoedd a moeseg ers chwe blynedd, rwyf wedi bod yn awyddus i gael fy ystyried fel rhywun sy'n hyrwyddo crefydd, gwerthoedd a moeseg yn yr ysgol, yn hytrach na rhywun sy’n addysgu pwnc dim ond oherwydd y gofynnwyd iddo wneud hynny. Bu gwelliant gweladwy, er ar lefel anecdotaidd ar hyn o bryd, o ran yr ymgysylltiad gan ddisgyblion sydd fel arall wedi ymddieithrio o'r pwnc. Mae hyn wedi fy helpu i ddefnyddio llais y disgybl i sicrhau bod cynlluniau dysgu yn fwy ystyrlon i’r disgyblion sydd o’m blaen, yn hytrach na’u bod yn dilyn dull fformiwläig – gan addysgu yn ôl anghenion y disgyblion yn fy ngwersi yn y pen draw (y gweithgor crefydd, gwerthoedd a moeseg).'
Deunyddiau addysgu
- Gan ddefnyddio'r grant gan Westhill, mae awdurdod Sir Benfro wedi gallu darparu adnoddau, addysgeg, a hyfforddiant i ysgolion i'w cynorthwyo i gyflwyno darpariaeth crefydd, gwerthoedd a moeseg mewn ffordd wrthrychol, feirniadol, a phlwraliaethol.
- Mae pob darparwr sydd â chweched dosbarth wedi cael gwahoddiad i gofrestru dau fyfyriwr ar gyfer y prosiect Gwersi o Auschwitz, ac mae pob athro wedi cael gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddiant i athrawon gan Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost.
- Mae’r rhan o wefan yr awdurdod lleol sy’n ymwneud â’r CYSAG wedi cael ei diweddaru, ac mae gwybodaeth yn cael ei hychwanegu ati sydd o werth i ysgolion. Mae rhan o wefan Rhwydwaith Dysgu Sir Benfro wedi'i neilltuo ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg hefyd. Mae pob cydweithiwr ar draws y rhanbarth hefyd yn gallu cyrchu deunyddiau drwy'r cyfleuster Microsoft Teams rhanbarthol.
- Bydd pob un o gyfarfodydd y CYSAG yn ymgorffori agwedd ar addysgu a dysgu fel eitem ar yr agenda.
- Mae CYSAG Sir Benfro yn parhau i weithio'n agos gyda Partneriaeth i sicrhau ymagwedd gydweithredol tuag at ddysgu proffesiynol.
Adran 3: Cyngor ar addoli ar y cyd
3.1 Adroddiadau Arolygu Ysgolion
Mae’r CYSAG wedi archwilio’r adrannau perthnasol yn adroddiadau arolygu ysgolion yr awdurdod lleol. Yn ystod y flwyddyn academaidd rhwng mis Medi 2023 a mis Medi 2024, arolygwyd 11 o ysgolion.
Cyflwynwyd crynodeb o ganfyddiadau'r arolygiadau hyn i'r aelodau. Os bydd unrhyw faterion yn codi ynglŷn ag addoli ar y cyd, megis methu â chyflawni gofynion statudol, yna bydd yr awdurdod lleol yn mynd ar drywydd hyn drwy ofyn am y cynllun gweithredu ac adroddiad ar gynnydd.
Roedd y ffaith y cafwyd nifer o sylwadau cadarnhaol ynghylch gweithred ddyddiol o addoli ar y cyd yn ysgolion Sir Benfro i'w ddathlu.
'Mae trefniadau addoli ar y cyd yn darparu cyfleoedd pwrpasol i gefnogi disgyblion i ddysgu am faterion sy’n ymwneud â chredoau amrywiol, yn ogystal â myfyrio ar gwestiynau sylfaenol a’u gwerthoedd eu hunain. Cynhelir gwasanaethau cyson yn yr ysgol ac yn y capel lleol, a darperir cyfleoedd i’r disgyblion gymryd rhan weithredol ynddynt (Ysgol Gynradd Gymunedol Cas-blaidd – Chwefror 2024).'
'Mae darpariaeth yr ysgol ar gyfer datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion wedi’i chynllunio’n ofalus gan yr arweinwyr a’r disgyblion. Caiff themâu eu haddasu’n gyflym mewn ymateb i wybodaeth a gasglwyd o adborth disgyblion a materion cyfredol sy’n codi (Ysgol Greenhill – Ionawr 2024).'
3.2 Ceisiadau i’w penderfynu
Ni ddaeth unrhyw geisiadau i law gan ysgolion yn gofyn am benderfyniad ynghylch dileu’r gofynion sy’n pennu bod addoli ar y cyd i fod yn gyfan gwbl, neu’n bennaf o gymeriad Cristnogol.
3.3 Ymweliadau ag Ysgolion
Mae’r CYSAG yn gwerthfawrogi'r cyfleoedd a roddir i aelodau arsylwi gweithredoedd o addoli ar y cyd mewn ysgolion. Ni welwyd unrhyw weithred o addoli ar y cyd eleni.
Adran 4: Materion Eraill
4.1 Cyfansoddiad
Yn dilyn cyfnod ymgynghori helaeth, mabwysiadodd CYSAG Sir Benfro a CYSGGM Sir Benfro yn 2023-2024 eu cyfansoddiadau newydd er mwyn cyd-fynd â’r ddarpariaeth addysg grefyddol a chrefydd, gwerthoedd a moeseg etifeddol o fewn y Cwricwlwm i Gymru.
4.2 Diwrnod Cofio'r Holocost 2024
Cafodd Diwrnod Cofio’r Holocost ei nodi yn genedlaethol gyda digwyddiadau a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost a Diwrnod Cofio’r Holocost. Rhannwyd yr holl ddigwyddiadau a’r cyfle i ymuno â’r ‘ffrwd fyw’ ag ysgolion.
4.3 Hyfforddi aelodau’r CYSAG
Fel rhan o'i hyfforddiant i aelodau, mae CYSAG wedi ymrwymo i'r canlynol:
- Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am ddatblygiadau o ran addysg grefyddol / crefydd, gwerthoedd a moeseg ac addoli ar y cyd drwy gyflwyniadau rheolaidd i aelodau’r CYSAG. Mae'r cynghorydd addysg grefyddol / crefydd, gwerthoedd a moeseg yn rhoi diweddariadau tymhorol a diweddariadau rheolaidd drwy e-bost.
- Bydd y CYSAG, pan fo'n bosibl, yn cynnal cyfarfodydd mewn ysgolion yn Sir Benfro er mwyn i’r aelodau ymgyfarwyddo ag addysg grefyddol / crefydd, gwerthoedd a moeseg ac addoli ar y cyd mewn ysgolion. Cynhaliwyd cyfarfod yr haf eleni gan Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Dinbych-y-pysgod.
- Bydd y CYSAG, pan fo'n bosibl, yn cynnal cyfarfodydd mewn mannau addoli yn Sir Benfro er mwyn i’r aelodau ymgyfarwyddo â'r cymunedau ffydd / bydolwg ac er mwyn rhoi cyfle iddynt ystyried y profiad y gellid ei gynnig i ysgolion drwy ymweliadau gan ysgolion. Cynhaliwyd cyfarfod y gwanwyn eleni ym Mosg Aberdaugleddau.
- Bydd pob cyfarfod yn cynnwys o leiaf un cyflwyniad ar addysg grefyddol / crefydd, gwerthoedd a moeseg sy'n rhoi gwybod i aelodau’r CYSAG am arferion ym maes addysg grefyddol / crefydd, gwerthoedd a moeseg o fewn amgylchedd yr ysgol a’r tu allan iddo. Yn 2023-24, rhoddwyd y cyflwyniadau canlynol:
- Cyflwyniad gan Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru – Dr Josh Andrews
- Cyfleoedd addysgol ym Mosg Aberdaugleddau – Sheikh Mohammed
- Crefydd, gwerthoedd a moeseg / y dyniaethau yn Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Dinbych-y-pysgod – Rebecca D’Ortez
Mae CYSAG yn gwerthfawrogi’n fawr y cyfleoedd a gynigir, drwy ymweliadau a chyflwyniadau, i ddod yn fwy gwybodus am faterion sy’n ymwneud ag addysg grefyddol ac addoli ar y cyd mewn ysgolion, a hoffai rannu ei werthfawrogiad i bawb sy‘n rhan o’r gweithgareddau hyn.
4.4 Hyfforddi aelodau’r CYSAG
Mae CYSAG Sir Benfro yn ymfalchïo yn natur gynhwysol ei aelodaeth ac yn annog pobl â safbwyntiau amrywiol i fod ar y pwyllgor ac i’w mynegi yn ystod cyfarfodydd. Mae’r aelodaeth yn gryf ac yn amrywiol ac yn adlewyrchiad go iawn o natur ‘grefyddol a seciwlar’ yr awdurdod lleol.
Mae gan CYSAG Sir Benfro ddau aelod cyfetholedig ar hyn o bryd.
Mae gan y pwyllgor nifer o leoedd gwag ond mae'n ymdrechu i’w llenwi er mwyn sicrhau bod y pwyllgor yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol mor effeithiol â phosibl.
4.5 Gweithio gyda phartneriaid
Mae cynrychiolwyr CYSAG Sir Benfro wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob ysgol yn yr awdurdod lleol fynediad at addysg grefyddol / crefydd, gwerthoedd a moeseg o ansawdd uchel ac, o ran hynny, maent yn cyfarfod ac yn gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol a CYSAGau rhanbarthol i gefnogi eu gwaith.
Atodiad 1: Aelodaeth CYSAG/CYSGGM Sir Benfro 2023-24
Enwadau Cristnogol a chrefyddau eraill (17)
- Cadeirydd: Y Cynghorydd Sam Skyrme-Blackhall
- Is-gadeirydd: Y Cynghorydd Marc Tierney
Grŵp A
- Enwadau Cristionogol a chrefyddau eraill
- Yr Eglwys yng Nghymru (3)
- Y Parchedig John Cecil
- Y Parchedig Richard Davies
- Y Parchedig Belinda Roberts
- Y gymuned babyddol (3)
- Abbie Davies (a ymunodd ym mis Awst 2024)
- Anghydffurfwyr (3)
- Mr Emyr Phillips
(Ymddeolodd y Parchedig Chris Gilham ym mis Tachwedd 2023)
- Y gymuned Fwslimaidd (1)
- Sajida Madni
- Y gymuned Fwdhaidd (1)
- Mani Dowsett
- Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf (1) gwag
- Y gymuned Hindŵaidd (1) gwag
- Cymdeithas y dyneiddwyr (1)
- Clare Campbell
- Tyst Jehofa (1) gwag
- Y gymuned Iddewig (1) gwag
- Y Gymuned Sikhaidd (1) gwag
- Y gymuned anghrefyddol, athronyddol (2) gwag
Grŵp B
- Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon – Leanna Prevel (ymddeolodd Heather Cale ym mis Mawrth 2024)
- Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau – Lucy Harris
- Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru – Amanda Lawrence
- Yr Undeb Addysg Cenedlaethol – gwag
- Yr Undeb Prifysgolion a Cholegau – Sarah-Kay Tushingham-Ford (ymunodd ym mis Ionawr 2024)
Grŵp C– Yr awdurdod lleol
- Cynrychiolwyr y cyngor sir (7)
- Cadeirydd: Y Cynghorydd Sam Skyrme-Blackhall
- Is-gadeirydd: Y Cynghorydd Marc Tierney
- Y Cynghorydd Jamie Adams
- Y Cynghorydd David Howlett
- Y Cynghorydd Mike James
(Gwnaeth y Cynghorydd Viv Stoddart rhoi’r gorau i’r swydd ym mis Mai 2024)
Swyddogion y CSAG/CYSGGM
- Mrs Siân Rowles – Yr Adran Addysg, Cyngor Sir Benfro
- Mrs Jennifer Harding-Richards – Cefnogaeth gynghorol addysg grefyddol
- Paul Davies – Swyddog Cydlyniant Cymunedol De-orllewin Cymru (ymunodd ym mis Awst 2024)
- Clerc – Swyddog Gwasanaethau Democrataidd, Cyngor Sir Benfro
Atodiad 2: Rhestr o gyfarfodydd ac eitemau’r agendâu
Roedd y prif eitemau o fusnes ar yr agenda yn cynnwys:
16 Ionawr 2024 (cafodd y cyfarfod hwn ei aildrefnu o 9 Tachwedd 2023)
- Croeso
- Ymddiheuriadau am absenoldeb
- Cofnodion y cyfarfod blaenorol a materion yn codi
- Cyflwyniad gan Josh Andrews: Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru, Prifysgol Bangor
- Monitro addysg grefyddol / crefydd, gwerthoedd a moeseg
- Estyn
- Data arholiad
- Cefnogi addysg grefyddol / crefydd, gwerthoedd a moeseg
- Y cynnig dysgu proffesiynol
- Hyfforddiant ar gyfer aelodau’r CYSAG / CYSGGM
- Adnoddau
- CYSAG ieuenctid / cyfranogiad disgyblion
- Diweddariadau i ysgolion
- Cyfathrebu
- Llywodraeth Cymru
- Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol Cymru
- Diweddariadau gan aelodau
- Dyddiadau a lleoliadau ar gyfer y cyfarfodydd nesaf
20 Mawrth 2024
- Croeso a chyflwyniadau i aelodau newydd
- Ymddiheuriadau am absenoldeb
- Cofnodion y cyfarfod blaenorol a materion yn codi
- Cyflwyniad – Hamad Bin Khalifa, Canolfan Islamaidd Aberdaugleddau
- Cynllunio strategol ar gyfer y CYSAG / CYSGGM
- Cefnogi crefydd, gwerthoedd a moeseg a sylwadau’n deillio o’r arolwg diweddar gan Estyn
- Diweddariadau ynghylch cymwysterau
- Diweddariadau gan aelodau
- Manylion cyfarfod yr haf
24 Mehefin 2024
- Croeso a chyflwyniad i aelodau newydd
- Ymddiheuriadau am absenoldeb
- Cofnodion y cyfarfod blaenorol a phwyntiau yn rhestru’r camau gweithredu
- Cyflwyniad gan ysgolion / disgyblion. Cyflwyniadau gan Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Dinbych-y-pysgod ac Ysgol Uwchradd Greenhill ar eu gwaith yn ymwneud â’r CYSAG / CYSGGM.
- Cynllun datblygu
- Aelodaeth Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol Cymru
- Cefnogi ysgolion / dysgu proffesiynol
- Llais ieuenctid – SR
- Dyddiadau a lleoliadau y cyfarfodydd yn 2024-2025
Atodiad 3: Cynllun Datblygu CYSAG / CYSGGM Sir Benfro (diweddarwyd i fis Tachwedd 2024)
Mae'r Cynllun Datblygu (2024-2027) ar gael ar gais.
Atodiad 4: Canlyniadau arholiadau 2024
A2 Astudiaethau Crefyddol
Canlyniadau Safon Uwch |
|
Ymgeisiau |
A* |
A |
B |
C |
D |
E |
|
Cymru (Y Cyd-gyngor Cymwysterau) |
|
702 |
6.0
|
26.4 |
51.1 |
73.5 |
89.7 |
97.4 |
|
Sir Benfro |
|
29 |
|
5.6 |
11.1 |
50 |
61.1 |
83.3 |
TGAU Astudiaethau Crefyddol
TGAU |
Ymgeisiau |
A* |
A |
B |
C |
D |
E |
F |
G |
|
Cymru (CBAC) |
8,370 |
12.4 |
28.6 |
48 |
65.6 |
76.6 |
84.5 |
90.6 |
95.6
|
|
Cymru (CBAC) Diwinyddiaeth Babyddol ac Iddewiaeth
|
2,142 |
14.9 |
32.7 |
54.1 |
69.4 |
79.1 |
86.5 |
92.5 |
96.6 |
|
Sir Benfro |
428
|
7.7 |
19.4 |
39.7 |
57.9 |
71 |
82.9 |
91.1 |
95.8 |
Atodiad 5: Dosbarthu’r adroddiad
Bydd copïau'n cael eu hanfon yn electronig at y cyrff perthnasol isod, ac yn cael eu cyhoeddi ar yr adran o wefan Cyngor Sir Penfro sy’n ymwneud â'r CYSAG.
Anfonir yr adroddiad blynyddol at y cyrff canlynol:
- Llywodraeth Cymru erbyn 31 Rhagfyr yn flynyddol
- Cyfarwyddiaeth Addysg Cyngor Sir Penfro
- Holl aelodau’r CYSAG a'u sefydliadau
- Penaethiaid a chyrff llywodraethu pob ysgol yn Sir Benfro, gyda phapur briffio ar gyfer cyfarfod llawn y corff llywodraethu yn nhymor y gwanwyn.