Cysylltu Bywydau (Lleoli oedolion)
Straeon Cysylltu Bywydau
Gabriella
Mae Fiona a Nigel, sy’n ofalwyr hirdymor i Gabrielle, yn disgrifio’r gwaith fel gwaith sy’n 'newid bywydau', gan gydnabod na allent ei wneud heb gymorth Cysylltu Bywydau Gorllewin Cymru, gan ei fod yn rhoi incwm cyson iddynt. Dywedodd Fiona, “allwch chi ddim gwneud hyn fel swydd yn unig, mae’n rhaid i chi deimlo bod hyn yn rhywbeth rydych chi eisiau ei wneud” gan barhau “mae [Gabrielle] yn rhan o’n teulu ac mae ein holl deulu yn agos iawn ati”.
Sarah
Mae Emily, a ddaeth yn ofalwr seibiant byr yn ddiweddar, yn ei weld fel ffordd o helpu unigolion, wrth allu gweithio mewn ffordd hyblyg. Mae Sarah, sydd weithiau’n aros gydag Emily, yn disgrifio sut mae’r berthynas ag Emily a gofalwyr Cysylltu Bywydau eraill wedi rhoi hwb i’w hyder, gan ddatgan mai dyma yw’r “peth gorau sydd erioed wedi digwydd i mi”.