Cysylltu Bywydau (Lleoli oedolion)

Cysylltu Bywydau (Lleoli oedolion)

Mae cynllun Cysylltu Bywydau Gorllewin Cymru yn rhoi cymorth i bobl ag angen a aseswyd, sydd am gael help i fyw yn eu cymuned. Darperir tai a chymorth yng nghartrefi gofalwyr proffesiynol Cysylltu Bywydau, sy'n aml yn datblygu'n rhwydweithiau ehangach o gymorth.

Rydym yn dwyn ynghyd bobl sydd angen cymorth gyda Gofalwyr Proffesiynol Cysylltu Bywydau wedi'u harchwilio a'u cymeradwyo.

Mae gennym ystod eang o ofalwyr Cysylltu Bywydau, a byddwn yn eich paru drwy ystyried phethau fel y canlynol:

  • diddordebau cyffredin
  • dewisiadau ffordd o fyw
  • personoliaeth

Mae hyn yn rhoi dewis gwirioneddol i chi o ran sut, ble a gyda phwy rydych chi'n derbyn cymorth.

Mae Cysylltu Bywydau Gorllewin Cymru yn ddewis amgen i ofal preswyl ac mae'n darparu ar gyfer pobl sy'n chwilio am lety parhaol neu dymor byr, seibiannau byr neu gymorth sesiynol.

Mae'r gwasanaeth ar gael yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Gwybodaeth am ein gofalwyr Cysylltu Bywydau

Rydym yn dewis ac yn hyfforddi gofalwyr trwy broses asesu a chymeradwyo drylwyr. Mae hyn oherwydd bod swydd gofalwr yn swydd werth chweil ac yn swydd gyfrifol. Mae gofalwyr yn gweithio'n annibynnol heb oruchwyliaeth uniongyrchol ac mae angen iddynt fod yn ddyfeisgar, yn wydn ac yn gyfrifol. Er mwyn sicrhau bod gofalwyr yn gallu bodloni ein gofynion, mae'n rhaid i ni gynnal ymweliad, cyfweliad, asesiad a darparu hyfforddiant i bob person, gan adolygu eu gwaith gyda'n panel annibynnol.

Dod yn Ofalwr Cysylltu Bywydau (yn agor mewn tab newydd)

ebost: recruitmentwwsl@pembrokeshire.gov.uk

Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd) y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall

ID: 8019, adolygwyd 12/09/2023