CYSAG

Nodau CGM

CGM a’r pedwar diben

Wrth wraidd y Cwricwlwm i Gymru y mae’r pedwar diben, sy’n allweddol i  lywio’r broses o gynllunio’r cwricwlwm ac, fel y cyfryw, dylid canolbwyntio arnynt ym mhob agwedd ar ddatblygu’r cwricwlwm. Mae’r pedwar diben yn nodi’r dyheadau ar gyfer pob dysgwr.

Erbyn iddynt gyrraedd 16 oed, dylent fod yn:

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau
  • gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
  • unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Ym Maes y Dyniaethau, mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig yn cyfrannu at gyflawni pedwar diben y cwricwlwm. Mae’r rhain fel a ganlyn:

  1. Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
  2. Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
  3. Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol.
  4. Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.
  5. Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.

Bydd CGM rhagorol yn cefnogi llythrennedd crefyddol disgyblion. Mae diffinio llythrennedd crefyddol yn gymhleth ac yn ddadleuol. At ddibenion y maes llafur, rydym yn canolbwyntio ar lythrennedd crefyddol fel sy’n caniatáu i ddisgyblion fynediad i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o argyhoeddiadau/safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol athronyddol Sir Benfro, Cymru a’r byd. Trwy gynllunio effeithiol, dylunio ac addysgu cwricwlwm o ansawdd uchel, bydd disgyblion nid yn unig yn cael y cyfle i ddatblygu eu gwybodaeth am grefydd ac argyhoeddiadau/ safbwyntiau athronyddol anghrefyddol, ond hefyd yn dysgu sut i gynnal sgyrsiau a barn cytbwys a gwybodus. Bydd disgyblion sy’n grefyddol lythrennog yn cael eu galluogi i gymryd eu lle yn hyderus o fewn ein cymdeithas aml-grefyddol ac aml-seciwlar amrywiol, byddant yn gallu meddwl yn annibynnol, bod yn adfyfyriol a gallu gwerthuso mewn modd teg a beirniadol. Byddant yn ddinasyddion gwybodus a moesegol sydd â’r gallu i gymryd rhan weithredol a chyfrannu fel aelodau o’u cymunedau boed yn lleol, yn genedlaethol neu’n fyd-eang.

ID: 9319, adolygwyd 13/12/2022