Cysylltu Bywydau (Lleoli oedolion)
Cysylltu Bywydau - Cwestiynau Cyffredin
Faint o bobl y galla i eu cefnogi ar yr un pryd?
Fel gofalwr Cysylltu Bywydau Gorllewin Cymru, gallwch ddarparu cymorth i hyd at dri unigolyn, a gall hyn fod yn gymysgedd o leoliadau tymor hir a thymor byr.
A allaf ddarparu gwasanaeth dydd i rywun ac, os felly, beth yw’r taliad?
Rydym yn datblygu’r gwasanaeth hwn ar hyn o bryd; edrychwn ymlaen at gynnig rhywbeth cyn bo hir.
A all yr unigolyn fynd gyda mi ar wyliau?
Gall, ond efallai y bydd rhai amodau, ac efallai y bydd angen i’r unigolyn gyfrannu.
Sut ydych chi’n gwybod y byddwn yn ddiogel os oes rhywun yn ein cartref?
Bydd gweithwyr gofal cymdeithasol a/neu weithwyr proffesiynol yn ymwneud â’r holl unigolion sy’n cael eu paru a bydd risgiau’n cael eu hystyried a’u dogfennu. Mae hyn hefyd yn cynnwys sicrhau bod gennych y sgiliau a gwybodaeth gywir i ddiwallu eu hanghenion.
Os byddwn yn mynd allan gyda’n gilydd, pwy sy’n talu am beth?
Mae hyn yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Fodd bynnag, fel rhan o’ch lwfans Cysylltu Bywydau Gorllewin Cymru, mae’n rhaid i chi ddarparu tri phryd y dydd, felly efallai y bydd angen i chi gyfrannu at y pryd o fwyd pan fyddwch allan.
A oes angen profiad mewn gofal arnaf?
Nac oes. Er bod hynny’n fantais, rydym yn derbyn bod profiad bywyd hefyd yn bwysig. Fodd bynnag, byddwn yn darparu hyfforddiant i chi.
Pa hyfforddiant ydych chi’n ei ddarparu?
Darperir hyfforddiant llawn o ran diogelu, meddyginiaeth, a llawer o feysydd eraill fel rhan o’n rhaglen sefydlu helaeth.
Pa mor aml y bydd angen hyfforddiant a ble? Wyneb yn wyneb neu ar-lein?
Bydd yr holl hyfforddiant gorfodol yn cael ei gwblhau cyn i unigolyn gael ei baru â chi. Lle bynnag y bo modd, darperir hyfforddiant wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, gallwn eich helpu i fynd ar-lein. Bydd milltiroedd / treuliau teithio yn cael eu had-dalu. Byddwn hefyd yn darparu hyfforddiant pwrpasol i ddiwallu anghenion yr unigolyn.
Os mai dim ond seibiannau byr yr wyf am eu darparu, a ydych chi’n cynnig taliadau ar gadw os yw gwely’n wag?
Nid ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn ymchwilio i’r ddarpariaeth hon i helpu pobl mewn argyfwng.
Os ydych wedi archebu seibiant byr gyda mi a bod y seibiant byr yn cael ei ganslo ar fyr rybudd, a ydych chi’n cael digollediad ariannol?
Ydych, yn dibynnu ar y rhybudd a’r amgylchiadau.
Os oes angen milltiroedd ychwanegol i gefnogi rhywun, a yw’r unigolyn yn cyfrannu at gostau tanwydd?
Ydy. Fodd bynnag, efallai y bydd hwn hefyd yn cael ei ddarparu fel rhan o’i gynllun gofal a chymorth.
A oes gennym hawl i daliad costau byw neu daliadau tywydd oer?
Nac oes, mae hyn ar gyfer unigolion ac nid gofalwyr cysylltu bywydau.
Pa mor hir y mae’r broses asesu yn ei chymryd a beth sy’n rhan ohoni?
Mae hyn yn dibynnu ar lawer o ffactorau, sy’n cynnwys geirdaon, gwiriadau meddygol a gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fodd bynnag, gobeithiwn eich cymeradwyo o fewn tri i chwe mis.
A allaf i fod yn ofalwr o hyd os oes gen i euogfarnau o’r adeg pan oeddwn i’n ifancach sydd wedi’u disbyddu?
Gallwch. Rydym yn deall bod gan bobl hanes o bosibl. Fodd bynnag, rydym yn edrych ar y person rydych chi nawr a’ch cyflawniadau ers hynny.
Pa fanteision neu gymorth sydd ar gael i fod yn ofalwr cysylltu bywydau, os o gwbl?
Fel aelod o Gysylltu Bywydau Gorllewin Cymru, byddwch yn cael cymorth gan Gysylltu Bywydau + a gallwch wneud cais am Gerdyn Golau Glas a chofrestru fel gofalwr gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
A oes cefnogaeth gan ofalwyr eraill ar gael?
Mae cydlynwyr ardal yn trefnu cyfarfod grŵp i hyrwyddwyr bob tri mis.
Mae hwn yn gyfle gwych i chi gwrdd â gofalwyr ac unigolion eraill, gan ddatblygu ffyrdd o gydweithio a chefnogi eich gilydd.
Faint o gymorth a monitro sydd ar gael?
Rydym ni o fewn Cysylltu Bywydau yn gweithio i gael perthnasoedd agored a chadarnhaol gyda’n gofalwyr. Rydym yn cynnal o leiaf bedwar ymweliad statudol y flwyddyn ac un ymweliad dirybudd, gan gofnodi a monitro pob lleoliad i sicrhau ei fod yn bodloni ein rheoliadau.
Pa fath o anghenion cymorth sydd gan bobl sy’n rhan o’r cynllun Cysylltu Bywydau?
Mae anghenion yr unigolion yn amrywio. Rydym yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu, salwch / iechyd meddwl, amhariadau ar y synhwyrau, anableddau corfforol, ag anghenion llesiant sy’n gysylltiedig ag oedran. Byddwn yn darparu hyfforddiant a chymorth perthnasol ac yn cynnal proses baru ofalus.
Pa wiriadau sy’n cael eu gwneud ar y bobl sy’n dod i fyw gyda chi?
Mae’r timau cymunedol yn adnabod yr unigolion a bydd eu hasesiadau a’u cynlluniau gofal a chymorth yn cael eu rhannu gyda’n gofalwyr. Dylai hwn fod yn asesiad sy’n aml yn dilyn cwrs bywyd unigolyn ac sy’n cynnwys gwybodaeth am yr unigolyn.
Beth yw’r lwfans trethi?
Ni allwn roi cyngor am lwfansau trethi personol, ond gallwch fynd i wefan GOV.UK am arweiniad:
Qualifying Care Relief increase – (yn agor mewn tab newydd)
Gwybodaeth gyswllt cysylltu bywydau
Gallwch gysylltu â ni gydag unrhyw ymholiadau yn y ffyrdd canlynol:
Rhif ffôn: 01267 246890
E-bost: sharedlives@pembrokeshire.gov.uk
Neu fel arall, llenwch ein Ffurflen Ymholiad Gofalwyr (yn agor mewn tab newydd)