CYSAG
Siarter y Cenhedloedd Unedig ar Hawliaur Plentyn
Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn cynnwys ‘dyletswydd i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Gonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig ar hawliau’r plentyn a phobl ag anableddau’. Mae'n hanfodol, pan fydd ysgolion yn datblygu eu cwricwlwm CGM, eu bod nid yn unig yn cynnwys cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu am hawliau dynol a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (UNCRPD), ond hefyd bod dysgwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn cynllunio'r cwricwlwm. Mae’r themâu trawsgwricwlaidd ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm (yn agor mewn tab newydd), sydd i’w gweld yn categoreiddio tair elfen o addysg hawliau dynol, y dylid ymgorffori pob un ohonynt yn y cwricwlwm CGM:
- Dysgu am hawliau dynol, sy’n ymgorffori dealltwriaeth o hawliau dynol a ffynonellau'r hawliau hynny, gan gynnwys CCUHP a UNCRPD.
- Dysgu drwy hawliau dynol – sy’n ymwneud â datblygu gwerthoedd, agweddau ac ymddygiadau sy'n adlewyrchu gwerthoedd hawliau dynol.
- Dysgu ar gyfer hawliau dynol – sy’n ymwneud â chymell gweithredu cymdeithasol a grymuso dinasyddiaeth weithredol i hyrwyddo parch at hawliau pawb.
Mae'r maes llafur hwn wedi'i gynllunio gyda'r ystyriaethau hyn o hawliau dynol mewn golwg.