Cysylltu Bywydau (Lleoli oedolion)

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi am y gofalwr ac os ydych yn hapus, byddwn yn trefnu ymweliad lle gallwch gwrdd ag ef a gweld ble y gallech fod yn aros. Rydym yn galw hyn yn 'gyflwyniad’. Efallai y bydd gennych fwy nag un cyflwyniad a chyda mwy nag un gofalwr.

Os ydych chi a'r Gofalwr Cysylltu Bywydau yn cytuno i fwrw ymlaen â'r trefniant, bydd dyddiad dechrau yn cael ei nodi, a bydd eich Gweithiwr Cymorth Cysylltu Bywydau yn llunio cytundeb gyda chi a'r Gofalwr Cysylltu Bywydau yn nodi sut yr hoffech gael eich cefnogi a/neu dderbyn gofal.

Bydd eich Gweithiwr Cymorth Cysylltu Bywydau yn cydlynu adolygiad cychwynnol o'r gwasanaeth yr ydych yn ei gael i weld sut y mae pethau'n mynd. Ar unrhyw adeg yn y broses, gallwch chi a'ch Gofalwr Cysylltu Bywydau ofyn am adolygiad o'ch gwasanaeth, codi unrhyw broblemau, gwrthod gwasanaeth neu ofyn am ofalwr newydd.


Dod yn Ofalwr Cysylltu Bywydau 

Ebost:  recruitmentwwsl@pembrokeshire.gov.uk

Dewis Cymru y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall

ID: 8246, adolygwyd 10/01/2023