Cysylltu Bywydau (Lleoli oedolion)
Dod yn ofalwr Cysylltu Bywydau
Cynnwys:
Dod yn ofalwr Cysylltu Bywydau
Agweddau ar fod yn ofalwr Cysylltu Bywydau
Rhinweddau a phriodoleddau personol yr ydym yn chwilio amdanynt
Profiad perthnasol yr ydym yn chwilio amdano
Gwiriadau cefndir a gofynion diogelwch
Dod yn ofalwr Cysylltu Bywydau
Gwasanaeth cymorth ydyn ni i unigolion dros 18 oed sydd eisiau help i fyw’n annibynnol yn eu cymuned, gyda chymorth gofalwr Cysylltu Bywydau. Rydym yn ddewis amgen yn lle gofal dydd, byw â chymorth, a gofal preswyl ac yn gwasanaethu cymunedau ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, a Sir Benfro.
Rydym yn cynnwys gweithwyr proffesiynol profiadol sydd â chefndiroedd ym meysydd addysg, iechyd, a gofal cymdeithasol. Rydym wedi ein rhwymo gan God Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol (Cymru), ac mae ein cynllun wedi’i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Mae ein cynllun wedi bod ar waith ers 2004, ac mae’n darparu cannoedd o drefniadau seibiant tymor hir a byr bob blwyddyn. Rydym yn cael ein cynnal gan grŵp ymroddedig o ofalwyr Cysylltu Bywydau sy’n arbenigo mewn gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, unigolion niwroamrywiol, unigolion sydd â chyflyrau iechyd meddwl, yn ogystal â chynnig gwasanaethau camu-i-lawr o’r ysbyty, dementia, a phobl hŷn.
Beth rydym ni’n ei wneud
Rydym yn darparu cartrefi parhaol, llety tymor byr, a gwasanaethau seibiant byr (gofal seibiant) i unigolion. Rydym yn gwneud hyn drwy recriwtio a hyfforddi unigolion sydd ag "amser i ofalu a gofod i rannu". Mae ein gofalwyr yn byw ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, a Sir Benfro, ac rydym yn gallu paru unigolyn â gofalwyr Cysylltu Bywydau yn ôl lleoliad, math o eiddo, a diddordebau cyffredin.
Mae bod yn ofalwr Cysylltu Bywydau yn brofiad gwerth chweil a boddhaus. Mae’n golygu agor eich cartref a’ch bywyd i unigolyn sydd ag anghenion gofal, gan roi cymorth, cwmni, ac amgylchedd tebyg i deulu iddynt. Gallwn gynnig hyfforddiant rhagorol a chymorth parhaus i chi yn ogystal â thaliad di-dreth o hyd at £688 yr wythnos.
Agweddau ar fod yn ofalwr Cysylltu Bywydau
- Cysylltiad a chydberthnasau personol: Fel gofalwr Cysylltu Bywydau, mae gennych y cyfle i ddatblygu cydberthnasau dwfn ac ystyrlon â’r unigolyn rydych chi’n ei gefnogi. Rydych chi’n dod yn aelod estynedig o’r teulu ac yn rhoi ymdeimlad o berthyn a chysylltiad iddo.
- Creu amgylchedd cefnogol: Rydych chi’n helpu i greu amgylchedd meithringar a chynhwysol yn eich cartref eich hun. Rydych chi’n cynnig lle diogel a chroesawgar lle gall yr unigolyn fyw a ffynnu, gan sicrhau ei lesiant corfforol, emosiynol, a chymdeithasol.
- Gofal a chymorth unigol: Mae gan bob unigolyn anghenion gofal unigryw, ac fel gofalwr Cysylltu Bywydau, rydych chi’n darparu cymorth personol wedi’i deilwra i’w ofynion penodol. Gall hyn gynnwys cynorthwyo gyda gweithgareddau dyddiol, cyllidebu, gofal personol, rheoli meddyginiaeth, paratoi prydau bwyd, a hwyluso cyfranogiad cymunedol.
- Hyrwyddo annibyniaeth a grymuso: Byddwch yn canolbwyntio ar hyrwyddo annibyniaeth yr unigolyn rydych chi’n ei gefnogi. Byddwch yn annog ac yn grymuso unigolion i wneud dewisiadau, datblygu sgiliau, a chymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau hyd eithaf eu gallu.
- Hyblygrwydd a’r gallu i addasu: Mae bod yn ofalwr Cysylltu Bywydau yn gofyn i chi fod yn hyblyg ac addasu. Efallai y bydd angen i chi addasu eich arferion, darparu cymorth ar wahanol adegau o’r dydd neu’r nos, ac ymateb i anghenion neu sefyllfaoedd sy’n newid.
- Hyfforddiant a chymorth: Mae cynlluniau Cysylltu Bywydau yn darparu hyfforddiant, arweiniad, a chymorth parhaus i ofalwyr. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod gennych y sgiliau, yr wybodaeth, a’r adnoddau angenrheidiol i ddarparu gofal o safon ac ymdrin ag unrhyw heriau a all godi.
- Cydweithio a gwaith tîm: Byddwch yn aml yn cydweithio â gweithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud â gofal a chymorth yr unigolyn, fel gweithwyr cymdeithasol neu ddarparwyr gofal iechyd. Mae’r gwaith tîm hwn yn helpu i greu ymagwedd gyfannol a chydlynol at gymorth a llesiant yr unigolyn.
- Dysgu parhaus a thwf personol: Mae bod yn ofalwr Cysylltu Bywydau yn cynnig cyfleoedd ar gyfer eich twf a’ch dysgu personol. Byddwch yn cael cipolwg gwerthfawr ar wahanol brofiadau a safbwyntiau, yn datblygu sgiliau gofalu a chyfathrebu newydd, ac yn gwella eich dealltwriaeth o anghenion a galluoedd amrywiol.
Mae’n bwysig nodi y gall bod yn ofalwr Cysylltu Bywydau hefyd gyflwyno heriau ac mae’n gofyn am amynedd, empathi, a gwydnwch. Serch hynny, mae cael effaith gadarnhaol ar fywyd unigolyn a chyfrannu at ei hapusrwydd a’i lesiant cyffredinol yn rhoi boddhad aruthrol i lawer o ofalwyr.
Rhinweddau a phriodoleddau personol yr ydym yn chwilio amdanynt
Dylai gofalwyr Cysylltu Bywydau feddu ar rinweddau megis:
- Empathi
- Amynedd
- Sgiliau cyfathrebu da
- Diddordeb gwirioneddol mewn cefnogi unigolion eraill
- Tosturi
- Cydymdeimlad
- Hyblygrwydd
sydd i gyd yn nodweddion pwysig wrth ddarparu gofal o safon.
Profiad perthnasol yr ydym yn chwilio amdano
Gall profiad blaenorol mewn rolau gofalu, fel cefnogi unigolion ag anableddau, oedolion hŷn, neu unigolion â chyflyrau iechyd meddwl, fod yn fanteisiol. Mae’r profiad hwn yn helpu i ddangos eich dealltwriaeth o’r anghenion a’r heriau sy’n gysylltiedig â chefnogi unigolion sydd â gofynion gofal.
Hyfforddiant a datblygu
Rydym yn darparu cyrsiau hyfforddi a all wella eich sgiliau a’ch gwybodaeth mewn meysydd megis diogelu, cymorth cyntaf, rhoi meddyginiaeth, a chyflyrau neu anableddau penodol.
Gwiriadau cefndir a gofynion diogelwch
Mae Cysylltu Bywydau yn blaenoriaethu diogelwch a llesiant unigolion agored i niwed. Fel rhan o’r broses ymgeisio, bydd gofyn i chi gael gwiriadau cefndir, megis gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i sicrhau nad oes unrhyw gofnodion troseddol na phryderon ynghylch diogelu.