CYSAG
Gofynion cyfreithiol
(Canllawiau CGM Llywodraeth Cymru)
Ceir crynodeb o’r ddeddfwriaeth yma.
Datblygwyd Maes Llafur Cytunedig Sir Benfro yn unol â’r ddeddfwriaeth o’r Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 ynghyd â’r Ddeddf Addysg 1996.
Mae Maes Llafur Cytunedig Sir Benfro ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) yn adlewyrchu credoau crefyddol yn ogystal â chredoau anghrefyddol sy’n argyhoeddiadau athronyddol yn unol ag ystyr Erthygl 2 Protocol 1 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (E2P1). Mae’r rhain yn cynnwys credoau megis dyneiddiaeth, anffyddiaeth a seciwlariaeth. Dim ond enghreifftiau o’r math o gredoau sydd o fewn cwmpas CGM yw’r rhain, yn hytrach na rhestr hollgynhwysfawr. Mae’r newidiadau hyn yn nodi’n glir beth sydd eisoes yn ofynnol yn ôl y gyfraith mewn perthynas ag addysg CGM blwraliaethol.
Ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol heb gymeriad crefyddol
Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r ddarpariaeth yn y cwricwlwm ar gyfer addysgu a dysgu, sy’n cwmpasu CGM, fod wedi cael ei chynllunio gan ystyried y maes llafur cytunedig. (Y “maes llafur cytunedig” yng nghyd-destun yr Atodlen yw’r Maes Llafur CGM a fabwysiadwyd gan yr awdurdod lleol o dan adran 375A y Ddeddf 1996 sydd i’w ddefnyddio mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod). Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r ddarpariaeth CGM hon fod ar gael i bob dysgwr.
Ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a reolir sydd â chymeriad crefyddol
I’r ysgolion hyn, mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r ddarpariaeth yn y cwricwlwm ar gyfer addysgu a dysgu, sy’n cwmpasu CGM, fod wedi cael ei chynllunio gan ystyried y maes llafur cytunedig.
Fodd bynnag, yn achos yr ysgolion hyn, ceir gofyniad ychwanegol a fydd ond yn berthnasol os nad yw’r ddarpariaeth a gynlluniwyd gan ystyried y maes llafur cytunedig yn cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu ddaliadau ei chrefydd neu ei henwad crefyddol.
Ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol
I’r ysgolion hyn, mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r cwricwlwm wneud darpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu, mewn perthynas â CGM, sy’n cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu ddaliadau ei chrefydd neu ei henwad crefyddol.
Eto, ceir gofyniad ychwanegol. Ar gyfer ysgolion o’r math hyn, mae’r gofyniad ychwanegol ond yn berthnasol os nad yw’r ddarpariaeth a gynlluniwyd (hynny yw, sy’n cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth neu ddaliadau crefydd neu enwad crefyddol yr ysgol) yn cyd-fynd â’r maes llafur cytunedig. Yn yr achos hwn, rhaid i gwricwlwm yr ysgol gynnwys hefyd darpariaeth ar gyfer CGM sydd wedi’i chynllunio gan ystyried y maes llafur cytunedig.
CGM Ôl-16
O 2027 ymlaen, ni fydd CGM ôl-16 yn fandadol mwyach mewn ysgolion, yn rhinwedd darpariaethau’r Ddeddf. Yn unol ag adran 61 y Ddeddf, bydd pob dysgwr dros 16 oed bellach yn gallu optio i mewn i CGM, lle’r oedd gofyniad o’r blaen i bob dysgwr yn y chweched dosbarth astudio addysg grefyddol. Os bydd dysgwr yn dewis optio i mewn i CGM, yna rhaid i’r ysgol neu’r coleg ddarparu CGM sy’n wrthrychol, beirniadol a phlwraliaethol. Mae’r dull hwn o weithredu yn gyson â’r egwyddor y dylai dysgwyr sy’n ddigon aeddfed allu gwneud penderfyniadau mewn perthynas â’u dysgu eu hunain.
Pan fo dysgwr yn gofyn am CGM yn unol ag adran 61 y Ddeddf, rhaid cynllunio’r CGM fel ei fod yn:
- adlewyrchu’r ffaith bod y traddodiadau crefyddol yng Nghymru yn rhai Cristnogol ar y cyfan tra’n ystyried dysgeidiaeth ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir yng Nghymru
- adlewyrchu hefyd y ffaith bod ystod o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol eraill i’w cael yng Nghymru.
Nid yw Adran 61 y Ddeddf yn atal ysgol rhag gosod gofyniad i bob dysgwr yn ei chweched dosbarth gymryd dosbarthiadau CGM gorfodol; ac nid yw ychwaith yn atal ysgol sy’n mabwysiadu’r drefn hon rhag darparu CGM gorfodol i’r chweched dosbarth sy’n cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu ddaliadau ei chrefydd neu ei henwad crefyddol (“CGM enwadol”). Mae cynnwys CGM enwadol o’r fath yn parhau i fod yn fater i’r ysgol gyda’r cwricwlwm wedi’i gynllunio’n unol â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu ddaliadau ei chrefydd.
Mae’r maes llafur hwn yn cyfeirio at CGM ar gyfer dysgwyr rhwng 3 ac 16 oed. Os bydd dysgwyr ôl-16 yn gofyn am ddarpariaeth CGM ac mae angen cymorth, cysylltwch â CYSCGM Sir Benfro a gallant gynghori, os oes angen.
Yr hawl i dynnu’n ôl yn y Cwricwlwm i Gymru
O fis Medi 2022, ni fydd hawl gan rieni i dynnu’n ôl mewn perthynas â phob dysgwr hyd at a chan gynnwys blwyddyn 6, gan fydd y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei weithredu gan bob ysgol a lleoliad cynradd o’r dyddiad hwn. Bydd hyn hefyd yn berthnasol i ddysgwyr ym mlwyddyn 7 y mae eu hysgolion wedi mabwysiadu’r Cwricwlwm i Gymru. Yna caiff ei weithredu wrth i’r Cwricwlwm i Gymru gael ei gyflwyno i grwpiau blwyddyn dilynol.
Cysylltwch â CYSCGM Sir Benfro am eglurhad neu gymorth os oes angen